Sut gallwn adeiladu Cymru fwy cyfartal? Mae ein gwaith yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau strwythurol y mae angen i ni eu goresgyn, gan ddefnyddio ystod o arbenigedd a thystiolaeth i benderfynu beth sydd angen ei wneud a sut i'w wneud.
Mae’r pandemig wedi amlygu ymhellach dirwedd o anghydraddoldeb yng Nghymru, gyda rhai pobl – ac ardaloedd – yn anghymesur, ac yn aml yn lluosi, dan anfantais. Er bod ymdrechion pwysig ar y gweill i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb o’r fath, mae hyn yn her i bolisi ac arfer pan fo ffactorau strwythurol a systemig hirsefydlog ar waith. Mae rhaglen Hyrwyddo Cydraddoldebau WCPP yn ymgysylltu â gwahanol ddimensiynau anghydraddoldeb trwy ymchwil a thystiolaeth – er enghraifft, ein Hadolygiad o Dlodi sydd ar ddod a’n gwaith cyhoeddedig ar gydraddoldeb hiliol – i ystyried yr hyn y gallai ‘Cymru fwy cyfartal’ ei olygu a’i ofyn mewn gwirionedd.