Goblygiadau pandemig y Coronafeirws i economi Cymru

Mae pandemig y Coronafeirws yn cael effaith ddofn a digynsail ar economi Cymru – economi sydd eisoes wedi’i wanhau gan gwtogi a llymder yn y sector cyhoeddus yn dilyn argyfwng ariannol 2008, yn ogystal â’r heriau a achosir gan adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae pandemig y Coronafeirws yn ychwanegu at yr heriau hyn ac yn amlygu gwendidau presennol. Serch hynny, mae hefyd yn gyfle cadarnhaol i feddwl am rôl y wladwriaeth a chymdeithas. Mae’r blog hwn yn crynhoi rhai o’r heriau ac yn adlewyrchu ar y cyfleoedd y mae’r pandemig yn eu cynnig i wneud newidiadau cadarnhaol i hybu adferiad economaidd a chadernid yn y tymor canolig a hir yng Nghymru.

Yr her gyntaf yw faint o amser y bydd yr adferiad yn ei gymryd, a’r crebachu dilynol ar yr economi yn y byrdymor a’r tymor canolig. Mae strategaeth gadael cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru, yn debyg i wledydd eraill y DU, yn rhoi blaenoriaeth i adfer gweithgarwch economaidd, iechyd y cyhoedd a’r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu’n llawn dros weithgareddau cymdeithasol a rhyddid yr unigolyn. Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl caniatáu ar gyfer hyn, bydd yr adferiad yn cymryd amser a bydd yr economi yn crebachu yn y tymor byr a chanolig. Ac felly y dylai fod: gwnaeth llywodraethau ledled y byd ati i gau eu heconomïau er mwyn gwella iechyd y cyhoedd. Y prawf allweddol fydd sut y bydd gweithgarwch economaidd yn cael ei adfer, a bydd y camau a gymerir nawr yn penderfynu hyn.

Yr ail her yw effeithiau anghyfartal yr argyfwng, o fewn a rhwng gwledydd y DU: ni fydd pandemig y Coronafeirws yn wastatäwr mawr. Mae i Gymru nodweddion penodol sy’n ei gwneud yn wahanol i rai rhannau eraill o’r DU. Er bod rhai o’r rhain yn lliniaru yn erbyn unrhyw ddirywiad a ddisgwylir, e.e. mae cyfran fwy o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae rhai eraill yn heriau penodol. Mae gan Gymru gyfran uwch o weithwyr ar gyflogau isel ac yn gweithio mewn sectorau a gafodd eu cau fel manwerthu a lletygarwch cyn y pandemig.

Trydedd her yw’r ffaith nad yw tynged economaidd Cymru yn gyfan gwbl yn ei dwylo ei hun. Mae’r sylfaen drethi yng Nghymru wedi lleihau’n ddramatig o ganlyniad i gyfyngiadau symud, a bydd hynny’n lleihau cyllideb Llywodraeth Cymru, ac mae argyfwng o’r maint hwn yn gofyn am ymyriadau economaidd allweddol a arweinir gan y wladwriaeth. Mae ymyrraeth y wladwriaeth yn yr economi – drwy gynlluniau cadw swyddi yn ogystal â chymorth treth a lles – yn hanfodol, ond Senedd y DU sy’n bennaf gyfrifol amdani. Nid oes gan y Senedd na Llywodraeth Cymru bwerau benthyca – na’r gallu i wneud hynny – i weithredu ar eu pennau eu hunain.

Fel yr amlinellwyd uchod, mae’r heriau a wynebir yn enfawr. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth hefyd yn cyfeirio at nifer o ymyriadau allweddol y gellir eu cymryd i gynnal a chefnogi gweithgarwch economaidd yn y tymor canolig a hirach.

Bydd angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi’n barhaus bobl sydd wedi cael eu gwneud yn arbennig o agored i niwed – yn feddygol, yn economaidd ac yn gymdeithasol – gan bandemig y Coronafeirws. Yn ogystal â mynd i’r afael â’r mathau gwahanol hyn o wendidau, mae blaenoriaethau economaidd hirsefydlog sgiliau a seilwaith yn parhau yr un mor bwysig ag erioed. Ac mae’n amlwg y bydd rhai busnesau a sectorau yn adfer mewn gwahanol ffyrdd i eraill.

Bydd ar rai, er enghraifft rhai siopau manwerthu, angen cymorth tra byddant yn dychwelyd yn raddol i rywbeth sy’n debyg i weithgarwch economaidd arferol. Bydd angen cymorth mwy parhaus ar fusnesau eraill, fel y rhai yn y sector lletygarwch, oherwydd bydd dychwelyd i’r arfer yn cymryd mwy o amser, ac ni ellir cadw llafur a sgiliau cyflogeion yn ôl am gyhyd. Mae’n bosibl y bydd angen cymorth wedi’i deilwra ar drydydd grŵp bach ond pwysig o fusnesau yng Nghymru, megis y rhai mewn ardaloedd twristiaeth gwledig, nad oes ganddynt ffynhonnell amlwg arall o incwm a gweithgarwch wrth fynd i’r afael â’r pandemig.

Mae hyn yn gofyn llawer gan y llywodraeth a’i gallu i gefnogi’r economi’n effeithiol. Mae Mazzucato yn dadlau bod pandemig y Coronafeirws yn ‘gofyn am ailfeddwl am yr hyn y mae Llywodraethau yn ei wneud: yn hytrach nag atgyweirio methiannau’r farchnad pan fyddant yn codi, dylent symud tuag at fynd ati i lunio a chreu marchnadoedd sy’n sicrhau twf cynaliadwy a chynhwysol’. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r wladwriaeth fynd ati i sbarduno twf, gan ganolbwyntio’n fwy penodol ar sectorau a lleoedd penodol.

Mae mabwysiadu fersiwn o’r dull hwn yn dibynnu ar nifer o ystyriaethau. A oes gan Lywodraeth Cymru y gallu i chwarae rhan mor ragweithiol yn economi Cymru? A oes gan sefydliadau eraill fel Llywodraeth Leol y gallu i wneud hynny? Os nad oes, sut y gellir creu hyn? Mae fy nghydweithwyr eisoes wedi dangos bod angen dadl am gadernid a chynaliadwyedd Llywodraeth Leol yng Nghymru. Mae hefyd yn codi cwestiynau am rôl actorion eraill, fel prifysgolion, sefydliadau angori, y trydydd sector a busnesau eu hunain. Mae’n debygol y bydd grŵp cynghori, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ystyried llawer o’r materion hyn.

Mae pandemig y Coronafeirws hefyd wedi ein hatgoffa o bwysigrwydd sylfaenol y wladwriaeth. Mae Portes yn dadlau nad argyfwng ariannol 2008 ei hun a oedd yn gostwng disgwyliad oes a lles economaidd y bobl dlotaf ym Mhrydain, ond y tangyllido yn y wladwriaeth a’r system les a oedd yn sail i ymateb Llywodraeth y DU yn y canlyniadau. Ceir cyd-ddibyniaeth rhwng buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a lles, ac economi ddeinamig. Bydd cefnogi’r rhai a wnaed yn agored i niwed gan bandemig y Coronafeirws a’i effeithiau yn darparu cyflogaeth hollbwysig a chyfleoedd i greu cyfoeth, ac yn eu tro yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r heriau hyn yn amlochrog ac mae angen ymateb systematig a hyblyg gan y Llywodraeth. Bydd angen cyfaddawdu a chymryd penderfyniadau ac amhosibl i Lywodraethau eu cymryd, a thrwy hynny dylent ddod â chymaint o eglurder, tryloywder a chraffu ag y bo modd. Fodd bynnag, er bod hyn yn her nas gwelwyd yn ystod ein hoes, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y pandemig hefyd yn cynnig cyfle allweddol, a bod ymatebion a allai, o’u mabwysiadu, gefnogi economi fwy cynaliadwy a gwydn yng Nghymru yn y dyfodol.