Mater o gostau

Ers degawdau, mae tlodi’n cael ei fesur yn ôl incwm aelwyd o’i gymharu ag incwm aelwydydd eraill. Er bod addasiadau’n cael eu gwneud ar gyfer costau tai a maint y cartref, y mesur allweddol yw faint o arian sy’n dod i aelwyd.  Yn yr un modd, mae polisi cyhoeddus ar dlodi wedi canolbwyntio ar incwm aelwydydd. Ar lefel y DU, y prif ysgogiadau i greu newid yw enillion, trethiant a’r system fudd-daliadau. Yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru, sydd heb y pwerau hyn, wedi canolbwyntio hefyd ar godi incwm drwy wahanol raglenni cyflogadwyedd i helpu pobl i gael gwaith a thrwy ymgyrchoedd hawlio budd-daliadau.  Mae’r rhaglenni hyn wedi cynyddu incwm nifer o unigolion, er bod modd dadlau ynghylch maint eu heffaith ar yr ystadegau tlodi pwysicaf.

Mae hyn i gyd yn newid.  Mae prisiau sy’n codi i’r entrychion, yn enwedig prisiau bwyd, gwresogi a thai, yn dangos bod costau’n bwysig i aelwydydd yn ogystal ag incwm. Efallai nad dyna sut mae tlodi’n cael ei fesur, ond mae gallu fforddio bara, trydan a rhent yn sylfaenol i’r profiad o fyw mewn tlodi. Er mwyn dangos maint y gwahaniaeth y mae costau cynyddol yn ei wneud, byddai angen i gartrefi’r DU yn y ddau ddegradd incwm isaf wario o leiaf £38 yr wythnos yn rhagor ar ynni yn 2022-23 er mwyn defnyddio’r un faint ag yn 2019-20[1] (a hynny cyn codiad pris mis Hydref). O ran incwm, mae codiad yng nghost ynni o £38 yr wythnos yn cyfateb i bedair awr ychwanegol o waith ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu gynnydd o 33 y cant yn y lwfans Credyd Cynhwysol i gwpl.

Er bod yr amgylchiadau presennol i aelwydydd yn anodd, maen nhw’n agor ardaloedd newydd i bolisi cyhoeddus Cymru.  Yn allweddol, mae gan Lywodraeth Cymru lawer mwy o bwerau o ran costau nag sydd ganddi ar incwm.  Er enghraifft, hi sy’n gosod y fframwaith ar gyfer rhenti i fwy na chwarter miliwn o gartrefi sy’n cael eu rhentu’n gymdeithasol, hi sy’n penderfynu pwy sy’n gymwys ar gyfer cynlluniau fel y Grant Datblygu Disgyblion ac yn rhoi boeleri gwresogi newydd yn lle’r hen rai i deuluoedd incwm isel.  Mae hyn yn ychwanegol at y nifer o wasanaethau cyffredinol rhad ac am ddim y mae’n eu darparu, o bresgripsiynau i brisiau bws rhatach i bensiynwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau defnyddio ei phwerau er mwyn lleddfu’r pwysau ariannol ar aelwydydd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth ymateb i’r pandemig a’r argyfwng costau byw, mae wedi cynyddu faint o wasanaethau am ddim sydd ar gael ac wedi gwneud nifer cynyddol o daliadau arian parod i aelwydydd incwm isel.  Erbyn hyn mae gennym Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru, Cynllun Cymorth Ariannol Gofalwyr Di-dâl a Chynllun Costau Byw Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chynlluniau sydd ar gael ers tro fel y Gronfa Cymorth Dewisol, Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Phrydau Ysgol am Ddim.

Ni ddylid tanbrisio effaith y cynlluniau hyn ar dlodi. Er enghraifft, ers tro byd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pryd ysgol am ddim i blant cymwys, ac o ddechrau’r pandemig hyd at fis Awst 2022 mae wedi talu £19.50 yr wythnos yn lle pryd o fwyd pan fydd ysgolion wedi cau ac yn ystod y gwyliau.  Mae gwerth ariannol y cynllun fymryn yn llai na’r cynnydd dros dro diweddar o £20 i’r Credyd Cynhwysol; amcangyfrifwyd bod hwnnw wedi galluogi 1 o bob 8 aelwyd sy’n cael Credyd Cynhwysol i dalu ei chostau hanfodol.[2]  Ar y llaw arall, amcangyfrifir bod polisi Llywodraeth Cymru o gynyddu rhenti cymdeithasol ar gyfraddau uwch na chwyddiant wedi tynnu 40,000 o rentwyr cymdeithasol i dlodi gan fod costau tai wedi codi’n gyflymach na chyflogau.[3]

Yr hyn sy’n bwysig yw bod y rhain yn newidiadau real ac ar raddfa fawr sydd wedi eu gweithredu gan ddefnyddio pwerau a chyllidebau sy’n bodoli eisoes – ni fu angen datganoli pwerau newydd na chynlluniau newydd hyd yn oed. Felly, mae potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i dlodi drwy dorri costau aelwydydd a darparu taliadau atodol o arian parod.

Yn fy marn i, nid yw’r potensial hwnnw wedi’i wireddu’n llawn eto. Tameidiog yw’r camau a wnaed hyd yma – nid mater hawdd yw dod o hyd i’ch ffordd drwy’r gwahanol grantiau a lwfansau, gyda’u gofynion gwahanol o ran cymhwysedd, ffurflenni cais gwahanol ac amserlenni gwahanol.  Mae Sefydliad Bevan wedi galw am integreiddio’r cynlluniau yn un System Budd-daliadau i Gymru er mwyn hwyluso’r broses i ymgeiswyr, lleihau’r baich gweinyddol a chynyddu’r nifer sy’n manteisio arnyn nhw.[4]

Ac mae rhagor o bethau eto y mae’n bosibl eu gwneud y tu hwnt i System Budd-daliadau i Gymru, o reoli rhenti, i orfodi cyflogwyr sy’n derbyn grantiau Llywodraeth Cymru i dalu’r Cyflog Byw go iawn, i gapio pris tocynnau bysys a threnau – i enwi dim ond tri.

Bydd yn allweddol cydlynu’r camau hyn yn strategaeth effeithiol a chydlynol sy’n dangos llwybr clir i leihau tlodi.


[1] Bolton, P. a Stiward, I. (2022) Domestic energy prices, House of Commons Library Research Briefing 9491

[2] Mills, Z. (2021) The £20 uplift to Universal Credit is a first step on the path out of poverty,  https://policyinpractice.co.uk/the-20-uplift-to-universal-credit-is-a-first-step-on-the-path-out-of-poverty/

[3] Papur Briffio Sefydliad Joseph Rowntree Foundation (2020): Poverty in Wales 2020 https://www.jrf.org.uk/report/poverty-wales-2020

[4] Bevan Foundation (2020) A Welsh Benefits System: how it can help solve poverty