Bod yn dlawd yng Nghymru – pam mae ble rydych chi’n byw yn bwysig

Mae nifer o’r heriau a wynebir gan bobl sy’n byw mewn tlodi neu allgáu cymdeithasol yng Nghymru yn ymwneud â lle maent yn byw. Mae costau byw lleol, fforddiadwyedd tai o ansawdd da, lefelau troseddu, seilwaith digonol, a mynediad at wasanaethau, mannau gwyrdd, cyflogaeth o safon, addysg a hyfforddiant, i gyd yn effeithio ar ansawdd bywyd pobl, yn gallu achosi allgáu cymdeithasol a chreu heriau i ddianc rhag tlodi. Mae angen i ymyriadau gwrthdlodi ystyried sut i feithrin amgylcheddau galluogi, mynd i’r afael â rhwystrau i wneud cynnydd, a gwella amodau a chyfleoedd lle mae pobl yn byw.

Nid yw’r syniad bod polisïau sy’n seiliedig ar le yn bwysig i fynd i’r afael â thlodi yn newydd. Mae ymyriadau sy’n canolbwyntio ar amgylcheddau’r gymdogaeth wedi’u mabwysiadu ers tro yng Nghymru a rhoddwyd blaenoriaeth wleidyddol iddynt yn y 1990au. Mae’r ymyriadau hyn wedi ceisio cefnogi’r gwaith o greu swyddi a hybu economïau lleol, gwella amgylcheddau ffisegol ac, yn fwy diweddar, canolbwyntio ar adfywio canol trefi. Fodd bynnag, nid yw ymyriadau o’r fath bob amser wedi bod o fudd i’r rhai sydd â’r angen mwyaf. Mae hyn yn wir, er enghraifft, pan fyddant wedi arwain at foneddigeiddio ardaloedd difreintiedig a dadleoli trigolion difreintiedig a busnesau lleol.

Mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i ymyriadau gwrthdlodi effeithiol sy’n seiliedig ar le. Gwnaethom adolygu tystiolaeth ryngwladol o effeithiolrwydd a nodi camau gweithredu addawol ar draws 12 maes polisi, gan gynnwys allgáu digidol, anfantais trafnidiaeth, ansicrwydd bwyd, tlodi tanwydd a gwasanaethau ieuenctid. Mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn wynebu’r broblem uniongyrchol o beidio â chael digon o arian a chydbwyso nifer o dreuliau sy’n cystadlu – er enghraifft, ‘gwres’ yn erbyn ‘bwyta’. Mae eu cymuned leol, gan gynnwys teulu a ffrindiau, yn ffynhonnell hanfodol o gymorth ariannol ac anariannol. Gall tarfu ar y rhwydweithiau hyn wneud pobl yn fwy agored i niwed a gwaethygu’r caledi y maent yn ei brofi.

Gall meithrin ‘amgylchedd galluogi’ felly fod yn anodd ac mae angen gweithredu ar draws ystod o feysydd polisi rhyng-gysylltiedig. Er enghraifft, mae’n golygu mynd i’r afael ag argaeledd, fforddiadwyedd a hygyrchedd trafnidiaeth. Mae angen i bolisïau ganolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac integreiddio gwahanol fathau o ddarpariaeth trafnidiaeth. Er enghraifft, gallai ‘dull system gyfan’ fynd i’r afael â’r darnio presennol o drafnidiaeth gymunedol yng Nghymru a’r heriau ariannu y mae hyn yn eu creu. Mae tai yn faes allweddol arall i fynd i’r afael ag ef gan ei fod yn effeithio ar iechyd a lles pobl. Gan mai cost tai yw’r gwariant rheolaidd unigol mwyaf ar gyfer y mwyafrif helaeth o aelwydydd, gall unrhyw gynnydd mewn costau tai effeithio’n fawr ar gyllid aelwydydd sydd eisoes dan bwysau. Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos bod achos da i’w wneud yng Nghymru dros flaenoriaethu’r ddarpariaeth tai cymdeithasol, gan sicrhau ei bod yn wirioneddol fforddiadwy, diogel ac o ansawdd uchel. Mae camau gweithredu addawol eraill yn cynnwys hyrwyddo rheoleiddio, safonau ansawdd ac amddiffyn tenantiaid yn y sector rhentu preifat.

Gan adlewyrchu ar hyn a’n gwaith ymchwil ar ymyriadau tlodi ar draws gwahanol ddimensiynau, mae sawl maes trawsbynciol ar gyfer gweithredu yn dod i’r amlwg:

Gwerthuso ymyriadau seiliedig ar le yn well

Mae gwerthuso ymyriadau unigol seiliedig ar le yn heriol oherwydd bod yr un meysydd yn aml yn cael eu targedu gan amrywiaeth o fentrau, ac yn anaml y canolbwyntir ar dlodi ac ‘effeithiau dosbarthiadol’ (pwy sy’n ‘ennill’ a phwy sy’n ‘colli’ o ganlyniad i ymyrraeth). Rydym yn argymell bod gwerthusiadau’n cael eu cynllunio ochr yn ochr ag ymyriadau, a ddylai gynnwys amserlenni realistig (gan wahaniaethu rhwng canlyniadau tymor byr a hirdymor) a chanolbwyntio ar brosesau ac allbynnau yn ogystal â’r effeithiau gwirioneddol ar dlodi.  Mae mesur effaith mentrau datblygu cymunedol hefyd yn heriol, gyda chanlyniadau niweidiol hyd yn oed weithiau (fel y nodwyd mewn perthynas â Chymunedau yn Gyntaf yng Nghymru). Ar gyfer prosiectau o’r fath, mae amcangyfrif ‘gwerth cymdeithasol’ yn arbennig o bwysig: mae hyn yn golygu canolbwyntio ar brofiadau goddrychol preswylwyr a’u lles, ochr yn ochr â diogelwch cymunedol, iechyd, a faint o gyfranogiad, llais a rheolaeth a roddir i breswylwyr.

Cefnogi atebion cynhwysol, dan arweiniad y gymuned

Gall ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol a datblygu dan arweiniad y gymuned feithrin cynhwysiant pobl leol wrth gynllunio a chyd-ddylunio mannau cyhoeddus ac atal dadleoli a boneddigeiddio. Gall cyfranogiad dilys sicrhau bod heriau sy’n gorgyffwrdd o fewn amgylchedd uniongyrchol pobl yn cael eu nodi a’u deall. Fodd bynnag, mae pobl sydd dan anfantais yn fwy tebygol o brofi rhwystrau rhag cymryd rhan. Mae hyn yn golygu bod angen i strategaethau ymgysylltu effeithiol, er enghraifft cynnwys partneriaethau amlochrog ar draws cymdeithas sifil, ystyried cyfansoddiad a dynameg gymunedol er mwyn osgoi gorgynrychioli lleisiau sydd eisoes yn bwerus.

Dull cydgysylltiedig, aml-sector

Ni ddylai ymyriadau seiliedig ar le weithredu ar wahân i bolisïau eraill a weithredir ar lefel genedlaethol. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod yr heriau a wynebir gan bobl mewn tlodi yn gydgysylltiedig. Mae angen i ddull cydgysylltiedig sy’n cydnabod natur amlddimensiwn tlodi ac allgáu cymdeithasol fynd i’r afael ag ‘ysgogwyr i fyny’r afon’, megis incwm isel, a datblygu syniadau cynhwysfawr, aml-sector sy’n defnyddio synergeddau rhwng polisïau. Ar lefel leol, gall gwasanaethau un-stop, aml-asiantaeth yn y gymuned hyrwyddo’r gwaith o gydgysylltu gwasanaethau a darparu cymorth sy’n addas ar gyfer anghenion penodol, unigol. Mae tystiolaeth yn dangos bod y rhain ar eu mwyaf effeithiol pan nad ydynt yn creu stigma ac yn adeiladu ar berthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt yn y gymuned.

 

Mae’n amlwg nad yw siapio ‘amgylcheddau galluogi’ yn dasg hawdd. Er mwyn cynyddu eu siawns o fod yn effeithiol, dylai ymyriadau seiliedig ar le sydd wedi’u hanelu’n wirioneddol at drechu tlodi ac allgáu cymdeithasol geisio osgoi peryglon blaenorol ymdrechion adfywio seiliedig ar le a chanolbwyntio ar gyfranogiad cynhwysol, dilys gan aelodau’r gymuned a chael dealltwriaeth realistig o’u heffaith ar yr aelwydydd a’r cymunedau y maent yn bwriadu effeithio arnynt.