Canfyddiadau Cynghorau Cymru o lymder

Statws prosiect Cwblhawyd

Gan ddefnyddio cyfweliadau gydag arweinwyr cynghorau Cymru, prif weithredwyr, cyfarwyddwyr cyllid, a rhanddeiliaid allanol, mae’r astudiaeth yn ymchwilio i ymateb cynghorau Cymru i lymder. Daw i’r amlwg fod cynghorau wedi ymateb i lymder mewn tair prif ffordd: drwy wneud arbedion effeithlonrwydd; drwy leihau’r angen am wasanaethau cyngor; a thrwy newid rôl cynghorion a rhanddeiliaid eraill. Fodd bynnag, mae llywodraeth leol Cymru bron â chyrraedd pwynt tyngedfennol o ran heriau ariannol. Mae’r rhan fwyaf o arbedion effeithlonrwydd eisoes wedi’u gwneud, a bydd y gostyngiadau disgwyliedig o ran ystod ac ansawdd gwasanaethau yn y dyfodol yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd bywyd dinasyddion yng Nghymru.

Ariennir y prosiect gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025.

 

 

Llun gan Chris Andrews (CC BY-SA 2.0)