Datblygu sgiliau ar gyfer pontio cyfiawn

Bydd y broses o bontio i ddefnyddio economi carbon isel yng Nghymru yn effeithio ar weithwyr a chymunedau, yn enwedig y rheini sydd â chysylltiadau â diwydiannau carbon-ddwys. Mae tystiolaeth y gallai polisïau sero-net a rheoliadau amgylcheddol arwain at gau rhai diwydiannau ac at fabwysiadu prosesau carbon isel mewn eraill. Er ei bod yn debygol y bydd rhagor o alw am sgiliau technegol a sgiliau ‘personol’ mewn diwydiannau newydd a phresennol, mae hefyd yn debygol na fydd rhai swyddi yn bodoli mwyach. Bydd hyn yn pennu natur y gweithlu y mae galw amdano mewn diwydiannau newydd a phresennol, a hefyd y cyflenwi o ran y sgiliau cyfatebol. Ystyriaeth hanfodol o ran hyn, fydd sicrhau bod y sgiliau sydd ar gael yn y gweithlu’n bodloni’r rhai y mae cyflogwyr yn galw amdanynt.

Mae llawer o weithwyr a chymunedau yng Nghymru heb eu paratoi ar gyfer newid i economi sydd wedi’i datgarboneiddio. O’i chymharu â gwledydd eraill y DU, mae gan Gymru nifer uwch o weithwyr â sgiliau isel, lefelau is o ran cyfrannu mewn addysg bellach a phrentisiaethau, a risg uchel o golli swyddi o ganlyniad i gau diwydiannau carbon-ddwys.

Ceisiodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) nodi cyfleoedd i liniaru effeithiau cymdeithasol ac economaidd y broses bontio ar weithwyr a chymunedau yng Nghymru, yn enwedig yn yr ardaloedd sy’n debygol o gael eu heffeithio fwyaf. Mae ein gwaith yn archwilio ffyrdd y mae prosesau pontio diwydiannol blaenorol yn y DU ac yn rhyngwladol wedi cael eu rheoli, ac mae hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer sefydliadau sgiliau, arweinwyr diwydiant a chyrff cynrychioliadol, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol o ran cynnwys gwersi a ddysgwyd mewn polisïau ac yn y dulliau rheoleiddio a ddefnyddir yng Nghymru.

Rydym yn canolbwyntio ar ddulliau polisi sydd wedi’u hanelu at:

  • Ddatblygu sgiliau;
  • Meithrin partneriaethau busnes; a
  • Rhoi cefnogaeth i weithwyr a’r gymuned.

Mae ein gwaith hefyd yn trafod sawl dull gweithredu effeithiol:

  • Cynllunio strategol;
  • Darparu ar lefel leol ac unigol; a
  • Dull cydweithredol.