Yr Athro Steve Martin

Teitl swydd Cyfarwyddwr
Sefydliad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ebost cyswllt steve.martin@wcpp.org.uk
Rhif ffôn 02920875202

Mae Steve yn Gyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac Athro Polisi Cyhoeddus a Rheoli ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cyn y rôl hon roedd yn gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol, a chwaraeodd ran allweddol o ran datblygu enw da Prifysgol Caerdydd am ymchwil o’r radd flaenaf mewn gwasanaethau a pholisïau llywodraeth leol.

Mae wedi arwain dros 50 o brosiectau ymchwil blaenllaw ac wedi denu dros £20 miliwn mewn cyllid ymchwil allanol gan gynghorau ymchwil, sefydliadau ac asiantaethau llywodraeth.

Mae wedi gweithio fel ymgynghorydd i’r Undeb Ewropeaidd, Trysorlys y DU, Swyddfa’r Cabinet, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Llywodraethau Cymru a’r Alban, y Comisiwn Archwilio, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, Chwaraeon Cymru, ac amrywiaeth o lywodraethau lleol a sefydliadau gwirfoddol. Cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr yr Asiantaeth Gwella a Datblygu rhwng 2003 a 2010, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Llywodraeth Leol Newydd rhwng 2007 a 2016, ac yn Gynghorydd Academaidd i’r Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Cyhoeddus Lleol a gadeiriwyd gan Sir Jeremy Beecham 2005-2006.

Mae Steve yn gyd-olygydd Policy & Politics, cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw, ac yn aelod o sawl bwrdd cynghori golygyddol arall. Mae wedi cyhoeddi 90 o bapurau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a mwy na 200 o adroddiadau polisi ar gyfer llywodraethau ac asiantaethau eraill.

Mae Steve wedi datblygu ac arwain rhaglenni i raddedigion ac ôl-raddedigion ym Mhrifysgolion Caerdydd, Warwick ac Aston, ac mae wedi bod yn arholwr allanol ar amrywiaeth o raglenni PhD a Meistr yn y DU ac yn rhyngwladol.

Tagiau