Ailadeiladu’n well: pwysigrwydd ysgogiad gwyrdd

Mae’r cyfnod cloi sydd wedi’i orfodi ledled y DU, a sbardunwyd gan y pandemig Coronafeirws, wedi cael effaith enfawr ar y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd o ddydd i ddydd. Er bod cost economaidd y cyfnod cloi yn ddifrifol, un sgil-effaith amlwg yw effaith y cyfnod cloi ar yr amgylchedd. Yn fyd-eang, mae allyriadau CO2 wedi lleihau’n fwy o ganlyniad i’r pandemig Coronafeirws nag unrhyw ddigwyddiad byd-eang arall.

Fodd bynnag, mae risg y gallai polisïau a gaiff eu mabwysiadu i sbarduno’r economi achosi adlam allyriadau a fyddai’n niweidio’r amgylchedd, gan atal y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd – a pho hwyaf y parha’r pandemig, y mwyaf yw’r risg y tueddir yn fwy at hybu twf economaidd uwchlaw’r effaith bosib ar yr amgylchedd. Dylai llunwyr polisi ystyried ffyrdd o fanteisio ar yr angen am ysgogiad economaidd a phryderon y cyhoedd ynglŷn â newid yn yr hinsawdd i annog ‘gwellhad gwyrdd’ o’r pandemig.

Fodd bynnag, er bod y cyfnod cloi yn amlwg wedi achosi lleihad dramatig mewn gweithgarwch unigol (o leiaf dros dro) mewn rhai sectorau diwydiannol, mae hefyd wedi amlygu cyfyngiadau gweithredoedd unigol. Er bod allyriadau carbon wedi lleihau, mae hyn wedi amrywio yn ôl dwysedd carbon diwydiannau lleol: dim ond lleihad o 10% mewn allyriadau sydd wedi’i weld yn Efrog Newydd, er bod y ddinas gyfan wedi’i chau i raddau helaeth, tra bod y lleihad ym Mharis yn tua 80%.  Mae hyn gan fod gweithfeydd tanwyddau ffosil o fewn ffiniau dinas Efrog Newydd yn gyfrifol am gyfran sylweddol o allyriadau, sy’n golygu mai cymharol fach yw effaith y lleihad mewn trafnidiaeth ar allyriadau nwyon tŷ gwydr cyffredinol.

I’r gwrthwyneb, fodd bynnag, roedd lefelau llygredd aer yn y DU ar ddiwedd Mawrth yn debyg i “Sul y Pasg arferol”, gyda lefelau nitrogen deuocsid yn gostwng gan draean i hanner yn Llundain, Birmingham, Bryste a Chaerdydd. Mae’r gostyngiadau mwyaf mewn llygredd aer wedi’u gweld yn yr ardaloedd sydd â’r traffig ffordd trymaf, oherwydd yn gyffredinol mae’r rhan fwyaf o lygredd aer trefol yn cael ei achosi gan draffig.

Awgryma hyn, er ei fod yn beth positif, nad yw’n ddigon i gymryd yn ganiataol y bydd newidiadau ymddygiadol sydd wedi digwydd oherwydd y pandemig a’r cyfnod cloi yn parhau ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi, nac y bydd hyn yn ddigon i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Yn sgil hyn, bydd angen ystyried sut mae ynni’n cael ei gynhyrchu a’i drawsyrru yn llawer ehangach i allu cynnal ac adeiladu ar y manteision amgylcheddol sydd wedi’u gweld wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio’n raddol.

Mae profiad blaenorol yn destun optimistiaeth a phryder. Yn dilyn y cwymp ariannol yn 2009, gwelwyd gostyngiad mewn allyriadau. Fodd bynnag, cafwyd adlam amlwg yn 2020, gyda chynnydd parhaus i ddilyn. Roedd hyn gan fod yr ysgogiad yn canolbwyntio ar adfer twf economaidd uwchlaw ystyriaethau amgylcheddol, gan gynnwys gwariant ysgogol a gynyddodd y defnydd o danwyddau ffosil. Daeth ymchwilwyr a archwiliodd yr achos i’r casgliad fod yr adlam mewn allyriadau carbon deuocsid yn dilyn yr argyfwng ariannol byd-eang yn gyfle a gollwyd i symud yr economi fyd-eang i ffwrdd o duedd allyriadau uchel.

I osgoi ailadrodd y sefyllfa hon, mae ymdrech bendant wedi’i gwneud i sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd wedi’u cynnwys yn yr adferiad yn dilyn y Coronafeirws. Er enghraifft, ysgrifennodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd lythyr agored at Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn cynghori sut “y gallai ac y dylai polisi hinsawdd effeithiol chwarae rhan yn yr adferiad”. Amlinellodd y pwyllgor chwe egwyddor y dylai’r llywodraeth alinio gwariant ysgogol yn eu herbyn, wedi’u hanelu at newidiadau polisi unigol a systematig.

Mae tystiolaeth y gallai’r dull gweithredu hwn arwain at ganlyniadau byrdymor a hirdymor gwell ar wariant ysgogol llywodraethol o gymharu â gwariant ysgogol confensiynol, fel y dadleuir mewn papur arfaethedig yn seiliedig ar arolwg o 230 o economegwyr blaenllaw.

Yng Nghymru, bydd cyflawni ysgogiad ‘gwyrdd’ yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael (y bydd rhan helaeth ohono’n siŵr o ddibynnu ar ganlyniadau Barnett yn sgil gwariant llywodraeth y DU) a’r pwerau penodol sydd wedi’u dirprwyo i Lywodraeth Cymru. Serch hynny, mae nifer o feysydd lle gallai Llywodraeth Cymru weithredu i ddatblygu ei pholisi amgylcheddol ei hun a hyrwyddo ‘gwellhad gwyrdd’ yn unol ag agenda ‘trosi teg’. Gallai’r rhain gynnwys:

  • buddsoddi mewn seilwaith ffisegol glân drwy annog ynni adnewyddadwy graddfa fach, gan ddefnyddio’r pwerau sydd wedi’u dirprwyo i Lywodraeth Cymru;
  • rhaglenni effeithlonrwydd ar gyfer adnewyddu ac ôl-ffitio cartrefi;
  • buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i fynd i’r afael â diweithdra cynyddol o ganlyniad i’r pandemig ac annog newid strwythurol tuag at ddatgarboneiddio; a
  • buddsoddiad cyfalaf naturiol i sicrhau bod ecosystemau’n wydn ac yn adfywio.

Bydd yn bwysig datblygu’r rhain ochr yn ochr â mesurau ysgogol mwy traddodiadol, o ystyried dyfnder disgwyliedig y dirwasgiad, a allai gyfyngu’r graddau y gall Cymru fwrw ‘mlaen â’r polisïau hyn. Fodd bynnag, mae’r adferiad yn cynnig cyfle allweddol ar gyfer annog economi a chymdeithas hinsawdd-gyfeillgar, gyda barn arbenigol yn dangos y gall mesurau ysgogol ‘gwyrdd’ gyflawni hyn ar ben adferiad economaidd effeithiol.