Cyflenwi Trawsnewid Cyfiawn Sut fyddai hyn yn edrych?

Yn ein blog blaenorol gwnaethom edrych ar sut gallai trawsnewid cyfiawn fod yn ddull ecwitiol o ddadgarboneiddio’r economi. Mae’r hysbysiad hwn yn edrych mewn mwy o fanylder ynghylch sut y gallai hyn edrych yng nghyd-destun y Gymraeg, a sut y gall ymagweddau gwahanol at drawsnewid gael eu hwyluso mewn trawsnewid cyfiawn.

Rydym wedi dadlau y dylai trawsnewid cyfiawn bwysleisio cyfiawnder gofodol a chymdeithasol h.y. y dylai anelu at ddarparu mynediad mwy ecwitiol at gyfleoedd economaidd yn ogystal â mynd i’r afael â chanlyniadau economaidd a chymdeithasol.  Mewn geiriau eraill, mae’n ymwneud â sicrhau nad yw’r effaith o drawsnewid yn cael effaith ar un grwp o bobl yn ddiangen, a cheisio defnyddio’r adnoddau a’r newidiadau economaidd y bydd dadgarboneiddio yn eu cyflwyno er mwyn gwella amodau ar gyfer y sawl sydd fwyaf bregus. Mae hyn yn golygu symud oddi ar syniadaeth sef ‘trawsnewid cyfiawn’ ‘proses deg ac ecwitiol o symud tuag at gymdeithas heb garbon a thuag at syniadaeth mwy cadarn o’r hyn yw ‘cyfiawnder’ yn y cyd-destun Cymreig, a sut y gellir ei gymhwyso fel rhywbeth elfennol i’r trawsnewid penodol.

Un elfen o hyn yw cyfuno gwahanol ymagweddau at gyfiawnder Un ymagwedd yw’r ‘cyfiawnder dosbarthiadol’, sef yn fwy sylfaenol ynghylch pwy a ddylai gael pa adnoddau. Yn y cyd-destun Cymreig, golyga hyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn incwm a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg gan ddaearyddiaeth economig Cymru yn ogystal â gwella canlyniadau ar gyfer y sawl sydd fwyaf dan anfantais. Mae hyn yn cael ei gyfuno gan gyfiawnder gweithdrefnol, gan sicrhau bod y strwythur ar gyfer gwneud penderfyniadau yn un teg. Gall hyn olygu gwneud penderfyniadau yn gyfranogol neu ar y cyd, rhywbeth sy’n cael ei bwysleisio gan y ‘pum ffordd o weithio sy’n cael ei gynnwys yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Yn olaf, mae cyfiawnder adferol yn golygu gwneud cyfiawnder ynghylch rhywbeth sydd wedi mynd o’i le – megis pan fydd lleidr yn dychwelyd eiddo a gafod ei ddwyn. Yn y cyd-destun Cymreig, mae’r potensial yno er mwyn gwneud cyfiawnder â’r diffygion a wnaed mewn trawsnewid economaidd megis yng Nghymoedd De Cymru. Gallai hefyd olygu manteisio i’r eithaf ar y posibilrwydd o waith adfer ecolegol neu waith rheoli i ddarparu swyddi cynaliadwy i gymunedoedd lleol lle y bo’n bosibl.

Mae’r dimensiwn gofodol tuag at cyfiawnder nid yn unig yn golygu canolbwyntio ar y lle y bydd y trawsnewid yn cael ei gynnal, ond ar yr ymagweddau gwahanol a fydd yn ofynnol ym mhob cyd-destun. Bydd yr ymagwedd cywir ar gyfer gweithiwr yn y maes dur ym Mhort Talbot yn wahanol i ffermwr yng nghanolbarth Cymru, ond dylai’r ddau  gael eu hysbysu ynghylch yr hyn sy’n hyrwyddo tegwch a chydnerthedd yn eu heconomiau lleol. Gallai hyn sicrhau bod y buddion o fod yn gweithgynhyrchu neu’n gosod ynni adnewyddadwy yn cael ei werthfawrogi yn y cymunedoedd sy’n cynnal ffermydd gwynt neu ffermydd solar, er enghraifft.  Fe fydd hyn yn benodol o bwysig os bydd trawsnewid cyfiawn yn cael ei ddefnyddio i ddyrannu cyfleoedd economaidd ar draws Cymru, p’una a yw hynny yw i ‘adael ar ôl’ cymunedoedd trefol neu ardaloedd gwledig sy’n dioddef gyda thlodi

Mae sicrhau bod y dull hwn yn llwyddiannus, fodd bynnag, yn golygu cymryd y syniad o ddifrif y dylai ailddosbarthu fynd law yn llaw â chydnabyddiaeth.  Ni fydd yr un o’r dulliau hyn yn teimlo fel eu bod yn cael y sylw dyledus os nad ydynt yn cael eu hysbysu neu eu cefnogi gan y bobl yn y cymunedau y maent yn eu heffeithio. Daw hyn i’r amlwg mewn dadleuon diweddar dros newidiadau i’r tir er mwyn caniatau ailgoedwigo neu newidiadau i gymorthdaliadau ffermio . Er bod y bwriad tu ôl i’r rhain yn gadarnhaol, mae’r newidiadau hyn wedi nodi cryn bryderon ar yr effeithiau negyddol posibl i gymunedau gwledig  Yr iaith Gymraeg a’r diwylliant   sydd angen derbyn sylw os bydd y dulliau hyn yn cael eu barnu yn gyfiawn.

Mae cyfuno ailddosbarthu gyda chydnabyddiaeth yn y modd hwn yn arbennig o berthnasol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, lle mae eu targedau llesiant statudol yn cynnwys ‘Cymru â chymunedau
cydlynus’ a ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Mae’n dod i’r amlwg bod diwallu’r targedau hyn gyda rhywfaint o’r newidiadau economaidd radicalaidd a all fod yn angenrheidiol yn ennyn trafodaeth ofalus a chydbwyso blaenoriaethau gwahanol.  Dyma’r rheswm pam, lle bynnag y bo’n bosibl, y dylai agweddau gwahanol ar gyfiawnder ategu at ei gilydd yn hytrach na chystadlu â’i gilydd.   Dydy deall a mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â datgarboneiddio ar nwyddau diwylliannol a chymunedol ddim yn golygu nad oes angen datgarboneiddio neu ffurfiau eraill ar gyfiawnder, ond fe fydd yn ei wneud yn haws i gynnal y nodau hynny.  Er y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd, bydd dull sy’n cydnabod yr asiantaeth a llais pob actor yn helpu i greu yr amodau lle y gellir derbyn y dewisiadau hyn.

Felly, byddai cyflenwi trawsnewid cyfiawn yn ennyn mwy na sicrhau bod y costau sy’n ymwneud â datgarboneiddio yn cael eu hymdrin â hwy yn sylfaenol, drwy fesurau digolledu, ond dylent gael eu gweld fel cyfle i ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru er mwyn darganfod pa fath o economi, a pha fath o gymdeithas y maent am fyw ynddi.