Rôl Hanfodol Addysg Drydyddol

Mae addysg a hyfforddiant ôl-16 yn hanfodol ar gyfer y cyfleoedd unigol a’r twf economaidd gwyrdd sydd eu hangen ar Gymru os yw am wireddu uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae traddodiad balch yng Nghymru o roi gwerth ar ddysg a gwybodaeth er eu mwyn eu hunain, ac nid yn unig am yr hyn maent yn ei gyfrannu. Mae’n wir fod y targed o 50% o gyfranogi mewn Addysg Uwch yn fympwyol ond ni ddylai Cymru ystyried cefnu arno’n theatrig fel yr awgrymir yn Lloegr, na chyflwyno gwerthusiad amrwd o raddau yn ôl incwm graddedigion. Ond mae’n hanfodol fod addysg ôl-16 yn cyflwyno sgiliau a chyflogadwyedd i ddysgwyr a’r economi.

Nid oedd y system ôl-16 yn gwbl addas i’r diben cyn pandemig Coronafeirws. O ran sgiliau, os  nad yw’r system drydyddol yn paratoi pobl i gael swyddi da, pam ddylem ni fuddsoddi arian a gobeithion ynddi?  Dylai alinio’n agos â’r marchnadoedd llafur presennol ac yn y dyfodol. Mae hyn yn anodd ei gyflawni gan na chaiff ei chynllunio, ei rheoli a’i chyllido fel un system yn unig. Mewn cydnabyddiaeth o hynny, mae Llywodraeth Cymru’n creu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd (erbyn 2022). Ei dasg fydd ysgogi gwell integreiddio a llwybrau gwirioneddol ddi-fwlch yr holl ffordd o’r ysgol at brentisiaethau, cyrsiau galwedigaethol a graddau – a rheoli symudiadau pwysig o ran pwyslais.

Mae cyrsiau academaidd ynghyd â dewis y dysgwr yn bwysig, ond mae angen ail-gydbwyso rhannol. Mae addysg uwch ac addysg bellach ill dwy’n cael eu hysgogi a’u cyllido i raddau helaeth drwy ddewis dysgwyr o gyrsiau â hyd safonol. Mae hyn yn gweithio ar gyfer llawer o raddau addysg uwch israddedig, ond os ydym am symud economi Cymru i mewn i ddiwydiannau’r dyfodol, mewn byd sy’n newid yn gyflym, mae angen rhaglenni mwy arloesol, yn aml â hyd a dulliau cyflwyno gwahanol, wedi’u cyd-gynllunio gyda chyflogwyr, undebau llafur a dysgwyr – yn cynnwys dysgwyr sy’n oedolion yn y gwaith. Bydd angen i’r Comisiwn sicrhau bod rhannau o addysg uwch yn alinio’n agosach â’r marchnadoedd llafur – a mynd ati’n weithredol i gefnogi rhai rhaglenni arloesol ond a allai fod â risg, a gynllunnir i gefnogi cyfleoedd economaidd newydd.

Yn achos addysg bellach, un dasg allweddol fydd sicrhau gwell blaenoriaeth, llais a bri i lwybrau galwedigaethol.  Mae addysg a hyfforddiant i Lefel 3 ac uwch yn hanfodol i unigolion ac i dwf economaidd. Mae cyflymder newid economaidd hefyd yn golygu bod angen ffocws llawer cryfach ar ailsgilio ac uwchsgilio. Mae angen llawer mwy o gyfleoedd hyfforddiant rhan amser ac yn y gweithle ar ddysgwyr a chyflogwyr.

Ond mae angen i addysg bellach alinio’n agosach o lawer â chyfleoedd y farchnad lafur; caiff ei hysgogi’n ormodol gan ddewis defnyddwyr o gymwysterau sy’n addasu’n rhy araf i alwadau’r farchnad. Dywed cyflogwyr yn gyson fod addysg bellach a llawer o gymwysterau’n methu â chyflwyno’r hyn maen nhw’n chwilio amdano; ond mae alinio’n gweithio’r ddwy ffordd. Yr ateb yw cynnig mwy o gyfleoedd – a chyfrifoldeb – i gyflogwyr gydgynllunio rhaglenni o gwmpas dysgu ar sail profiad yn canolbwyntio ar gyflenwi’r sgiliau sydd eu hangen yn hytrach nag addysgu ar gyfer y cymwysterau presennol. Ceir enghreifftiau da ledled Cymru y dylid adeiladu arnyn nhw.

Ar gyfer alinio’n well gyda marchnad lafur y dyfodol mae angen hyrwyddwyr sefydliadol sy’n flaenllaw mewn diwydiannau twf allweddol; staff sydd â’r sgiliau a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf; a chyfleusterau o safon y diwydiant. Mae angen strategaethau adnoddau dynol hynod fedrus i ddod o hyd i’r hyrwyddwyr hynny a staff â’r sgiliau priodol a’u sicrhau.

Mae’r un peth yn wir am dimau polisi yn y llywodraeth. Nid oes modd i bobl nad oes ganddynt wybodaeth ddofn a chysylltiadau helaeth ysgogi polisïau twf ar gyfer y gwasanaethau ariannol neu’r diwydiannau creadigol. Efallai fod angen swyddfa canfod talent ar y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn debyg i’r hyn a geir mewn rhai economïau twf cyflym, er mwyn adfywio’r gweithlu polisi.

Mae polisïau cenedlaethol yn angenrheidiol ond yn annigonol. Rhaid alinio sgiliau, marchnadoedd a chyfleoedd twf economaidd ar sail leol. Rhaid cryfhau’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a’r timau datblygu economaidd rhanbarthol a grëwyd yn ddiweddar yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth er mwyn iddynt fod yn chwim, yn hyblyg ac yn ymatebol. Ac mae cyngor gyrfaoedd rhagorol yn hanfodol; mae angen cryfhau Gyrfaoedd Cymru hefyd.

Mae’r newidiadau polisi a strwythur a gynllunnir gan y llywodraeth yn newyddion da, ond yn ystod pandemig Coronafeirws nid yw amser ar ein hochor ni. Mae dirwasgiad ar y ffordd gyda’r OECD yn rhagweld codiadau enfawr mewn diweithdra a gostyngiad llym mewn prentisiaethau.  Yr ifanc – ac economi Cymru – gaiff eu taro galetaf. Mae’r dystiolaeth o ddirwasgiadau’r gorffennol yn glir: mae gan bobl sy’n methu â chael swydd wrth ddod i mewn i’r gweithle incwm a sgiliau is hyd yn oed ddegawdau’n ddiweddarach.

Rhaid i’n polisïau ni liniaru’r niwed tymor hir i unigolion a’r economi. Mae rhaglenni creu swyddi dychmygus ynghyd â chyfleoedd hyfforddi sy’n gwella sgiliau a chyflogadwyedd yn hanfodol: er enghraifft Corfflu Gwyrdd sy’n cynnig swyddi, hyfforddiant a llwybrau dilyniant i bobl ifanc. Dylid defnyddio’r Contract Economaidd a’r cymorth ariannol a roddir i fusnesau yn ystod y pandemig i gynyddu arferion busnes cefnogol. Ond mae Cymru’n dibynnu ar benderfyniadau a wneir yn Llundain ac nid oedd cyllideb fach yr haf yn obeithiol iawn. Rhaid i Gymru wneud popeth o fewn ei gallu i osgoi’r bygythiad o ‘genhedlaeth goll’; dyma’r dasg fwyaf pwysig o’n blaenau.