A ddylid codi oedran cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant i 18 oed yng Nghymru?

Mae Dr Matt Dickson yn Ddarllenydd mewn Polisi Cyhoeddus yn y Sefydliad Ymchwil Polisi (IPR) ym Mhrifysgol Caerfaddon. Mae Sue Maguire yn Athro Anrhydeddus yn yr IPR ym Mhrifysgol Caerfaddon. Bu i’w gwaith ymchwil ar godi oedran cymryd rhan mewn addysg i 18 oed gael ei gyhoeddi’n ddiweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.  

Mae’n ofynnol i bob person ifanc yn y DU aros yn yr ysgol tan ddiwedd y flwyddyn academaidd pan fyddant yn codi’n 16 oed. Ers 2015, mae deddfwriaeth wedi bod yn Lloegr sy’n nodi y dylai pobl ifanc aros mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant tan y byddant yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 18 oed.1 Hyd yma, ni ddilynwyd y cyfeiriad polisi hwn yng Nghymru, yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon. 

Mae’r IPR wedi cydweithio’n ddiweddar â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) i edrych ar effeithiau codi’r oedran cyfranogi (raising the participation age, RPA) yn Lloegr ac mewn gwledydd eraill ledled y byd lle mae polisïau tebyg wedi’u cyflwyno. Yna, asesodd y prosiect hwn effaith debygol gweithredu polisi tebyg yng Nghymru ar addysg ôl-16 neu ar gyfraddau cyfranogiad, cadw a chyrhaeddiad.  

Mae tystiolaeth sy’n awgrymu y bydd gwella cyfraddau cyfranogi mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 yn fuddiol i bobl ifanc, i’r economi ac i’r gymdeithas yn ehangach. At hynny, mae corff mawr o ymchwil wedi sefydlu bod cynnydd blaenorol yn yr oedran isaf er mwyn gadael yr ysgol yn y DU (ac yn rhyngwladol) wedi arwain at gynnydd yn lefelau cyrhaeddiad, cymwysterau ,enillion a sgiliau, yn ogystal â gwella iechyd a lleihau cyfraddau marwolaethau, beichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau a throseddau ieuenctid 

Tan i RPA gael ei fabwysiadu yn Lloegr, yn 1972 y cafwyd y newid sylweddol diwethaf i ofynion addysg yn y DU. Pan godwyd yr oedran gadael ysgol (raising of the school leaving age, RoSLA) bryd hynny, codwyd yr oedran roedd pobl ifanc yn cael gadael yr ysgol o 15 i 16 oed. Fodd bynnag, mae tri gwahaniaeth sylfaenol rhwng RPA a RoSLA 1972: 

  1. Nid yw RPA yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ifanc aros mewn dysgu amser llawn yn yr ysgol ac mae’n cynnig yr hyblygrwydd i gyfuno gwaith â hyfforddiant a dysgu’n rhan-amser. Gallai hyn ei gwneud hi’n anoddach gweithredu ac olrhain y cynllun, o ystyried y gwahanol opsiynau a llwybrau y gall pobl ifanc eu dewis. Mae hefyd yn gofyn am gydweithrediad a monitro amrywiaeth eang o ddarparwyr addysg a hyfforddiant, ac o gyflogwyr. I’r gwrthwyneb, roedd RoSLA yn gymharol syml, er ei fod yn gostus, gan ei bod yn ofynnol i bob person ifanc aros yn yr ysgol tan ei fod yn 16 oed.
  2. Mae’r cyfnodau gweithredu a’r dyraniadau cyllid yn wahanol iawn. Roedd sylfeini RoSLA yn Neddf Addysg 1944, gydag oedi o 28 mlynedd cyn iddo gael ei weithredu, oherwydd y gost i’r pwrs cyhoeddus, o ran adeiladau ysgol newydd a’r athrawon ychwanegol oedd eu hangen i gefnogi newidiadau o’r fath.2 Roedd cynlluniau ar gyfer RPA yn rhan o Ddeddf Addysg a Hyfforddiant 2008 ac fe’u deddfwyd yn Lloegr yn 2013 i gynnwys pob plentyn 17 oed, cyn cael eu hestyn yn 2015 i bob person ifanc tan ei ben-blwydd yn 18 oed, h.y. roedd yr amserlen yn fyr iawn. Hefyd, nid oedd mwy o fuddsoddiad yn dod gyda RPA, gyda’r awdurdodau lleol yn cael cyfarwyddyd i dalu costau darparu addysg ychwanegol ac i fonitro’r nifer a oedd yn manteisio o’u cyllidebau cyffredinol presennol. 
  3. Er bod methu cydymffurfio â deddfwriaeth RoSLA wedi arwain at erlyn rhieni/gofalwyr yn droseddol, nid oes unrhyw gosbau ar hyn o bryd yn cael eu rhoi i bobl ifanc, i’w rhieni/gofalwyr nac i gyflogwyr am beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth yr RPA yn Lloegr.

Er ei bod yn rhy gynnar i asesu effeithiau llawn RPA yn Lloegr ar ganlyniadau economaidd ac addysgol ehangach, gallwn weld yr effaith ar gyfraddau cyfranogiad ôl-16. 

Er bod cyfraddau cyfranogiad ôl-16 mewn ysgolion wedi codi ers i RPA gael ei weithredu, mae hyn wedi cyd-fynd â chwymp yn nifer y bobl ifanc sy’n ymgymryd â phrentisiaethau neu fathau eraill o hyfforddiant galwedigaethol, fel mai prin yw’r newid yn y niferoedd nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant. 

Felly, os mai nod y polisi yw ymgysylltu o’r newydd â’r rhai sy’n gadael y system addysg ar ôl cyrraedd 16 oed a chodi cyfran y garfan ysgol sy’n dal ati mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant, nid yw hyn wedi’i gyflawni eto.  

Efallai nad yw’n syndod ychwaith fod yr adolygiad o lenyddiaeth ryngwladol a wnaed yn y prosiect hwn wedi canfod mai gwan yw’r dystiolaeth i gefnogi gweithredu RPA yng Nghymru. Mae dyluniad polisi, costio ac amseru RPA, o’i gymharu â newidiadau hanesyddol RoSLA, yn wahanol iawn ac yn helpu i egluro pam mae eu canlyniadau’n cyferbynnu. 

Felly’r cwestiwn o hyd yw beth gallai‘r polisi ei gyflawni, o ran canlyniadau gwell, petai’n cael gefnogi gan gyllid digonol a darpariaeth ychwanegol. Dyma lle y gall y dadansoddiad meintiol, a wnaed yn rhan o’r prosiect hwn, daflu rhywfaint o oleuni.  

Modelu’r effaith bosibl

Heb sylfaen dystiolaeth gref sy’n ymwneud yn benodol â RPA (yn hytrach na RoSLA), nid yw’n glir beth dylem ddisgwyl iddo ddigwydd yng Nghymru, os caiff yr oedran cyfranogi ei godi i 18. 

Felly, rhaid inni adeiladu model ar gyfer effaith RPA sy’n ystyried nifer y bobl sy’n debygol o gael eu heffeithio, yr hyn y byddent yn dewis ei wneud, beth y byddent yn ei gyflawni a beth fyddai’r enillion economaidd hirdymor ar eu cyraeddiadau. 

Er mwyn gweithredu’r model, mae angen i ni wneud tybiaethau ar gyfer pob un o’r camau modelu hyn. Mae hyn yn golygu, er y gallwn ddewis cyfres o dybiaethau am baramedrau’r model sy’n gwneud y synnwyr mwyaf yn ein barn ni – ein ‘senario canolog’ – nid oes sicrwydd, a gall prisio terfynol budd economaidd gros y polisi newid yn eithaf sylweddol os byddwn yn newid y tybiaethau modelu. 

Mae Ffigur 1 yn dangos y tybiaethau a wnawn ar gyfer pob cam o’r model yn ein ‘senario canolog’.  

 

Ffigur 1: Camau modelu, rhagdybiaethau sylfaenol a rhagdybiaethau a ddewiswyd ar gyfer y senario modelu canolog 

Yr allwedd i ddeall yr effaith bosibl ar gyfranogiad a manteision economaidd tymor hwy y polisi, yw i ba raddau y mae cyfranogiad yn cynyddu, h.y. graddau’r cydymffurfio. Mae’r dystiolaeth betrus o Loegr yn awgrymu lefel isel iawn o gydymffurfio, o ystyried nad yw cyfran gyffredinol pob carfan mewn addysg neu hyfforddiant wedi newid mewn gwirionedd. Rydym yn tybio bod gan y polisi gyfradd gydymffurfio o 30%, sydd efallai’n eithaf ceidwadol o ystyried profiad Lloegr. 

Ar hyn o bryd, o ystyried yr opsiynau presennol, dewis cyntaf y bobl ifanc sy’n gadael y system yn 16 oed yw rhoi’r gorau iddi, felly nid ydym yn gwybod beth y byddent yn ei ddewis petai disgwyl iddynt aros mewn addysg a hyfforddiant. Felly, rydym yn tybio y byddai’r cyfranogwyr ychwanegol yn cael eu dosbarthu ar draws y llwybrau canlynol:  

  • cymwysterau is na TGAU
  • TGAU neu gymwysterau academaidd lefel 2 eraill  
  • cymwysterau galwedigaethol lefel 2
  • Safon Uwch neu gymwysterau academaidd lefel 3 eraill
  • cymwysterau galwedigaethol lefel 3
  • cymysgedd o lefelau a mathau o gymwysterau yn yr un cyfrannau â myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn wirfoddol ac sydd â chyrhaeddiad blaenorol a nodweddion cefndir economaidd-gymdeithasol tebyg

Fodd bynnag, mae myfyrwyr sy’n parhau’n wirfoddol mewn addysg yn debygol o fod yn wahanol mewn ffyrdd nad ydynt wedi’u harsylwi i’r rhai a fyddai, o gael dewis, yn gadael. Felly, rydym yn rhagdybio bod cyfranogwyr newydd yn cyflawni ar gyfradd is, yr amcangyfrifir ei bod yn ddwy ran o dair o gyfradd cyflawni myfyrwyr presennol sydd â nodweddion tebyg. 

Yn yr un modd, gall yr enillion ar gymwysterau fod yn is i’r cyfranogwyr sy’n gorfod aros oherwydd RPA ac felly cyfrifir bod eu gwerth yn 50% o’r gwerth a amcangyfrifir ar gyfer y rhai hynny sy’n dilyn yr un cymwysterau fel eu dewis cyntaf.  

Mae rhoi hyn i gyd at ei gilydd yn ein galluogi i amcangyfrif faint o gymwysterau ychwanegol a fyddai’n cael eu cyrraedd yn ychwanegol at yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl heb RPA, yn ogystal â gwerth gostyngol y cymwysterau hyn gydol oes.  

O dan y senario canolog, amcangyfrifwn y byddai’n effeithio ar tua 3% o garfan ym mlwyddyn 12 (tua 900 o fyfyrwyr) petai RPA yn cael ei weithredu yng Nghymru, a dwbl y nifer hwnnw ym mlwyddyn 13. Amcangyfrifir mai gwerth economaidd ychwanegol gydol oes y cyraeddiadau y byddai’r cyfranogwyr newydd hyn yn eu cael o dan ein senario canolog yw tua £36m y garfan. Mae hyn yn gynnydd o 1.4% yng nghyfanswm gwerth gydol oes y cymwysterau y byddem yn eu disgwyl gan garfan heb RPA. Fodd bynnag, mae hyn yn ddibynnol iawn ar lefel y cydymffurfio â’r polisi, yn amrywio o £168m os llwyddir i gael cydymffurfio llawn i £8m os mai dim ond 5% o ddarpar gyfranogwyr sy’n cwblhau blwyddyn 12 a blwyddyn 13 mewn gwirionedd.  

Mae’r amcangyfrifon hefyd yn amrywio os byddwn yn newid y tybiaethau ar gamau eraill y modelu. O’r herwydd, wrth bennu’r cydymffurfio ar 30%, cawn ystod gredadwy o werthoedd o £25m i £102m fesul carfan, yn dibynnu ar yr hyn rydyn yn ei dybio am y llwybrau a ddilynir, y cyfraddau cyrhaeddiad a gwerth economaidd hirdymor y cyraeddiadau ychwanegol. 

Hefyd, mae’n bwysig nodi bod yr amcangyfrifon yn rhoi’r gwerth ychwanegol ar ben yr hyn y byddem yn disgwyl ei gyflawni heb y polisi, ond nad ydynt yn ystyried costau darparu’r addysg a’r hyfforddiant ychwanegol. Yn ogystal, nid ydym yn ystyried y gwerth ehangach posibl i’r gymdeithas o gael mwy o gyfranogiad o ran iechyd, lles, cynhwysiant cymdeithasol a llai o droseddu.  

Casgliadau 

O ystyried y dystiolaeth ansoddol a meintiol, rydym yn dod i’r casgliad y byddai gweithredu RPA yn creu manteision cyfyngedig i bobl ifanc yr effeithir arnynt, h.y. pobl ifanc sy’n gorfod cymryd rhan mewn rhyw fath o addysg neu hyfforddiant y tu hwnt i flwyddyn 11.  

Byddai unrhyw fanteision economaidd o weithredu RPA yn dibynnu’n fawr ar faint o gydymffurfio sydd â’r polisi. Ym mhob senario a gyflwynir yn yr adroddiad meintiol, mae’r dadansoddiad yn awgrymu y byddai peidio â darparu opsiynau i’r bobl ifanc hynny y mae’r polisi’n eu targedu, er mwyn eu denu i aros mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16, yn arwain at gydymffurfio ar lefel isel, cyraeddiadau ychwanegol bach a manteision economaidd bach yn gymesur â hyn.  

Beth yw’r dewisiadau eraill? 

Mae defnyddio profiad gwledydd eraill yr OECD, ac ystyried y dadansoddiad ansoddol a meintiol ar gyfer Cymru, yn arwain at yr argymhellion canlynol: 

  • darparu cynnig ôl-16 cydlynol a chyson sy’n cyd-fynd ag amcanion y cwricwlwm newydd i Gymru
  • canolbwyntio ar leihau cyfraddau gadael cyn gorffen ôl-16, a chyflwyno strategaeth i leihau gadael (yr ysgol) yn gynnar
  • cefnogi newydd-ddyfodiaid cynnar i’r farchnad lafur a chryfhau eu mynediad at ddysgu parhaus
  • darparu cyllid parhaus ar gyfer mentrau atal ac ailintegreiddio sy’n cael eu targedu at bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

Mae cynnig llwybrau o ansawdd da i bob grŵp o ddysgwyr wrth iddynt nesáu at ddiwedd addysg orfodol yn allweddol i gael cyfraddau dysgu ôl-16 gwell. Nid yw’r dadansoddiad meintiol wedi’i gyfyngu i RPA ond yn hytrach mae’n rhoi syniad o’r math o enillion economaidd a allai fod ar gael i unrhyw bolisi sy’n llwyddo i gynnwys mwy o bobl ifanc mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16 amser llawn ac sy’n cefnogi’r nod o’u cadw a’r cymwysterau y maent yn eu cael. 

Yn hollbwysig, os ydym am fynd i’r afael ag anghenion addysg a hyfforddiant ôl-16 pob grŵp o bobl ifanc, rhaid inni edrych y tu hwnt i’r maes dysgu amser llawn. Rhaid deall a mynd i’r afael yn well ag anghenion gweithwyr ifanc ôl-16, yn enwedig y rhai sy’n methu cymryd rhan ar hyn o bryd mewn unrhyw fath o ddysgu ôl-16 achrededig ac sy’n agored i lwybrau ‘gwaith gwael’. Hefyd, mae mater blinderus nodi a diwallu anghenion pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn parhau i fod yn her bolisi barhaus y mae’r pandemig wedi’i gwaethygu. 

Wrth symud ymlaen, gellid dadlau nad yw erioed wedi bod yn bwysicach inni gael y cynnig i ddysgwyr ôl-16 yn gywir, er mwyn galluogi pob person ifanc i gyflawni ei botensial, i’w helpu i wneud cyfraniadau cadarnhaol i’r gymdeithas ehangach ac i helpu yn yr her o ailadeiladu’r economi.  

Mae’r holl erthyglau a bostiwyd ar y blog hwn yn rhoi barn yr awdur(on), ac nid safbwynt yr IPR, na Phrifysgol Caerfaddon. Cewch ragor o wybodaeth yma am ymchwil IPR ar ehangu cyfranogiad ym myd addysg uwch.