Clapio ar ôl y Coronafeirws: Goblygiadau’r pandemig Coronafeirws i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

Mae’r pandemig Coronafeirws wedi golygu bod llygaid y byd ar waith ein gofalwyr.  Bob wythnos, mae llawer ohonom ni wedi bod yn clapio i gydnabod a dangos ein gwerthfawrogiad am y swyddi anodd mae’r rhai ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â gweithwyr allweddol eraill, yn ei gyflawni.  Mae’r pandemig yn amlygu, yn fwy nag erioed, yr heriau mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu a’r angen am werthfawrogi a chefnogi’r rolau pwysig hyn. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar y cyd ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cyflwyno uchelgais i “sicrhau bod lles yn ganolog i’n cynlluniau ar gyfer y gweithlu”.

Mae pryderon ar unwaith i sicrhau lles staff iechyd a gofal sy’n delio gyda llwyth gwaith cynyddol a straen emosiynol ymateb i’r pandemig Coronafeirws.  Gofynnodd arolwg diweddar i feddygon ysbyty yn y Deyrnas Unedig a oedden nhw’n dioddef o amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl cysylltiedig ȃ’u gwaith. Dywedodd bron traean o’r ymatebwyr eu bod, a bod y pandemig wedi gwneud eu cyflwr yn waeth.  Dywedodd 12% arall eu bod yn dioddef, ond nid yn waeth nag oeddent cyn y pandemig hwn.  Mewn arolwg tebyg o’r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth, soniodd traean o’r ymatebwyr am broblemau iechyd meddwl difrifol.

Cafwyd bod nifer o ffactorau  yn lleihau’r effaith seicolegol ar weithwyr gofal iechyd yn ystod argyfwng feirws ac mae’r argymhellion yn cynnwys cyfres o ffactorau unigol, fel cefnogaeth teulu a chyfoedion, a chyfres o ffactorau gwasanaeth fel cyfarwyddyd a chyfathrebu clir, hyfforddiant a chyfarpar digonol, sicrhau digon o egwyliau a mynediad at ymyriadau seicolegol unigol wedi’u teilwra.

Mewn llawer o achosion, nid pobl sy’n cael eu cyflogi i ofalu amdanom ni yw’r gofalwyr, ond ffrindiau, teuluoedd, cymdogion a gwirfoddolwyr.  Mae Gofalwyr Cymru yn amcangyfrif bod 370,230 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, yn darparu gofal sy’n werth £8.1 biliwn y flwyddyn.  Roedd gofalwyr di-dâl yn profi lefelau o straen a gorbryderoedd yn destun prydercyn y pandemig. Mae llawer o wasanaethau cefnogi ar gau neu wedi lleihau o ganlyniad i’r pandemig Coronafeirws, a chanfu arolwg diweddar fod 79% o’r gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn darparu mwy o ofal.  Dywedodd dros hanner eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu llethu ac yn pryderu y byddent yn llosgi allan.  Mae hyn wedi arwain at alwadau am gynyddu’r lwfans gofalwyr, ac wedi amlygu’r angen am gefnogaeth i ofalwyr di-dâl.

Mae cydnabod yr angen am gefnogi lles staff iechyd a gofal cymdeithasol yn yr argyfwng sydd ar ein pennau wedi arwain at lawer o arwyddion o ddiolchgarwch, o barcio am ddim, i ddosbarthu prydau bwyd i wardiau ysbyty, ymdrechion codi arian a bonws o £500 i staff gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae UNSAIN Cymru yn cynnig cyrsiau ar PTSD, gwydnwch yn wyneb straen ac ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac mae cynllun cefnogi iechyd meddwl i feddygon wedi cael ei estyn i bob gweithiwr gofal iechyd yng Nghymru.  Ond roedd staff iechyd a gofal yn llosgi allanyn bryder cynyddol cyn y pandemig Coronafeirws.

Mae lles y rhai sy’n gofalu amdanom ni yn bwysig am gynifer o resymau. Rydym ni’ngwybod bod lles staff yn effeithio ar gyfraddau absenoldeb salwch, profiad y claf ac ansawdd gofal. Bydd sicrhau lles a gwydnwch seicolegol staff mewn cyfnod ‘normal’ yn golygu ein bod mewn sefyllfa well i ymateb i  argyfyngau yn y dyfodol. Dangoswyd bod ymyriadau fel cylchoedd Schwartz, sy’n darparu lle i fyfyrio ar realiti emosiynol rolau gofalu, yn rhoi lles seicolegol gwell i fynychwyr rheolaidd, yn ogystal â mwy o empathi a chydymdeimlad.  Mae strategaethau i gefnogi lles acatal llosgi allan yn cynnwys: grwpiau cefnogi cyfoedion; patrymau gwaith cytbwys; cefnogaeth ar gyfer hunan-ofal personol; a thimau cefnogol.  Mae gwerthoedd, diwylliant, a chydymdeimlad arweinwyr sefydliad hefyd yn aruthrol o bwysig, ac yn ganolog i Egwyddorion Arweinyddiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Roedd gwasanaethau iechyd a gofal yn wynebu pwysau o ran cyllid a galw amdanynt cyn y pandemig, ac mae llawer o sefydliadau wedi bod yn delio gyda heriau swyddi gwag, prinder gweithlu a phroblemau recriwtio a chadw staff. Gallai Brexit, a’r pandemig Coronafeirws mewn gwirionedd, waethygu’r prinder yn y gweithlu.  Mae llawer o’r rolau anodd mae ein gofalwyr yn eu cyflawni yn derbyn t‎ȃl gwael, yn wan o ran sefydlogrwydd y swydd, ac yn wan o ran datblygu gyrfa, yn arbennig ym maes gofal cymdeithasol.  Y GIG a gofal cymdeithasol yw rhai o gyflogwyr mwyaf Cymru a bydd  manteision i gost buddsoddi mewn gwell cyflog ac amodau gwaith i weithwyr gofal ar ffurf llai o absenoldeb staff, yn ogystal ȃ chynorthwyo gyda recriwtio a chadw.  Mae’r pandemig yn amlygu ymhellach yr angen am gydnabod a gosod gwerth ar y rolau anodd hyn, gyda thaliadau digonol a dilyniant gyrfa.

Mae ymateb i alwadau brys y pandemig Coronafeirws wedi golygu bod rhaid gohirio triniaethau dewisol.  Mae’r niferoedd sy’n mynd i adrannau achosion brys a meddygfeydd yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol a gallai fod adwaith i hynny unwaith mae’r argyfwng presennol drosodd. Mae galwadau dilyn mesurau rheoli heintio, mynd i’r afael ag ôl-groniad o driniaethau a ohiriwyd, deall a rhoi sylw i’r angen heb ei ddiwallu a chynllunio ar gyfer achosion pellach yn y dyfodol, yn golygu na fydd y pwysau ar wasanaethau a gweithwyr yn diflannu.

Mae’r diolchgarwch a ddangoswyd am waith ein gofalwyr ar hyd y pandemig wedi cynhesu’r galon, a bydd yn bwysig gwerthfawrogi, cydnabod a chefnogi’r rhai sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod ein hadferiad ac wedi hynny.