Sefyllfaoedd ariannol bregus yn ystod y pandemig: cyfyng-gyngor i awdurdodau lleol

Mae pandemig y Coronafeirws wedi sbarduno newid yn y ffordd rydym ni, fel cymdeithas, yn meddwl am fod yn fregus. Yn hanesyddol, rydym wedi tueddu i ddefnyddio diffiniad moesol i ddisgrifio bod yn fregus, sy’n arwain at gyfres o rwymedigaethau a dyletswyddau sydd wedi’u hymgorffori mewn deddfwriaeth megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), 2014 i amddiffyn y rhai hynny sy’n cael eu hystyried fel yr aelodau gwannaf o’n cymdeithas. Mae’n werth nodi bod Llywodraethau’r DU a Chymru wedi ceisio amddiffyn y rhai hynny a ystyrir yn hynod fregus yn feddygol tra’n cynnig darpariaeth ar gyfer y rhai hynny sy’n fregus yn ariannol ar yr un pryd. Mae hyn wedi creu problem i awdurdodau lleol a oedd eisoes o dan bwysau ariannol sylweddol cyn y pandemig: sut mae’n bosibl iddynt barhau i ariannu gwasanaethau hanfodol a’u rhwymedigaethau statudol tra’n helpu’r rhai hynny sydd efallai’n cael trafferth yn talu?

Mae maint a chyflymder y newidiadau ym mywydau gwaith pobl yn y misoedd diwethaf yn golygu fod llawer wedi gweld gostyngiad yn eu hincwm. Gyda llawer yn methu â dibynnu ar gynilion wrth gefn, mae’r pandemig wedi taflu goleuni ar pa mor fregus yw sefyllfa ariannol llawer o bobl o fewn ein cymdeithas. Erbyn dechrau Ebrill, roedd 34% o’r rheini sy’n rhentu yng Nghymru ar ei hôl hi, neu bod disgwyl iddynt fynd ar ei hôl hi, gyda’u taliadau rhent ac un ym mhob naw (11%) eisoes ar ei hôl hi o ran taliadau un neu fwy o filiau’r cartref. Gyda budd-daliadau ddim bob amser yn ddigon i dalu am wariant mawr yn y cartref, mae mwy a mwy yn gorfod troi at fanciau bwyd gan nad ydynt yn gallu diwallu eu hanghenion sylfaenol.

Mae nifer o gamau wedi’u cymryd i gynnig cefnogaeth ariannol i’r rhai hynny sydd yn methu gweithio. Mae hyn wedi cynnwys seibiannau o ran talu morgais; atal rhag troi pobl allan o lety cymdeithasol a llety a rentir yn breifat; cymorth gan gwmnïau cyfleustodau i’r rhai sy’n cael trafferth i dalu eu biliau, a’r disgwyl y bydd benthycwyr yn cynnig cefnogaeth dros dro, eithriadol ac ar unwaith i’r defnyddwyr hynny sy’n wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i’r amgylchiadau yn sgil coronafeirws. Fodd bynnag, un o’r prif daliadau sydd wedi’u heithrio yw treth y cyngor.

Hyd yn oed cyn y cyfnod clo, dywedodd bron i chwarter o oedolion Cymru sy’n gorfod talu treth y cyngor eu bod yn ei gweld hi’n ‘anodd’ neu’n ‘anodd iawn’ i gynnal taliadau treth y cyngor, gydag un ym mhob saith yn dweud eu bod nhw wedi methu taliad dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yr unigolion a nodwyd fel y rhai sydd â risg uwch o fethu taliadau yw’r rhai hynny sydd â’u hincwm yn amrywio bob mis, gan gynnwys yr hunangyflogedig, y rhai sy’n byw â chyflwr iechyd meddwl, sy’n rhiant sengl neu sy’n denant yn y sector rhentu preifat. Dyma’r union bobl sydd wedi teimlo’r ergyd ariannol fwyaf o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws. Mae gan hyn oblygiadau i’r awdurdodau lleol sy’n dibynnu ar y refeniw a gynhyrchir gan daliadau treth y cyngor, incwm gan ganolfannau hamdden a meysydd parcio, a threthi busnes i gynnig gwasanaethau gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi’u targedu at y mwyaf bregus.

Mae awdurdodau lleol yn cynnal cartrefi gofal preswyl a llety lloches; yn cefnogi oedolion a phlant bregus yn eu cartrefi ac mewn lleoliadau gofal; yn cynnig gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain ac yn helpu’r rhai hynny sydd wedi’u rhyddhau o ysbytai, yn rhan o’u dyletswyddau statudol o dan Ddeddf 2014. Maent hefyd yn ymwneud â dosbarthu bwyd i’r rhai hynny sydd mewn angen ac sy’n byw mewn tlodi, gan gynnwys darparu prydau ysgol am ddim; helpu a rhoi llety i’r digartref, a chynnig gwasanaethau hanfodol eraill (priffyrdd, iechyd amgylcheddol, diogelu’r cyhoedd a chasglu sbwriel ac ati). Bydd y dirwasgiad economaidd disgwyliedig yn cynyddu’r galw am wasanaethau cyhoeddus wrth i fwy orfod dibynnu ar Gredyd Cynhwysol. Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu’r galw am gynlluniau i leihau treth y cyngor a lleihau’r nifer o gartrefi sy’n gorfod talu treth y cyngor.

Yng Nghymru, mae gwasanaethau cyhoeddus a’u partneriaid dan gontract wedi canfod ffyrdd o ymateb yn well i ddyledwyr sy’n fregus, gan gael gwared ar y bygythiad o garchar am beidio â thalu treth y cyngor. Mae Protocol Treth Gyngor Cymru yn ymrwymo i ddefnyddio dull mwy cyson, sy’n canolbwyntio ar y preswylydd, i fynd i’r afael â dyled, ôl-daliadau a gorfodaeth, ac mae eithriadau ar gyfer y rhai analluog yn feddyliol wedi’u hyrwyddo. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi hyrwyddo cynllun gostyngiad treth y cyngor a chymhwysedd ar gyfer gostyngiadau/eithriadau fel mecanweithiau i leddfu’r baich unigol tra bod rhai awdurdodau lleol wedi ymrwymo i atal camau gorfodi. Ond mae hyn yn debygol o gael goblygiadau parhaol i awdurdodau lleol sy’n dibynnu ar dreth y cyngor fel prif ffynhonnell refeniw – mae’r WLGA wedi awgrymu fod awdurdodau lleol yn wynebu colled incwm o £33 miliwn bob mis.

Mae rhywfaint o gymorth wedi’i gynnig, gyda Llywodraeth y DU yn cydnabod rôl hanfodol yr awdurdodau lleol wrth ymateb i Covid-19, gan roi £95 miliwn yn ychwanegol i Gymru yn wreiddiol, wedi’i ddilyn gan £24 miliwn pellach ym mis Mai. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda’r cyfraniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y cyllid ychwanegol fydd ar gael yn y gyllideb atodol, fe amcangyfrifir y bydd yn cymryd cenhedlaeth i gynghorau dalu am bandemig y coronafeirws.

Yn dilyn cyfnod estynedig o lymder, bydd gwasgedd o’r newydd ar gyllid yn arwain at orfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn i awdurdodau lleol allu diwallu eu rhwymedigaethau statudol i gefnogi’r mwyaf bregus. Bydd angen taro cydbwysedd addas rhwng lleddfu’r baich ar unigolion a chreu’r refeniw angenrheidiol i dalu am wasanaethau hanfodol. Oni bai eu bod yn mynd i’r afael â materion cyllid a dosbarthu sylfaenol, bydd awdurdodau lleol yn gorfod wynebu dewis pa grwpiau bregus i’w blaenoriaethu — sefyllfa y dylem geisio ei hosgoi.