Ailadeiladu ar ôl pandemig y Coronafeirws: cynnal etifeddiaeth o wirfoddoli

Un o sgil-effeithiau cadarnhaol prin y pandemig yw’r cynnydd aruthrol mewn gwirfoddoli rydym wedi’i weld ledled cymunedau Cymru – o ran y grwpiau llawr gwlad sydd wedi ymddangos ledled y wlad a’r miloedd o wirfoddolwyr sydd wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru a chynghorau lleol. Rydym wedi clywed llawer am sut mae cymunedau wedi dod ynghyd mewn ymateb i’r pandemig yng Nghymru, a’r tu hwnt, a sut gall y math hwn o wirfoddoli gael ei gefnogi, ond llai am beth gallai hyn i gyd ei olygu i ddyfodol gwirfoddoli yng Nghymru.

Mae pethau perthnasol i’w dysgu o drychinebau blaenorol, yn arbennig o ran ‘gwirfoddoli digymell’ mewn sefyllfaoedd o argyfwng, megis mewn ymateb i lifogydd neu ymosodiadau terfysgol. Gwelodd ymchwil ar wirfoddoli digymell yn ystod 9/11 gynnydd aruthrol mewn gwirfoddoli yn y cyfnod o dair wythnos yn dilyn 9/11, ond gostyngodd y cyfraddau gwirfoddoli yn ôl i lefelau arferol wedi hynny. Mae cynnal gwirfoddoli ar ôl yr argyfwng presennol yn bwysig ar gyfer datblygu etifeddiaeth o gyfranogiad cynyddol yng Nghymru ond hefyd i allu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i donnau’r dyfodol o Covid-19 neu bandemigau eraill. Dyma dri pheth y mae angen i ni eu hystyried wrth baratoi ar gyfer y dyfodol hwn.

 

  1. Mae angen i ni wybod a oes unrhyw gynnydd wedi bod mewn gwirfoddoli mewn ymateb i’r pandemig.

 

Gwnaeth bron i draean o oedolion (28%) yng Nghymru wirfoddoli yn 2017-18. A yw’r rheini sydd nawr yn gwirfoddoli yn wirfoddolwyr newydd yn bennaf, neu’n bobl a oedd eisoes yn gwirfoddoli ond sydd wedi troi eu hymdrechion at y pandemig? Os mai’r olaf o’r ddau sy’n wir, efallai na fydd unrhyw gynnydd go iawn mewn gwirfoddoli. Yn wir, fe allai fod gostyngiad mewn cyfraddau gwirfoddoli cyffredinol, gyda gweithgarwch gwirfoddoli wedi’i atal mewn rhai achosion a llawer o wirfoddolwyr yn hunan-warchod.

Os oes yna wirfoddolwyr newydd, sut gellir eu cefnogi i barhau i wirfoddoli pan fydd y pandemig wedi lleddfu, yn arbennig os bydd dychwelyd i fywyd gwaith a chymdeithasol yn golygu bod gan bobl lai o amser? Rydym yn gwybod, cyn y pandemig, fod sectorau penodol yn dioddef o ddiffyg gwirfoddolwyr, gyda channoedd o bobl ifanc ar restrau aros ScoutsCymru gan nad oes digon o arweinwyr Sgowtiaid, er enghraifft. Mae’r defnydd chwim o wirfoddolwyr dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn awgrymu y gallai dileu rhwystrau diangen i gynnwys a chefnogi gwirfoddolwyr newydd i ddod o hyd i gyfleoedd ar ôl y pandemig, gan gynnwys mathau newydd o wirfoddoli o bell sydd wedi dod i’r amlwg, helpu i lenwi rhai o’r bylchau hyn yng Nghymru. Canfu astudiaeth ddigymell o wirfoddolwyr mewn ymateb i drychinebau naturiol yn Awstralia fod agen ymatebion targedig sy’n ystyried anghenion penodol ar gyfer gwirfoddolwyr newydd a phrofiadol i gynnal etifeddiaeth o wirfoddoli.

 

  1. Anaml y mae gwirfoddoli’n costio dim ac mae angen ei gydlynu a darparu adnoddau.

Mae angen adnoddau i gefnogi gwirfoddolwyr newydd a phresennol hefyd. Mae cronfeydd amrywiol o gyllid gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi’u cadarnhau i gefnogi elusennau yng Nghymru drwy’r argyfwng presennol. Ond mae elusennau Cymru yn cael trafferthion ariannol er gwaethaf hyn, boed gyda’r galw digynsail yn y galw am eu gwasanaethau neu gan fod gweithgareddau codi arian traddodiadol wedi’u hatal dros dro. Mae Cyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol yn amcangyfrif y bydd elusennau yn y DU wedi colli mwy na £4bn dros 12 wythnos. Bydd hyn nid yn unig yn effeithio ar drydydd sector bywiog Cymru, yn arbennig y micro-elusennau sy’n cynrychioli cyfran helaeth o’n 8,000 o elusennau, ond hefyd sefydliadau ag adnoddau annigonol nad ydynt o bosib yn gallu ymgysylltu’n llawn ag unrhyw wirfoddolwyr newydd sydd eisiau helpu. I reoli hyn – mewn ffordd sy’n sicrhau bod y sector yn parhau i fod yn annibynnol ar y llywodraeth – bydd yn hanfodol cynnig cymorth ac adnoddau priodol i’r trydydd sector yng Nghymru i gynnal gwirfoddoli wrth i ni symud i mewn i’r cyfnod adfer.

 

  1. Bydd yn bwysig ystyried y gweithgareddau y mae gwirfoddolwyr wedi’u hysgwyddo mewn ymateb i’r pandemig i lywio eu rolau a’u perthynas â’r wladwriaeth yn y dyfodol.

Mae’r berthynas rhwng y trydydd sector a’r llywodraeth hefyd yn codi cwestiynau am y mathau o weithgareddau y dylai (ac na ddylai) gwirfoddolwyr eu cyflawni. Yn ystod y pandemig rydym wedi clywed straeon am wirfoddolwyr yn codi arian i gyfrannu at fesuryddion trydan pobl y mae eu hawliadau budd-dal wedi’u hoedi, yn gwnïo Cyfarpar Diogelwch Personol, a’r Capten Tom yn codi £40m i Elusennau Ynghyd y GIG – pethau y gellid dadlau ddylai fod yn gyfrifioldeb i’r wladwriaeth yn hytrach nag elusen breifat. Mae pryderon wedi bod ers cryn amser fod angen ymdrin â gwirfoddoli mewn iechyd a gofal cymdeithasol, er ei fod yn rhan hanfodol o’r gwasanaeth, yn ofalus i osgoi llithro o waith cyflenwol i eilyddio swyddi.

Roedd y materion hyn eisoes yn rhai sensitif cyn y pandemig, wedi’u gwaethygu gan galedi, ond gallant ddod yn bwysicach fyth wrth ailadeiladu yn dilyn y pandemig ac mewn argyfyngau yn y dyfodol. Os bydd y GIG yn dechrau gael ei ystyried yn elusen, pa effaith fydd hyn yn ei gael ar gydymdeimlad cyhoeddus i godiadau treth i ariannu gofal iechyd neu ardoll gofal cymdeithasol yn y dyfodol, er enghraifft?

Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi dangos i ni pa mor bwysig yw’r rôl y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae ym mywyd Cymru, gyda chydlyniant a chefnogaeth ofalus. Bydd dysgu o’r profiad hwn yn hanfodol i ailadeiladu ein cymdeithas ar ôl y pandemig.