Codi’r Oed Cyfranogi i 18

Yn Lloegr, codwyd oedran gorfodol cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 17 oed yn 2013 ac wedyn i 18 oed yn 2015. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, oedran gadael yr ysgol yw 16. Mae’r syniad o godi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant yn ennill ei blwyf yng nghyd-destun yr Alban, yn ogystal ag yng Nghymru.

Cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru i archwilio goblygiadau dilyn y polisi hwn yng Nghymru. Ystyriodd yr ymchwil y modd y gallai Codi’r Oedran Cyfranogi (RPA) ryngweithio â diwygiadau parhaus i oedran ysgol a darpariaethau ôl-16 yng Nghymru, ac archwiliodd bolisïau amgen sy’n canolbwyntio ar ostwng nifer y disgyblion sy’n gadael yr ysgol yn gynnar, yn hytrach na pholisïau sy’n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i bobl ifanc aros mewn dysgu am gyfnodau hirach.

Er mwyn archwilio’r materion uchod, aeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ati i gomisiynu’r canlynol:

  • Adolygiad o lenyddiaeth bwrdd gwaith i edrych ar dystiolaeth ryngwladol ansoddol mewn perthynas â manteision a heriau RPA, yn ogystal â pholisïau amgen.
    • Er mwyn deall y modd y byddai’r polisi hwn yn rhyngweithio â diwygiadau polisi cyfredol ac arfaethedig yng Nghymru, cynhaliwyd nifer bach o gyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol yn Llywodraeth Cymru ac yn y sector addysg a hyfforddiant ehangach.
  • Dadansoddiad meintiol i fodelu effaith RPA yng Nghymru, pe bai’n cael ei weithredu, o gymharu â llinell sylfaen o lefelau cyfranogiad gwirfoddol cyfredol yn 17 a 18 oed.

Yn gyffredinol, mae’r dystiolaeth ansoddol o wledydd eraill i gefnogi deddfwriaeth sy’n codi’r oedran cyfranogi mewn dysgu yn wan. Mae profiad rhyngwladol yn dangos effaith gadarnhaol fach ar gyrhaeddiad o ran cymwysterau, cyfraddau diweithdra ac enillion yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’r effaith ar wella cyfraddau cadw mewn dysgu ôl-16 yn amheus. Ar sail y dystiolaeth, byddai RPA yn cynhyrchu buddion cyfyngedig i’r bobl ifanc hynny sy’n ymgysylltu leiaf â dysgu.

Mae’r dadansoddiad meintiol yn cefnogi’r canfyddiadau hyn, gan ddangos bod unrhyw fudd economaidd a ddarperir gan RPA yn dibynnu’n fawr ar lefel y cydymffurfedd â’r polisi. Ym mhob senario a gyflwynir, mae’r dadansoddiad yn awgrymu y byddai peidio â darparu opsiynau i’r bobl ifanc hynny y bydd y polisi’n effeithio arnynt, er mwyn eu denu i aros mewn addysg neu hyfforddiant, yn arwain at gyraeddiadau ychwanegol dibwys a manteision economaidd bach cymesur. Gallai hyn hefyd effeithio ar eu cymhelliant i gymryd rhan mewn dysgu yn y dyfodol.

Mae’r cwricwlwm newydd i Gymru a’r diwygiadau arfaethedig mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (PCET) yn cynnig llwyfan ar gyfer newid er mwyn annog mwy o gyfranogiad mewn addysg ôl-16, a rhagor o gydymffurfedd â’r addysg honno. Mae adeiladu ar brofiad gwledydd yr OECD yn amlygu’r angen i ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Atal cynnar;
  • Cefnogi ac ymgysylltu â dysgwyr cyn-16 oed sy’n cael anawsterau;
  • Monitro’r rhai sy’n wynebu risg;
  • Cynnig llwybrau o ansawdd da i’r rhai sy’n llai dawnus yn academaidd; a
  • Cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu ar ddiwedd yr ysgol uwchradd.

Yn hollbwysig, dylid ymestyn y cynnig hwn o fewn yr arena ôl-16.

Gan roi ystyriaeth i’r ddeddfwriaeth gyfredol ac arfaethedig yn y gofod addysg a hyfforddiant ôl-16 (e.e. gweithredu’r cwricwlwm newydd i Gymru a’r diwygiadau addysg PCET arfaethedig), mae’r argymhellion yn cynnwys y canlynol:

  • Canolbwyntio ar leihau cyfraddau gadael cyn gorffen ôl-16, a chyflwyno strategaeth i leihau gadael (yr ysgol) yn gynnar;
  • Darparu cynnig ôl-16 cydlynol a chyson sy’n cyd-fynd ag amcanion y cwricwlwm newydd i Gymru;
  • Cefnogi newydd-ddyfodiaid cynnar i’r farchnad lafur a chryfhau eu mynediad at ddysgu parhaus; a
  • Darparu cyllid parhaus ar gyfer mentrau atal ac ailintegreiddio sy’n cael eu targedu at bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

 

DOI reference: https://doi.org/10.54454/20220106