Ymagweddau rhyngwladol at bontio teg

Comisiynwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o ddulliau rhyngwladol o drawsnewid cyfiawn er mwyn helpu i ddiffinio’r hyn a olygir gan ‘drawsnewid cyfiawn’ yng nghyd-destun Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddysgu gwersi o’r ffordd y mae gwledydd eraill wedi mynd i’r afael â thrawsnewid cyfiawn a’r fframweithiau y maent wedi’u defnyddio. Y nod yw deall a ellir cael trawsnewid cyfiawn yng Nghymru drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (WBFGA).

Mae’r adolygiad hwn o dystiolaeth yn adeiladu ar waith blaenorol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan WCPP ar yr hyn y gallai trawsnewid cyfiawn yng Nghymru ei olygu ac am y sgiliau ar gyfer trawnsewid cyfiawn. Gan fod cryn dipyn o ymchwil eisoes wedi’i chynnal yn y maes hwn ac o ystyried pa mor gyflym y mae’r cysyniad o drawsnewid cyfiawn wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r prosiect hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil flaenorol ac yn cysylltu’r llenyddiaeth ehangach ar drawsnewid cyfiawn â’r cyd-destun Cymreig ac WBFGA.

Mae’r adroddiad yn dechrau drwy ystyried cyd-destun yr ymdrechion yng Nghymru o ran datgarboneiddio. Rydym yn trafod gwreiddiau a natur esblygol y diffiniad o drawsnewid cyfiawn yn rhyngwladol, gan roi crynodeb o gefndir y cysyniadau o gyfiawnder sy’n sail i drawsnewid cyfiawn a theg i economi di-garbon net. Un canfyddiad allweddol yw nad oes diffiniad a dderbynnir yn gyffredinol o drawsnewid cyfiawn a bod llawer iawn o drafod ynghylch y term. Mae’r adroddiad yn mynd ati wedi hynny i gyflwyno rhai o’r dulliau byd-eang amrywiol o ymdrin â pholisïau ac arferion trawsnewid cyfiawn ac yn ystyried y gwersi a ddysgwyd. Mae pwyslais ar sut mae rhai gwledydd wedi defnyddio fframwaith lles i ymdrin â thrawsnewid cyfiawn a sut y gallai’r dulliau hyn alinio â WBFGA pe byddent yn cael eu defnyddio fel sylfaen ar gyfer ei fabwysiadu. Rydym yn gorffen drwy grynhoi gwersi allweddol ar gyfer mabwysiadu polisïau ar gyfer trosglwyddo cyfiawn i Gymru.