Cefnogi System Dysgu Gydol Oes Cymru

Er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i daro cydbwysedd rhwng amcanion cynhyrchiant ac amcanion cymdeithasol dysgu gydol oes, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal adolygiad o’r dystiolaeth ar ddysgu gydol oes. Nod yr adolygiad hwn yw llywio trafodaethau polisi a chefnogi’r gwaith o weithredu’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a gyhoeddwyd ar 1 Tachwedd 2021 sy’n adnewyddu’r pwyslais ar ddysgu gydol oes yng Nghymru drwy sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Mae’r adroddiad wedi’i strwythuro o amgylch meysydd allweddol dysgu gydol oes: y cyd-destun y mae’n digwydd ynddo; dysgu gydol oes mewn gweledigaethau a strategaethau; hawliau o ran dysgu gydol oes; yr angen i daro cydbwysedd rhwng targedu a darpariaeth gyffredinol; ffactorau sy’n rhwystro dysgu; cydbwyso’r amcanion economaidd a chymdeithasol; rolau a chyfrifoldebau gwahanol randdeiliaid a strwythurau llywodraethu dysgu gydol oes; mathau effeithiol o gymorth i sefydliadau dysgu; a chymharu dysgu gydol oes yng Nghymru â rhannau eraill o’r DU. Mae’r adroddiad yn gorffen gyda chyfres o argymhellion cyfunol i Lywodraeth Cymru.

Mae’r canfyddiadau’n amlygu’r duedd gynyddol o ddiffyg cymwysterau a sgiliau hanfodol ymhlith oedolion oedran gweithio yng Nghymru. Mae bron i hanner yr oedolion o’r grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf heb gael unrhyw hyfforddiant ers iddynt adael addysg amser llawn. Dim ond 12% o’r oedolion heb unrhyw gymwysterau a oedd yn credu y byddent yn debygol iawn o gael cyfle dysgu/hyfforddiant sy’n gysylltiedig â swydd yn y ddwy i dair blynedd nesaf (Centenary Commission on Adult Education, 2021). Yng Nghymru mae’r gyfran sydd â chymhwyster lefel 4 ac uwch 4% yn is na chyfartaledd y DU, ac mae’r gyfran sydd â chymhwyster lefel 3 1% yn uwch (Nomis, 2021). Mae anghydraddoldebau o ran anabledd (nid oes gan 15.2% o bobl anabl gymwysterau, o gymharu â 4.9% o bobl nad ydynt yn anabl) a dosbarthiad daearyddol y ddarpariaeth.

Mae ffioedd ac arian i dalu am gostau byw yn destun pryder mawr i ddysgwyr. Yn aml, diffyg cyllid cynhaliaeth, a’r angen i barhau i weithio, yw’r ffactorau sy’n rhwystro pobl rhag cael addysg uwch. Ffactor sylfaenol arall yw llwyddiant addysgol blaenorol. Po uchaf yw lefel y cymwysterau sydd gan rywun, y mwyaf tebygol yw’r person hwnnw i fynd ati’n annibynnol i chwilio am hyfforddiant pellach. Gwelwyd hyn eto drwy’r pandemig, ac mae wedi’i gofnodi mewn adroddiadau diweddar a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith (2019), a’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol (2020).

Mae’r adroddiad yn canfod y dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion, a gan weithio ar y rhagdybiaeth bod y diffiniad o ddysgu gydol oes yn cynnwys pob oedran, dylai ystyried:

  • Cadarnhau ac ailddatgan yr hawl bresennol i addysg;
  • Ehangu’r cynnig i gynnwys pobl ifanc 16-18 oed ac oedolion â lefel sgiliau isel;
  • Cydnabod dysgu anffurfiol a defnyddio dysgu i hyrwyddo dull ataliol o ymdrin ag iechyd;
  • Cynnig set o hawliau fel elfen sylfaenol o’r cynnig.

Dylai fod cymysgedd o wahanol lwybrau ariannu, sy’n ystyried y cynnydd mewn hawliau, anghenion dinasyddion, a chapasiti’r llywodraeth a busnesau. Dylai’r unigolion a ariennir yn llawn fod y rhai fyddai nid yn unig yn elwa o addysg bellach, ond sydd ei angen hefyd. Dylai cyd-ariannu fod ar gael i unigolion sy’n dymuno gwella eu sgiliau.

Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fabwysiadu strategaeth dysgu gydol oes ar gyfer pob oedran. Mae gan Lywodraeth Cymru a’i sylfaen sefydliadol wydn lawer o’r polisïau sylfaenol ar waith. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y problemau sy’n wynebu Cymru, a sut y gall dysgu gydol oes a chaffael sgiliau helpu i gynnig atebion a fydd yn helpu’r economi a lles trigolion Cymru.

Mae’r argymhellion a nodir drwy’r adroddiad yn ymwneud â’r prif ganfyddiadau, sydd wedi eu crynhoi isod:

  1. Nid oes gweledigaeth gyffredinol a chytundeb ar y diffiniad o ddysgu gydol oes;
  2. Nid oes naratif cyson, trawsbynciol;
  3. Mae angen gwella hawliau;
  4. Mae angen cytuno ar ddull o benderfynu ar flaenoriaethau; ac
  5. Mae angen atebion ar gyfer materion sefydliadol, gan gynnwys:
    • yr angen i roi eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau unigolion allweddol yn y system;
    • yr angen i ddatblygu dulliau gweithio sy’n helpu sefydliadau i barhau i gynnig darpariaeth o safon i ddysgwyr, gyda systemau sy’n ei gwneud yn hawdd iddynt gynnig rhaglen gydweithredol, hyblyg, ac ymatebol i fyfyrwyr a dysgwyr y dyfodol.

Mae’r canfyddiadau hyn a’r argymhellion cysylltiedig yn dangos bod angen mynegi gweledigaeth gadarnhaol a chydlynol ar gyfer dysgu gydol oes, sy’n adeiladu ar y sylfeini cadarn presennol. Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn meithrin partneriaethau agos a blaengar gyda gweledigaeth a phwrpas a rennir.