Telerau ac Amodau

Mae pob testun, delwedd a chynnwys arall ar y wefan hon yn hawlfraint Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru oni nodir yn benodol fel arall.

Ni ellir eu lawrlwytho neu eu copïo heb gael caniatâd yn gyntaf at ddibenion addysgu, gweinyddiaeth ac ymchwil, neu at ddefnydd personol, anfasnachol.

Os ydych yn dymuno atgynhyrchu cynnwys ein gwefan mewn unrhyw ffordd arall, neu at unrhyw ddiben arall, rhaid i chi’n gyntaf gysylltu â’r Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu’r Ganolfan i gael caniatâd.

Cysylltiadau allanol

Nid yw’r Ganolfan yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi’r farn y maent yn ei mynegi, neu’n sicrhau bod y wybodaeth y maent yn ei darparu’n gywir. Caiff unrhyw gyfeiriad gan y Ganolfan drwy’r dolenni i safleoedd gwe allanol eu darparu fel mater o gwrteisi. Ni ddylid dehongli unrhyw gyfeiriad, drwy gyfrwng dolenni o’r fath, gan y defnyddiwr fel cymeradwyaeth gan y Ganolfan o’r gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau, unigolion neu ddarparwyr allanol eraill. Dylai’r defnyddiwr fodloni ei hun bod y gwasanaethau a ddarperir gan y cwmni, yr unigolyn neu’r darparwr allanol yn diwallu anghenion a gofynion y defnyddiwr yn briodol.

Nid yw’r Ganolfan yn derbyn cyfrifoldeb nac yn atebol am wasanaethau a ddarperir gan gwmnïau, unigolion neu ddarparwyr allanol eraill. Ymhellach, nid yw’r Ganolfan yn derbyn cyfrifoldeb nac yn atebol am gynnwys neu wybodaeth ar y wefan sy’n perthyn i gwmnïau, unigolion neu ddarparwyr allanol eraill neu ar gyfer unrhyw niwed a achoswyd neu sy’n codi mewn perthynas â hynny.

Firysau

Gwneir pob ymdrech i sicrhau nad yw cynnwys i’w lawrlwytho yn cynnwys firysau. Nid yw’r Ganolfan yn atebol am unrhyw iawndal sy’n codi yn sgil haint feirws.

Nodau masnach

Mae pob nod masnach ar y safle hwn yn parhau’n eiddo i’w perchenogion unigol a chânt eu defnyddio at ddibenion adnabod yn unig.