Y tanc yn wag: pam fod angen diwygiadau yn yr argyfwng costau byw

Yn ystod misoedd cychwynnol y pandemig, pan oedd mesurau diogelu amrywiol ar waith – fel y codiad o £20 yr wythnos i’r Credyd Cynhwysol – cafwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl oedd yn ceisio cymorth gan Cyngor ar Bopeth gyda phroblemau dyled. Ers mis Hydref 2021, fodd bynnag, pan ddaeth llawer o’r mesurau hyn i ben, gyda chostau ynni’n dechrau codi, mae nifer y bobl sy’n ceisio cyngor am ddyledion wedi tyfu.

Am y tro o leiaf, nid mwy o bobl yn benthyca ac yn cael trafferth talu credyd defnyddwyr sydd i gyfrif am hyn, ond yn hytrach gwelir mwy a mwy o bobl yn mynd i ôl-ddyledion ar filiau hanfodol y cartref fel y dreth gyngor, ynni a rhent.

Atgyfnerthir hyn gan ymchwil diweddar gan Cyngor ar Bopeth a ganfu fod 28% o bobl Cymru ar ei hôl hi ar hyn o bryd gyda bil neu daliad, a hynny’n fwyaf tebygol o fod yn fil y dreth gyngor, dŵr neu ynni.

Yn syml, does gan lawer o bobl ddim digon o incwm yn dod i mewn i dalu eu costau byw hanfodol sy’n cynyddu o hyd. Yn fwyaf pryderus, mae 46% o’n cwsmeriaid dyled ar hyn o bryd yn byw ar gyllideb negyddol, i fyny o 36% ddechrau 2019. Mae hyn yn digwydd pan fydd gan rywun sydd mewn dyled £0 neu lai ar ôl talu bil llety a biliau cyson eraill, sy’n golygu nad oes arian ar ôl i ad-dalu dyledion. Yn aml does gan bobl ddim dewis ond mynd heb yr hanfodion – er enghraifft torri’n ôl ar wario ar fwyd a chyfleustodau.

Mae hyn yn ei gwneud yn hynod o heriol i gynghorwyr dyled gan nad yw’r offerynnau a’r opsiynau arferol ar gyfer cefnogi pobl sydd â phroblemau dyled bellach yn ymarferol.

Mae ein dadansoddiad data‘n dangos bod y grwpiau yr effeithir arnynt yn bennaf yn cynnwys y di-waith, tenantiaid sector preifat, pobl anabl, a’r rheini sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Ond nid pobl sy’n dibynnu ar fudd-daliadau yw’r unig rai sy’n wynebu’r sefyllfa hon. Mae nifer cynyddol o gleientiaid dyled sy’n byw ar gyllideb negyddol yn gweithio, gyda chynnydd sylweddol ymhlith pobl hunangyflogedig (cynnydd o dros 20% ers dechrau 2019). Mae cleientiaid dyled hefyd yn fwy tebygol o sôn am broblemau iechyd meddwl, yn enwedig rhai sydd ag ôl-ddyledion ar filiau hanfodol fel rhent a’r dreth gyngor.

Mae gwella cynhwysiant ariannol ymhlith pobl ar incwm is yn parhau’n ymyrraeth polisi hanfodol ar gyfer gwella gwydnwch ariannol a lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn mynd i or-ddyled. Ond mae angen cyfuno hyn gydag ymyriadau ehangach sy’n helpu i fynd i’r afael â fforddiadwyedd gwasanaethau hanfodol, yn enwedig i bobl ar waelod y dosbarthiad incwm.

O ystyried y codiadau enfawr rydym ni’n debygol o’u gweld mewn prisiau ynni dros y misoedd nesaf, mae’n briodol fod ffocws y drafodaeth bolisi bresennol ynghylch yr argyfwng costau byw wedi bod ar gostau ynni. Fodd bynnag, maes arall lle mae angen diwygio ar frys yw’r dreth gyngor.

Ers mis Ionawr eleni, mae’r nifer o bobl sy’n dod atom am gyngor bob mis ar y dreth gyngor wedi bod 23% yn uwch ar gyfartaledd na lefelau cyn y pandemig, sy’n golygu mai dyma’r broblem ddyled fwyaf cyffredin rydym ni’n ei gweld. Mae dros draean (38%) o’n cleientiaid dyled treth gyngor yn byw ar gyllideb negyddol gyda thua chwarter hefyd angen help gyda dyledion ynni neu ddŵr.

Cynhaliom ni ymchwil yn gynharach eleni i glywed yn uniongyrchol gan bobl oedd ar ei hôl hi gyda thaliadau’r dreth gyngor am eu profiadau o ddelio gydag ôl-ddyledion y dreth gyngor.  Mae’r canfyddiadau, ynghyd â’n tystiolaeth gan gleientiaid, yn dangos y gall y mesurau cosbol a ddefnyddir ar hyn o bryd i gasglu dyled y dreth gyngor atal pobl rhag dod o hyd i ddatrysiadau cynaliadwy. Mae rheoliadau sydd wedi dyddio, ochr yn ochr â phwysau cyllidebol sy’n ysgogi awdurdodau lleol i geisio casgliadau yn ystod y flwyddyn, yn golygu bod llawer o bobl yn wynebu ffyrdd o dalu a all waethygu problemau dyled a dwysáu ansicrwydd ariannol. Mae hyn hefyd yn effeithio’n negyddol ar bethau eraill ym mywydau pobl fel sicrwydd swydd, iechyd corfforol a meddyliol, a pherthnasoedd personol.

Cyflwynwyd sawl ymyrraeth i wella dulliau casglu’r dreth gyngor yn ystod tymor diwethaf y Senedd. Er bod croeso i hyn, mae angen newid llawer mwy radical. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r dreth gyngor yn ystod y tymor hwn yn gyfle i gyflwyno system dreth leol fwy blaengar yng Nghymru sy’n sicrhau bod atebolrwydd yn cael ei ddosbarthu’n decach ar draws mathau gwahanol o aelwydydd gyda gwell amddiffyniad i bobl ar incwm is.  Yn y tymor byr mae hefyd yn gyfle i gyflwyno newidiadau hirddisgwyliedig i reoliadau‘r dreth gyngor sydd ar waith ers 30 mlynedd er mwyn iddynt gefnogi prosesau casglu dyledion y dreth gyngor sy’n decach ac yn fwy cynaliadwy. Mae’r newidiadau sydd eu hangen yn cynnwys:

  1. Peidio â gofyn i bobl dalu eu bil blynyddol llawn os ydynt yn colli un taliad misol
  2. Creu cod ymarfer statudol ar gyfer casglu dyledion y dreth gyngor, gan adeiladu ar Brotocol y Dreth Gyngor yng Nghymru
  3. Dangos mwy o hyblygrwydd i’r rheini sy’n cael trafferth fforddio ad-dalu dyledion
  4. Parhau i wella ymwybyddiaeth o gefnogaeth treth gyngor a chynyddu’r nifer o aelwydydd cymwys sy’n ei derbyn.

Wrth i ni ddechrau ar gyfnod o ansicrwydd ac anhawster ariannol enfawr i lawer, mae’n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael iddynt, fel newid y ffordd y mae dyledion y dreth gyngor yn cael eu casglu, i gefnogi gwydnwch ariannol pobl.