Mae Rosie Havers yn Gynorthwy-ydd Ymchwil yng Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), yn ymuno â’r tîm ym mis Hydref 2020.
Cyn ymuno â WCPP bu Rosie yn gweithio ar ystod o brosiectau, o ddatblygu adnoddau dysgu rhifedd, llythrennedd ac awyr agored i ysgolion, i adolygiad systematig ar fioddiraddadwyedd plastigau gyda Chyngor Gwyddoniaeth ar gyfer Polisi gan Academïau Ewropeaidd. Cyn hyn, bu Rosie yn athrawes ysgol gynradd. Bu hefyd yn cynnal ystod o raglenni garddio ysgolion a dysgu awyr agored yng Nghymru, Lloegr, Canada ac UDA, ac yn ymchwilio iddynt.
Mae gan Rosie gefndir mewn Daearyddiaeth, gyda BA (Anrh.) o Brifysgol Caergrawnt ac MSc mewn Bwyd, Gofod a Chymdeithas o Brifysgol Caerdydd.
Mae diddordebau ymchwil Rosie yn cynnwys systemau bwyd cynaliadwy a diogelwch bwyd, addysg a dysgu awyr agored, a chyfathrebu digidol.