Llywodraethu Trawsnewid Cyfiawn

Mewn blogiadau blaenorol, rydym ni wedi ystyried beth yw trawsnewid cyfiawn, a sut fyddai trawsnewid o’r fath yn edrych yng Nghymru. Yn y blog olaf yn y gyfres hon, rydym ni’n ystyried rôl bosibl llywodraethiant wrth wireddu Trawsnewid Cyfiawn yng Nghymru.

Yn nodweddiadol ystyrir mai’r Llywodraeth yw’r prif awdurdod wrth gyfeirio gweithredu polisi. Gyda’i hawdurdod deddfwriaethol a rheoleiddiol traddodiadol, gall y llywodraeth feithrin newidiadau economaidd a chymdeithasol mawr, yn cynnwys datgarboneiddio. Ar lefel fwy haniaethol, gellir cyfiawnhau awdurdod y llywodraeth yn nhermau datblygu nodau cyfunol cymdeithas. Felly, bydd llywodraeth yn allweddol wrth hyrwyddo trawsnewid cyfiawn.

Yng Nghymru, mae gan Lywodraeth Cymru rywfaint o awdurdod ynghylch datgarboneiddio, ond nid y cyfan. Mae ganddi awdurdod deddfwriaethol dros faterion amgylcheddol yn ogystal â meysydd eraill yn ymwneud â datgarboneiddio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol (er enghraifft ynni a chyfoeth naturiol). Er bod ei chapasiti ar gyfer cynhyrchu refeniw, ac felly un llwybr ar gyfer ailddosbarthu economaidd uniongyrchol, yn gyfyngedig, mae ganddi ddisgresiwn dros wariant allweddol gan gynnwys datblygu economaidd, tai, amaeth, trafnidiaeth a llywodraeth leol. Wrth gyflawni trawsnewid cyfiawn, gallai’r meysydd cyfrifoldeb hyn gynnig pwyntiau allweddol o ddylanwad. Gall Llywodraeth Cymru ystyried pa sectorau, gweithwyr a chymunedau penodol y bydd y trawsnewid i economi carbon isel yn effeithio’n anghymesur arnynt a chynllunio rhaglenni wedi’u teilwra’n benodol i helpu i wrthbwyso’r effeithiau dosbarthol hyn.

Ond ni ddylai ystyriaethau o rôl y llywodraeth ganolbwyntio’n unig ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion polisi drwy ffyrdd uniongyrchol o weithio, fel rheoleiddio, pwerau cyllidol a’i grym prynu.  Y tu hwnt i’r ffyrdd traddodiadol hyn, mae’n ddefnyddiol meddwl am rolau posibl eraill y gall y llywodraeth eu chwarae i hyrwyddo datgarboneiddio.

Yn wahanol i lywodraethu traddodiadol, mae ‘llywodraethiant’ yn cydnabod rôl y wladwriaeth ac actorion ar wahân i’r wladwriaeth yn sbarduno gweithredu polisi a newid cymdeithasol. Gall llywodraethau gynnig cyfeiriad ond nid ydynt o reidrwydd yn arwain. Gall llywodraethau feithrin newid yn fwy anuniongyrchol drwy gydlynu, galluogi, neu hwyluso gweithredu ar y lefel unigol, gymunedol neu sectoraidd. Gall llywodraethau er enghraifft gynnull rhanddeiliaid, gan helpu i ddod ag actorion allweddol at ei gilydd. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal cynhadledd flynyddol ar newid hinsawdd yn enghraifft glir o’r capasiti cydlynu hwn. Mae’r modelau anuniongyrchol hyn o lywodraethiant yn arbennig o ddefnyddiol pan fydd awdurdod, capasiti neu wybodaeth y llywodraeth yn fwy cyfyngedig. Hyd yn oed mewn achosion lle mae diffyg awdurdod deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru, efallai y gallai sbarduno newidiadau drwy liferau polisi eraill. Gallai’r ymdrechion hyn hefyd fod yn arbennig o effeithiol yn sbarduno gweithredu ar lefel uwch na rôl ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, er enghraifft drwy ddylanwadu ar benderfyniadau hinsawdd y DU neu’n fyd-eang, neu ar lefel is drwy ddylanwadu ar ddewisiadau unigol neu ymddygiad rhai sectorau economaidd penodol. Mae’r ffyrdd y gallai llywodraeth ddylanwadu ar ymddygiad eraill ai’i newid, a chyflawni nodau polisi drwy ddulliau anuniongyrchol yn ogystal ag uniongyrchol, wedi’u hegluro’n ddiweddar gan Labordy Polisi llywodraeth y DU yn eu gwaith ar ‘Llywodraeth fel System’.

Mae cynllun datgarboneiddio presennol y Llywodraeth ‘Ffyniant i bawb:  Cymru Carbon Isel’ yn dangos ei hymagwedd amrywiol at lywodraethiant yr hinsawdd. Yn y ddogfen ceir 100 o bolisïau a chynigion gwahanol ar gyfer cyflenwi datgarboneiddio. Mewn rhai achosion, mae’r polisïau’n fesurau ‘o’r brig i lawr’ sydd wedi’u mandadu gan y llywodraeth (er enghraifft y cynllun i roi’r gorau i ddefnyddio glo). Mewn mannau eraill fodd bynnag, mae’r ymdrech o’r gwaelod i fyny, gydag actorion a chymunedau lleol yn arwain (er enghraifft hyrwyddo perchnogaeth leol o gynhyrchu ynni). Bydd defnyddio cyfuniadau o ddulliau llywodraethiant brig i lawr a gwaelod i fyny, uniongyrchol ac anuniongyrchol yn hanfodol ar gyfer manteisio ar yr wybodaeth a’r galluoedd sydd gan wahanol grwpiau ar draws Cymru.

Hyd yma, rydym ni wedi ystyried amrywiol alluoedd y llywodraeth i hyrwyddo datgarboneiddio ond sut yn union gall Cymru sicrhau bod ‘trawsnewid cyfiawn’ yn ymwreiddio mewn dulliau o’r fath?

Mae gan Lywodraeth Cymru rai strwythurau sefydliadol newydd a allai fod yn ddefnyddiol iawn wrth symud ymlaen. Un enghraifft allweddol yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Mae’r ddeddfwriaeth yn ceisio cynnwys syniadau o gyfiawnder economaidd-gymdeithasol, gofodol ac amgylcheddol nid yn unig mewn penderfyniadau ond hefyd mewn cyfiawnder sy’n pontio’r cenedlaethau. Gall y Ddeddf gynnig sail ddeddfwriaethol glir i’r rheini sy’n galw am ‘drawsnewid cyfiawn’ ar gyfer gwreiddio egwyddorion cyfiawnder a thegwch mewn ymdrechion i ddatgarboneiddio.

Yn olaf, nid yw Cymru’n wynebu her ‘trawsnewid cyfiawn’ ar ei phen ei hun. Mae natur groesffiniol hinsawdd wedi’i hystyried yn rhwystr i gydlynu polisi ers tro. Fodd bynnag, ochr arall hyn yw bod llywodraethau ar draws y byd yn arbrofi gyda gwahanol ddulliau llywodraethiant. Gall Llywodraeth Cymru edrych ar yr amrywiaeth o ddulliau llywodraethiant sy’n cael eu mabwysiadu mewn mannau eraill. Er enghraifft yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Sbaen fargen trawsnewid werth €250 miliwn i weithwyr glo. Yng Nghanada, i’w helpu i hwyluso dod â’r defnydd o lo i ben, creodd y llywodraeth ffederal y Gweithlu Trawsnewid Cyfiawn i Weithwyr Glo a Chymunedau Canada. Yn yr un modd, yn ddiweddar sefydlodd Llywodraeth yr Alban Gomisiwn Trawsnewid Cyfiawn. Yn yr achosion hyn i gyd, mae’r llywodraethau wedi osgoi mesurau o’r brig i lawr, gan gynnull rhanddeiliaid allweddol i gyd-reoli’r trawsnewidiadau hyn sy’n bwysig ond yn heriol yn wleidyddol.  Gallai’r modelau llywodraethiant amrywiol hyn gynnig gwersi pwysig i Gymru wrth iddi geisio rheoli ei heriau cymdeithasol, economaidd a gofodol.