Tawelu amheuon ar drywydd addysg uwch

Dim ond ar ôl dod i’r casgliad nad oeddwn i’n fodlon yn fy swydd y clywais waedd amheuon y tu mewn. Wrth chwilio am swyddi gwag ar y we, byddwn i’n dod o hyd i rôl a fyddai’n berffaith yn fy marn i. Byddai’r disgrifiad o’r swydd yn cadarnhau ei bod gweddu i’m gallu. Ar ben hynny, gallwn i ddychmygu mwynhau’r swydd. Ar ôl gweld bod angen gradd ar gyfer y swydd, fodd bynnag, byddai’r llais mewnol yn dechrau. Gan fy atgoffa nad oeddwn i’n ddigon da. A bod gyda fi syniadau y tu hwnt i’m gallu. “Fe gest ti dy gyfle, a methu â manteisio arno. Dylet ti fod yn fodlon ar yr hyn sydd gyda ti. Mae’n syndod bod cymaint gyda ti.” Felly, byddwn i’n ildio’n dawel gan gau’r dudalen a derbyn na fyddwn i byth yn addas i swyddi o’r fath. Pobl eraill, ond nid fi. Oedd hynny’n wir, fodd bynnag?

Doeddwn i erioed wedi bod yn fyfyriwr ‘da’. Pan oeddwn i’n blentyn yn ystod y 1980au, rhyw gyflwr rhwng bod yn araf eich meddwl a diog iawn oedd ‘dyspracsia’ ym marn llawer. Roedd yn anodd yn yr ysgol gynradd ac, ar un adeg yno, byddai fy llaw’n crynu wrth orfod ysgrifennu rhywbeth gan wybod y byddai ceryddu cyn bo hir am ‘fethu â dal y pin ysgrifennu yn gywir’. Yn fy mlwyddyn olaf, byddai’r athro’n rhwygo tudalennau allan o’m llyfrau gwersi yn aml. Roedd o’r farn bod y gwaith yn flêr am nad oeddwn i wedi cywiro’r gwallau niferus yn ddigon taclus. Yn fy llygaid i, roedd yr ysgol yn ymwneud â cheisio osgoi geiriau hallt yr athro yn hytrach na dysgu rhywbeth o werth.

Erbyn diwedd yr ysgol uwchradd, roeddwn i wedi meithrin ffyrdd o ymdopi rywsut neu ei gilydd. Roeddwn i wedi dod i dderbyn bod beirniadaeth am fethu â rhoi sylw yn rhan annatod o bob gwers. Po fwyaf o ymdrech, lleiaf o effaith ac, felly, “fe wnaiff y tro” oedd fy agwedd i. Dros y blynyddoedd, fe ddes i gredu fy mod braidd yn dwp a bod hyd yn oed y pethau symlaf y tu hwnt i’m gafael. O drwch blewyn y des i trwy arholiadau TGAU a’r Safon Uwch. Fe rois i gynnig ar brifysgol mewn ymdrech i fodloni fy rhieni gan ddewis fy mhwnc gorau (er nad oeddwn i’n arbennig o hoff ohono) a chael fy nerbyn gan Brifysgol Aberystwyth. Tra oeddwn i yno, fodd bynnag, daeth chwalfa feddyliol a achosodd iselder trwm a diffyg egni.

Dychwelais adref yn rhacs, yn llawn cywilydd a dicter. Roeddwn i’n teimlo’n euog am siomi fy nheulu. Yn waeth, ymddangosai fod pob beirniadaeth amdanaf fy hun erioed wedi’i chadarnhau. “Rwyt ti’n dwp dros ben. Fyddi di byth yn ddefnyddiol. Man a man iti roi’r ffidil yn y to nawr.”

A dyna wnes i, yn y bôn. Symudais ymlaen. A gwneud yr hyn roeddwn i’n gyfarwydd ag ef. Gan weithio mewn swydd ddi-obaith a gwneud digon i ymdopi. A’r blynyddoedd yn mynd heibio a’m ffrindiau wedi graddio a llwyddo yn eu gyrfaoedd, dechreuais deulu. Derbyniais y byddai fy mywyd yn wahanol i’w rhai nhw ac y byddai hynny’n iawn. Doeddwn i ddim mor alluog â nhw.

Dechreuodd bwyso arnaf i, fodd bynnag. Dim ond ychydig i ddechrau. Yn dawel. Hawdd ei anwybyddu. Wedi’r cwbl, roeddwn i mewn swydd amser llawn ac yn dad, hefyd. Dim ond hyn a hyn o amser sydd gyda fi i bwyso a mesur popeth. Rwy’n edifaru rhai pethau, wrth gwrs, fel pawb arall. Mae colli cyfleoedd yn rhan o fywyd. Dyna sy’n digwydd. Rhaid dwyn yr iau trwm sydd ar fy ngwar. Does dim amser gyda fi i’w leddfu.

A dyna sut y parhaodd dros amser maith. Byddai’r iau ar fy ngwar yn drymach bob blwyddyn. Gan wasgu. A gwthio. Roeddwn i’n gryf o’r farn bod hynt fy mywyd yn gaeth i gledrau di-ben-draw. Un noson, ar ôl sawl gwydraid o win, cyfaddefais wrth gyfaill academaidd bod rhyw ddiffyg yn fy mywyd yn ôl pob golwg. “Pam nad ei di yn ôl i’r brifysgol?” meddai hi.

Fel robot, roedd rhestr o esgusodion gyda fi. Rwy’n rhy hen. Rwy’n rhy dwp. Does dim amser gyda fi. Alla i ddim ei fforddio. Mae’n rhy hwyr nawr. Roeddwn i wedi ailadrodd yr un esgusodion gwan dro ar ôl tro fel parot rhyw ymgynghorydd digalonni.

“Wyt ti wedi ymholi amdano?” “Nac ydw.” Bu rhaid imi ddweud yr ateb yn uchel iawn am fod llais mewnol yn gweiddi i gadarnhau’r hyn oedd yn hysbys imi yn barod.  “Iawn”, meddai hi. A thewi. Rai dyddiau wedyn, anfonodd hi neges ataf i. Dolenni â phrifysgolion sy’n cynnig cyrsiau rhan-amser. Dolen â gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. A brawddeg ysgogol. “Galli di wneud hyn!”

Gan ei bod wedi rhoi o’i hamser i hel yr wybodaeth drosof i, bu rhaid imi wneud peth ymdrech ac, felly, fe wnes i ddysglaid o de a dechrau chwilio. Ar ôl pedair awr, roeddwn i’n dal wrth y gliniadur heb yfed yr un diferyn o de. Po fwyaf o ddarllen, mwyaf o dystiolaeth fy mod ar gyfeiliorn ers tro. Doedd fy esgusodion ddim yn dal dŵr. Rhy hen. Mae ar wefan bron pob prifysgol straeon am israddedigion sydd o leiaf ddegawd a hanner yn hŷn na mi. Rhy dwp. Mae cyrsiau mynediad a digon o gymorth yn rhad ac am ddim, nid dim ond i fyfyrwyr cofrestredig. Does dim amser gyda fi. Mae mwyafrif y cyrsiau dysgu rhan-amser yn awgrymu amserlen sy’n cyfateb yn fras i un diwrnod y penwythnos a dwy noson yr wythnos. Alla i ddim ei fforddio. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnig grantiau a benthyciadau am y rheswm penodol hwnnw. Dyna’r rheswm dros ei sefydlu. Mae’n rhy hwyr nawr. Ydy hi? Ydy’n wir? Does dim modd osgoi cyfaddef bod fy ffrind yn llygad ei lle. Gallwn ei wneud.

Rwy’n sylweddoli bellach fy mod mewn sefyllfa dda. Mae’r plant wedi tyfu ac rwy’n ennill cyflog digon cryf. Roedd ei geiriau’n atseinio yn fy ymennydd drwy’r amser. “Galli di ei wneud!”

Gallwn. Fyddai ddim yn hawdd. Ond byddai modd.

Felly, pam roeddwn i’n gyndyn o hyd?

Pan na ddaeth ateb, penderfynais fentro. A bron yn syth, gwelais fod fy marn amdanaf fy hun wedi bod yn iawn drwy’r amser. Rwy’n dwp. Am beidio â gwneud hyn cynt. I ddechrau, mae proses cyflwyno cais am le mewn prifysgol ac am gymorth ariannol yn un hawdd iawn. A hynny i’r graddau imi fwrw golwg dros y ffurflenni nifer o weithiau i ofalu nad oedd rhagor i’w lenwi. Hyd yn oed pan ddaeth maen tramgwydd am na allwn i agor cyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru, datrysais y broblem yn glou trwy ffonio llinell gymorth y sefydliad. Yn y bôn, y peth anhawsaf oedd penderfynu beth i’w astudio a ble. Ar ôl penderfynu ar hynny, y cwbl roedd angen ei wneud oedd llenwi rhai ffurflenni ar y we a’u cyflwyno.

Mae astudio’n brofiad unigryw. O achos natur dysgu rhan-amser a chyrsiau o hirbell, byddwch chi ar eich pen eich hun ar adegau, a rhaid eich ysgogi eich hun i gyflawni’r gwaith. Rhaid dewis cwrs sy’n gweddu i chi, hefyd.

Mae ‘to cyntaf’ yn derm yn y byd academaidd. Yn y bôn, mae’n golygu nad aeth yr un o’ch rhieni i’r brifysgol. Mae’n gategori mae bron pob un o’m cyfoeswyr yn perthyn iddo. Fy rheswm dros grybwyll hynny bellach yw bod rhai myfyrwyr to cyntaf yn tueddu i syrthio i’r un fagl oedd wedi fy nal i ar y dechrau. Sef. Does dim rhaid astudio pwnc ‘teilwng’ am ei fod yn un o fri neu er mwyn bodloni’ch teulu. Y gwir yw bod pob pwnc yn deilwng. Mae angen dod o hyd i un sydd o wir ddiddordeb ichi. Un rydych chi’n frwd amdano. Un ymestynnol y byddwch chi’n mwynhau mynd i’r afael ag e. Mae pwnc addas i chi rhywle. Un sy’n gweddu i’r dim.

Fydd ei astudio ddim yn hawdd wrth geisio gadw’r ddysgl yn wastad rhwng cyfrifoldebau yn y cartref a’r gwaith yn ogystal â phopeth arall a allai godi ei ben unrhyw bryd. Ar yr amod eich bod yn hoffi dysgu am eich pwnc, fodd bynnag, gall roi tipyn o foddhad.

Nid dim ond cymwysterau fydd yn deillio o’r peth, chwaith. Mae’n ymwneud â thyfu. Datblygu. Profiadau newydd. Dysgu rhagor amdanoch eich hun. Mae’n hen ystrydeb, ond mae’n ymwneud â chyflawni’ch llawn dwf, gymaint â dim.

I mi, mae’n ymwneud â thawelu fy amheuon. Sydd yno o hyd wrth ysgrifennu hyn. Er eu bod yn cilio. Daw’r amheuon yn llai aml bellach. Heb weiddi mwyach, diolch byth.

Manylion yr awdur: Mae Gareth Davies yn dad ac yn fyfyriwr israddedig sy’n astudio cymdeithaseg yn y Brifysgol Agored.