Datganoli a phandemig y Coronafeirws yng Nghymru: gwneud pethau’n wahanol, gwneud pethau gyda’n gilydd?

Mewn trafodaeth yn y Senedd ym mis Mai, roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac Arweinydd Plaid Brexit Cymru, Mark Reckless, yn gytûn bod pandemig y Coronafeirws wedi codi proffil datganoli fwy nag unrhyw beth arall yn yr 20 mlynedd diwethaf. Er hynny, nid yw’n syndod bod y ddau wedi dod i gasgliadau gwahanol iawn o’r arsylwad cyffredin hwn. Ond mae’n tynnu sylw at sut, yn y tri mis diwethaf, mae llawer o bobl yng Nghymru a thu hwnt wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o ddatganoli.

Y ffordd fwyaf amlwg y mae’r pandemig wedi tynnu sylw at ddatganoli yn y DU yw’r ymatebion gwahanol gan bob gwlad. Tra bod y pedair gwlad wedi (ar y cyfan) rhannu dull cyffredinol tebyg, mae’r cyngor iechyd penodol – ac, yn fwy na hynny, y ddeddfwriaeth a’r canllawiau sy’n ei roi ar waith – wedi bod yn wahanol ym mhob gwlad. Mae hyn yn rhannol gan fod rhai meysydd polisi pwysig a pherthnasol, fel iechyd ac addysg, wedi’u datganoli beth bynnag, Ond pan basiodd Senedd y DU y Ddeddf Coronafeirws ym mis Mawrth, fe wnaeth hefyd ddatganoli’r pŵer hanfodol bwysig i lunio’r rheoliadau a fyddai’n pennu yn union sut y byddai ein bywydau bob dydd yn newid wrth i lywodraethau geisio dod â’r pandemig dan reolaeth. Felly, o reolau am ymarfer corff a chyswllt cymdeithasol, i drefniadau ar gyfer ail-agor ysgolion a siopau, a ph’un a phryd y dylech chi orchuddio’ch wyneb, mae’r pedair llywodraeth wedi gwneud penderfyniadau sy’n amrywio fymryn.

Efallai y bydd rhai yn gofyn, os yw’r wyddoniaeth rheoli heintiau yr un peth ar ddwy ochr Clawdd Offa, pam y dylai’r rheolau a’r polisïau ar gyfer rheoli’r haint fod yn wahanol. Yr ateb yw fod llunio polisi yn – ac mewn democratiaeth gellir dadlau y dylai fod – yn cael ei lywio gan ideoleg gwleidyddol a diwylliant yn ogystal â thystiolaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn bendant wedi cyflwyno ei dull mwy cyfyngol i’r cyfnod clo fel rhan o arddull polisi unigryw, yn fwy rhagofalus na dull Lloegr, ac o ganlyniad, mae llawer o bobl wedi dod yn ymwybodol y gall wneud pethau’n wahanol – weithiau i’w syndod a’u cost.

Ond er mai dyma’r ochr i ddatganoli y mae pobl yn sylwi arni, mae ochr arall llai amlwg sydd, efallai, yr un mor bwysig. A hwnnw yw’r graddau y gall llywodraeth ddatganoledig ddweud ei dweud mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar y DU gyfan. Mae ysgolheigion yn cyfeirio at y ddwy ochr hon fel ymreolaeth (self-rule) a chyd-reolaeth (shared rule).

Mae cyd-reolaeth, mewn rhai ffyrdd, wedi bod yn ‘gefnder gwan’ i ddatganoli yn y DU. Ers 1999, mae strwythurau ffurfiol wedi bodoli i hwyluso cysylltiadau rhwng y bedair llywodraeth. Ond nid ydynt, i ddweud y lleiaf, wedi gweithio’n gyson dda.  Yn fwy diweddar mae Brexit, a’r angen i greu fframweithiau cyffredin ar draws y DU i ddisodli fframweithiau’r Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyfer materion datganoledig fel amaethyddiaeth neu bysgodfeydd, wedi dwyn i’r amlwg safbwyntiau tra wahanol ar ba mor bell y dylai’r cyd-reolaeth weithredu yn y DU.  Yn fras, mae Llywodraeth y DU yn aml wedi credu er y dylid gwneud penderfyniadau am faterion cyffredin trwy ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig, ei chyfrifoldebau hi ydyn nhw yn y pen draw.

O’i gymharu, mae Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi cymryd y safbwynt y dylai penderfyniadau gael eu gwneud drwy negodi ar sail llawer mwy cyfartal: yn wir, mae dogfen Llywodraeth Cymru Diwygio ein Hundeb, a sbardunwyd gan Brexit, yn galw am i’r DU gael ei diwygio fel rhyw fath o UE ar raddfa fach, gyda’r pedair gwlad yn cael yr un berthynas i’r Undeb ag sydd gan yr aelod-wladwriaethau i’r UE.

Sut mae hyn yn berthnasol i bandemig y Coronafeirws? Mae rhai meysydd lle mae fframweithiau cyffredin wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion ac adnodau. Roedd pasio’r Ddeddf Coronafeirws yn San Steffan, er enghraifft, yn golygu nad oedd rhaid i Fae Caerdydd a Holyrood ddrafftio a phasio deddfwriaeth gynradd ar wahân. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr hefyd wedi cymryd cyfrifoldeb rhannol dros y DU mewn meysydd fel profi ac ap olrhain cyswllt.

Mae cwestiynau mwy cymhleth yn codi pan fo gennych chi fesurau a gymerir ar lefel y DU, sy’n gallu effeithio ar benderfyniadau datganoledig. Er enghraifft, mae’r cynllun ffyrlo wedi bod yn hynod bwysig o ran cadw gweithwyr yng Nghymru mewn swyddi tra bod llawer o’r economi wedi bod ar gau. Mae cynllun ar y raddfa honno wedi gorfod cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU: mae Prif Weinidog Cymru a Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi dweud na fyddai gan Gymru’r ‘grym ariannol’ i gyllido’r cynllun ar ei phen ei hun. Ond mae risg glir yn y cynlluniau hyn am eu bod yn ddibynnol ar benderfyniadau a wneir yn Llundain tra bod penderfyniadau iechyd y cyhoedd am ail-agor rhannau o’r economi wedi’u datganoli. Gallai hyn arwain at sefyllfa lle mae cynlluniau yn cael eu dirwyn i ben yn Lloegr, tra bod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dal i fod o dan gyfyngiadau llymach. Mae angen rhyw fath o strwythur lle caiff penderfyniadau eu gwneud ar y cyd. Ond tra’r oedd cydweithio agos iawn rhwng llywodraethau ym mis Mawrth a mis Ebrill, mae’n ymddangos fod hyn bellach wedi arafu: erbyn canol mis Mai roedd Prif Weinidog Cymru yn disgrifio’r berthynas fel ‘proses dechrau-stopio’.

Felly beth mae pandemig y Coronafeirws yn ei ddweud wrthym ni am ddatganoli? Yn gyntaf, does dim dwywaith ei fod wedi gwneud mwy o bobl yn ymwybodol bod rhai pethau wedi’u datganoli. Yn ail, mae’n rhoi’r cyfle i lywodraethau datganoledig ddangos sut y gallant wneud pethau’n wahanol, yn arbennig os yw gwahanol newidiadau i fesurau’r cyfnod clo yn arwain at wahanol ganlyniadau economaidd neu iechyd y cyhoedd. Yn drydedd, mae’n ein hatgoffa fwyfwy bod yn rhaid i gyd-reolaeth, yn ogystal ag ymreolaeth, fod yn rhan o’r setliad datganoli. Mae wedi dod yn gyffredin y bydd yn rhaid i bethau newid ar ôl y pandemig. Ac efallai mai un o’r pethau hynny fydd y berthynas rhwng llywodraethau’r DU.