Hyrwyddo llwybrau allan o dlodi – ac atal peryglon mynd i dlodi

Rhaid i alluogi ‘llwybrau’ allan o dlodi fod yn un o nodau sylfaenol unrhyw strategaeth wrthdlodi. Ond sut dylai strategaeth o’r fath geisio cyflawni hyn? A sut gallwn ni sicrhau bod y ‘llwybrau’ hyn yn trosi’n ostyngiadau ystyrlon mewn lefelau tlodi ledled Cymru?

Ar draws gwledydd Ewrop, mae hyrwyddo gwaith â thâl wedi dod yn ganolog i fentrau gwrthdlodi. Mae’r optimistiaeth y byddai mwyafu cyfraddau cyflogaeth yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn tlodi wedi goddef ergydion sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i gyfraddau tlodi mewn gwaith godi a mathau o waith ansicr luosogi.  Mae’r tueddiadau hyn yn dangos bod angen gwneud mwy, heblaw hybu a chreu cyflogaeth, yn yr ymgyrch yn erbyn tlodi. Ond ni allwn esgeuluso rôl gwaith cyflogedig wrth godi pobl allan o dlodi a chynnal safonau byw uwchlaw’r llinell dlodi. Mae cefnogi creu swyddi sy’n talu’n dda yn hanfodol bwysig, gan gynnwys drwy annog ‘busnesau angor’ fel y’u gelwir, y gall eu hôl troed sylweddol fod yn arwyddocaol wrth lunio marchnadoedd llafur lleol.

Mae ymchwil ar dlodi mewn gwaith yn canfod mai faint o waith cyflogedig a gyflawnir ar lefel yr aelwyd yw’r rhagfynegydd cryfaf o dlodi mewn gwaith, a phan fydd teuluoedd yn parhau i brofi tlodi, er bod ganddynt aelod sy’n gweithio, bod hynny’n tueddu i fod yn llai difrifol na phan fydd aelodau aelwyd heb unrhyw waith â thâl.  Felly, mae hyrwyddo cyflogaeth yn debygol o fod yn ganolog i unrhyw strategaeth wrthdlodi, a gall y llywodraeth fynd ati i geisio gwneud hyn drwy alluogi mynediad at raglenni addysg a hyfforddiant a thrwy gynyddu argaeledd a fforddiadwyedd gofal plant, i helpu rhieni i gydbwyso gwaith cyflogedig a chyfrifoldebau gofalu.

Rhaid inni gydnabod hefyd, fodd bynnag, fod gwaith yn methu â chodi nifer sylweddol o deuluoedd uwchlaw’r llinell dlodi ac, i rai, nad yw ymgymryd â mwy o waith â thâl yn opsiwn: oherwydd bod pob oedolyn oedran gwaith mewn cyflogaeth, neu oherwydd eu bod yn gweithio’n llawn amser, neu’n gofalu am blant neu aelodau eraill o’r teulu.  Dyma rai o’r rhesymau pam na all gwaith cyflogedig fod yn unig lwybr allan o dlodi.

Mae mwy o gymorth i deuluoedd â phlant, ac yn enwedig i deuluoedd mwy, yn hollbwysig: dengys tystiolaeth fod tlodi plant wedi bod yn cynyddu ers gosod y terfyn dau blentyn ar gredydau treth a Chredyd Cynhwysol, a bod teuluoedd â thri neu fwy o blant yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r cynnydd hwn . Mae mynd i’r afael â chostau tai, yn enwedig yn y sector rhentu preifat, hefyd yn angenrheidiol gan fod costau tai yn gweithredu fel cyfryngwr pwysig rhwng incwm y cartref a’r safon byw y gall teuluoedd ei gyflawni. Hyd yn oed lle nad yw incwm aelwydydd yn isel iawn, gall lefelau rhent uchel dynnu teuluoedd i dlodi.

Ac mae hyn yn dod â ni i bwynt ehangach. Ni fydd hyrwyddo llwybrau allan o dlodi yn lleihau lefel tlodi yng Nghymru oni bai bod peryglon mynd i dlodi yn cael eu hosgoi. Mae tlodi yn digwydd o ganlyniad i’r hyn y mae rhai gwyddonwyr cymdeithasol yn ei alw’n ‘gorddi’, gyda llawer o bobl yn symud i mewn ac allan o dlodi o un flwyddyn i’r nesaf.  Os yw tlodi i gael ei leihau, mae atal y bobl hyn rhag mynd i dlodi yr un mor bwysig â hyrwyddo llwybrau allan o dlodi.

Mae gan nawdd cymdeithasol rôl sylfaenol i’w chwarae yma, gan weithredu fel rhwyd ddiogelwch ar adegau o angen. Mae cydnabyddiaeth gynyddol nad yw’r system nawdd cymdeithasol, ar draws y Deyrnas Unedig, yn cyflawni ei swyddogaeth, gyda chyfraddau talu annigonol a rheolau dylunio sy’n golygu bod rhaid i hawlwyr Credyd Cynhwysol aros pum wythnos am daliad cychwynnol . Er bod taliadau ymlaen llaw bellach ar gael, mae hyn yn cyfrannu at nifer fawr o hawlwyr Credyd Cynhwysol yn wynebu didyniadau i daliadau sydd eisoes yn annigonol. Mae mawr angen edrych o’r newydd ar hyn.

Mae pwysigrwydd sylfaenol nawdd cymdeithasol i fynd i’r afael â thlodi yn her i Lywodraeth Cymru gan fod pwerau nawdd cymdeithasol, at ei gilydd, yn dal yn nwylo San Steffan.  Gellid ceisio mwy o bwerau mewn perthynas â’r maes polisi pwysig hwn ond mae hyn yn llawn risg os na chynhelir cydsafiad.  Gall ehangu cynlluniau datganoledig presennol, megis y Gronfa Cymorth Dewisol, fod o gymorth i liniaru caledi yn ystod cyfnodau o angen, ond mae ymchwil ddiweddar gan Sefydliad Bevan yn canfod bod ymwybyddiaeth o’r cynllun hwn yn isel, hyd yn oed ymhlith teuluoedd incwm isel yng Nghymru. Mae symud ymlaen yn debygol o olygu y bydd angen cynyddu ymwybyddiaeth o gynlluniau datganoledig presennol, yn ogystal â defnyddio pwerau presennol yn ofalus ac efallai’n well, ynghyd ag ystyried a allai fod angen rhagor o bwerau .

Gyda chwyddiant yn bygwth dirywiad sylweddol mewn safonau byw ledled Cymru, fel y mae yn rhyngwladol, mae’r ffocws ar hyn o bryd yn gwbl ddealladwy ar y cymorth y bydd ei angen ar deuluoedd i’w helpu drwy aeaf anodd. Yr hyn y mae Poverty and Social Exclusion: A way forward yn ei wneud yw darparu llwyfan ar gyfer ymdrechion i leihau tlodi yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.  Mae’n dangos gwerth sicrhau strategaeth, meddwl yn gyfannol, a’r angen am weithredu ar ddimensiynau amddifadedd lluosog. Mae’n rhoi cyfoeth o syniadau i lunwyr polisi ynghylch sut gallai tlodi yng Nghymru gael ei leihau’n ystyrlon, drwy hyrwyddo llwybrau allan o dlodi ac atal peryglon mynd i dlodi.