Beth sy’n creu strategaeth wrthdlodi effeithiol?

Ni wnaeth diffyg strategaeth wrthdlodi atal Llywodraeth Cymru rhag gweithredu yn ystod y pandemig i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru. O ddarparu arian, talebau neu becynnau bwyd yn ystod gwyliau’r ysgol i blant â hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim, i ganiatáu i deuluoedd cymwys hawlio grant datblygu disgyblion bob blwyddyn ar gyfer hanfodion fel gwisg ysgol, mae’n amlwg nad oes angen i weithredu aros am strategaeth.

Ond ydy hynny’n golygu nad oes angen strategaeth wrthdlodi byth mewn gwirionedd? Yn sicr, canfu ein hymchwil ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a fu’n edrych ar effeithiolrwydd strategaethau gwrthdlodi yng Nghanada, Seland Newydd, yr Almaen, Sbaen a’r Alban, amheuaeth gyffredinol bod strategaethau o’r fath yn amleiriog, ond yn ddiffygiol o ran gweithredu.

Dangosodd ein hymchwil hefyd, fodd bynnag, nad oes rhaid i hynny fod yn wir. Gall strategaethau gwrthdlodi fod yn effeithiol cyn belled ag y deellir pryd mae angen amdanynt a beth ydynt – yn ogystal â’r hyn nad ydynt.

Ni all unrhyw strategaeth fod yn effeithiol os yw’n dechrau bywyd fel rhestr hollgynhwysol: gwahoddiad i adrannau, byrddau ac eraill nodi pethau y maent eisoes yn eu gwneud, gyda’r pethau hynny, o graffu arnynt ag un llygad yn hanner caeedig, yn rhai y gellid o bosib ystyried bod ganddynt ryw gysylltiad â thlodi. Mae dau reswm pam mae’r dull ‘strategaeth ar ffurf rhestr’ yn aneffeithiol.

Y cyntaf yw ei fod yn tanseilio unrhyw ymdeimlad o flaenoriaethu. Mae’n ddigon dealladwy, os yw popeth i fod yn flaenoriaeth, na fydd blaenoriaethau mewn gwirionedd. Os yw am fod yn effeithiol, rydym yn awgrymu bod yn rhaid i strategaeth wrthdlodi fod yn ddidostur, a chynnwys y camau gweithredu y bernir eu bod yn flaenoriaethau yn unig. O fynd i’r eithaf, gall hyn hyd yn oed olygu (fel y dangosodd astudiaeth achos yr Almaen) strategaeth sy’n cynnwys un weithred yn unig.

Yr ail yw bod drysu rhwng y strategaeth a’r rhestr o bolisïau neu gamau gweithredu gwrthdlodi sy’n cysgodi oddi tani yn hepgor y rôl y gallai’r strategaeth gwrthdlodi ei hun ei chwarae. Ar sail ein hymchwil, y rôl hon yw galluogi a chynnal gweithredu lle nad yw’r rhai sydd eisiau gweithredu ynghylch tlodi fel arfer mewn sefyllfa i weithredu eu hunain.  Mewn sefyllfa o’r fath, mae angen rhwydwaith o gysylltiadau rhwng unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ar y cyd i ddewis, siapio a chefnogi’r camau gweithredu o fewn y strategaeth a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol.

Os yw’r rhwydwaith hwn i osgoi troi’n siop siarad, mae angen iddo ganiatáu ar gyfer deialog adeiladol. Dyma lle caiff gofynion delfrydyddol, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, eu troi’n gynlluniau gweithredu ymarferol a realistig y bernir eu bod, o’u troi’n weithredoedd (allbynnau), yn gallu cyrraedd y canlyniadau hynny. Y tensiwn adeiladol hwn rhwng delfrydiaeth sydd eisiau mwy a realaeth sy’n mynd mor bell ag y gall – ond nid ymhellach – sydd wrth wraidd strategaeth effeithiol. Hebddo, mae strategaeth yn farw.  Mewn geiriau eraill, mae strategaeth gwrthdlodi effeithiol yn ddyfais i sicrhau bod pŵer yn cael ei arfer ar bob lefel, gan geisio cyflawni set gyffredin o nodau.

Mae dau bwynt cysylltiedig pellach yma. Un yw nad y chwaraewyr hanfodol mewn strategaeth effeithiol yw’r rhai sy’n galw am weithredu na’r rhai a fydd yn gwerthuso ei lwyddiant, fel arfer ymhell wedi’r digwyddiad. Yn hytrach, y cymeriadau hanfodol yw’r cynllunwyr a’r llunwyr polisi manwl sy’n gorfod, wrth ymgodymu ag ymarferoldeb cynllun, cadw’r ddysgl yn wastad rhwng delfrydiaeth a realaeth.

Y pwynt arall yw, os yw’r cynllunwyr a’r dylunwyr polisi hyn yn ddoeth, byddant yn sicrhau mai’r unigolion sydd â phrofiad bywyd uniongyrchol o dlodi a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw yw eu cynghreiriaid pwysicaf. Yn syml, ni ellir gorbrisio mewnwelediad y rhai sydd â dealltwriaeth ar sail profiad wrth ystyried yn union sut y dylid gwneud pethau.

Yn y fan hon dylem nodi’n eglur bod strategaeth wrthdlodi yn cyflawni’r rôl hon, sef dod â’r rhai sydd am weithredu a’r rhai sydd mewn sefyllfa i wneud hynny at ei gilydd, p’un a yw’n strategaeth i wladwriaeth sofran ac yn cael ei harwain yn bersonol gan y Prif Weinidog (Seland Newydd) neu’n perthyn i lefel o lywodraeth nad oes ganddi, o dan y cyfansoddiad, statws cyfreithiol i weithredu ar dlodi ei hun (talaith Baden-Württemberg yn yr Almaen). Yn yr holl achosion hyn, mae effeithiolrwydd yn dibynnu ar berswâd, pwysau a gwrthiant, ac addasu.

Dim ond pan na fydd angen gwneud dim ond trosglwyddo arian i grwpiau o bobl a nodwyd trwy weithdrefnau hirsefydlog y mae strategaeth yn ddiangen. Yma, ac o bosib yma yn unig, y mae cytundeb ar y lefel uchaf – yn y cabinet neu ar lefel gweinidogol – yn debygol o fod yn ddigonol.

Mewn cyferbyniad, os y nod yw gwella tai gwael neu iechyd gwael y rhai sy’n byw mewn tlodi, mae angen strategaeth wrthdlodi i sicrhau bod y nifer fawr o bobl ac asiantaethau, cyhoeddus a phreifat, sy’n gorfod gweithredu mewn ffyrdd newydd neu wahanol, yn wir yn gwneud hynny.