Polisi Preifatrwydd

Ni fydd ein gwefan yn storio nac yn casglu data personol (e.e. enw, cyfeiriad ebost) oni bai bod ein defnyddwyr yn gwybod am hynny ymlaen llaw ac yn rhoi caniatâd.

Os gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ar gyfer y safle, efallai y gofynnir ichi a ydych yn dymuno derbyn unrhyw ohebiaeth bellach gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP). Bydd y Ganolfan yn sicrhau bod yr holl ddata personol a roddir yn cael ei gadw mor ddiogel ag y bo modd, yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.

Data

Nid yw’r Ganolfan yn gwerthu nac fel arall yn trosglwyddo unrhyw ddata personol i gwmnïau masnachol neu sefydliadau eraill, ac eithrio 1) ystadegau gwe (gweler isod) sy’n cael eu cadw a’u rheoli gan gwmni trydydd parti (Google, Inc), 2) ein hamgylchedd gweinydd a gynhelir oddi ar y we (Soapbox), a 3) Mailchimp, sy’n coladu ac yn rheoli ein rhestr bostio.

Briwsion ac ystadegau’r we

Mae rhai adrannau o wefan y Ganolfan yn defnyddio briwsion i hwyluso profiad y defnyddiwr. Yn ogystal, defnyddir briwsion i gasglu ystadegau cyffredinol (nid personol) at ddibenion ystadegau defnydd o’r wefan. Ni ddefnyddir briwsion i gipio neu storio gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall.

Mae’r Ganolfan yn cadw cofnodion parhaol o weithgarwch gweinydd y we. Mae’r ffeiliau log hyn yn cynnwys manylion am gyfeiriadau IP defnyddwyr y we, y math o borwr a ddefnyddiwyd a’r dudalen a ymwelwyd ag ef ddiwethaf ayyb. Defnyddir y ffeiliau log i ddadansoddi sut mae’r wefan yn cael ei defnyddio gan ymwelwyr a gallant gael eu cadw yn ddienw ar gyfer cofnodion hanesyddol.

Mae gwefan WCPP yn defnyddio meddalwedd dadansoddi sy’n cael ei chynnal ar y we. Mae’r rhain yn wasanaethau a gynhelir sy’n cael eu darparu a’u rheoli gan gwmnïau trydydd parti. Google, Inc. yw prif ddarparwyr meddalwedd dadansoddi’r we a gynhelir ar gyfer CPP. Mae ‘Google Analytics’ yn defnyddio ‘briwsion’ (ffeil testun a anfonir i gyfrifiaduron defnyddwyr wrth iddynt bori trwy ein gwefannau) i helpu dadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio ein gwefannau. Bydd y wybodaeth a gynhyrchir gan y briwsion ynglŷn â’n gwefannau (gan gynnwys cyfeiriadau IP) yn cael ei throsglwyddo i a’i storio gan Google, Inc. ar weinyddwyr a allai fod yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google, Inc. yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn gwerthuso’r defnydd o’n gwefan, llunio adroddiadau ar weithgarwch gwefannau i weithredwyr gwefannau ac i ddarparu gwasanaethau cysylltiedig eraill i WCPP.

Gall Google, Inc. hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti os bydd hynny’n ofynnol o dan y gyfraith, neu os bydd trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google, Inc. Ni fydd Google, Inc. yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google, Inc. Gallwch wrthod y defnydd o friwsion drwy ffurfweddu eich porwr i wneud hynny. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google, Inc. brosesu data amdanoch chi yn y modd ac at y dibenion a nodir uchod.