Pandemig y Coronafeirws a phris iechyd

Mae’r pandemig Coronafeirws presennol wedi gosod gofal iechyd ac arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth yng nghanol y drafodaeth gyhoeddus. Mae cwestiynau ynghylch dogni adnoddau megis mynediad at ofal iechyd arbenigol, profi, ac argaeledd cyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu trafod yn ddyddiol. Fe drafodwyd dogni mynediad at welyau a thriniaeth, gyda gweithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen yn yr Eidal a Sbaen yn gorfod gwneud penderfyniadau i achub neu golli bywydau yn seiliedig ar argaeledd staff ac offer yn hytrach na’r angen clinigol.

Nid yw’r cwestiwn o ddogni gofal iechyd yn un newydd. Mae’r drafodaeth, wedi’i hysgogi gan economeg iechyd, wedi bod yn digwydd am ddegawdau yn y DU a thu hwnt. O fynediad at ddialysis yr arennau yn y 1970au, triniaethau trawsblannu calonnau yn y 1980au ac, yn fwy diweddar, triniaeth cyffuriau canser drud, mae’r GIG wedi bod yn wynebu’r cyfyng-gyngor cyson o ran sut i ddefnyddio adnoddau gofal iechyd cyfyngedig yn wyneb galw cynyddol.

Mae’r argyfwng presennol yn cynnig cyfle i ailystyried sut mae gofal iechyd bellach wedi’i ddominyddu gan economeg iechyd. Yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o’r DU, mae argaeledd triniaethau a phenderfyniadau ynghylch pwy sydd â’r hawl iddynt wedi cael eu dylanwadu fwyfwy gan ddulliau a chysyniadau economeg. Fel yr ysgrifennodd Richard Horton, prif olygydd y Lancet, mewn erthygl olygyddol yn 2017:

‘Economegwyr yw duwiau iechyd byd-eang… eu clogynnau llachar o awdurdod meintiol… yn tawelu lleisiau meddygol gwannach’.

Nid yw Cymru wedi dilyn defnydd Lloegr o gystadleuaeth a ffug-farchnadoedd i geisio rheoli costau, ond mae sut i ddiwallu’r galw cynyddol am ofal iechyd wedi bod yn fater gwleidyddol pwysig yma gyda sawl bwrdd iechyd yn cael trafferth i ddarparu gofal o ansawdd uchel ac aros o fewn eu cyllidebau.

Ceir tystiolaeth, hyd yn oed cyn sefydlu’r GIG ym 1948, fod y wladwriaeth yn ymwybodol o ‘bris’ afiechyd. Er enghraifft ym 1943, cynhyrchwyd poster (llun isod, Science and Society Picture Library) gyda’r pennawd ‘Beth yw pris annwyd?’.

Erbyn y 1970au, roedd gan economeg iechyd y gallu i gynnig naratif ‘cyflenwad-galw’ i wleidyddion oedd yn argyhoeddi ond hefyd yn syml: darparwyd gofal iechyd ar sail adnoddau cyfyngedig (e.e. meddyginiaeth, nyrsys/meddygon, gwelyau) ond profwyd galw diderfyn (h.y. roedd disgwyliadau pobl o iechyd ar gynnydd). Roedd rhai o’r datrysiadau a gynigwyd yn cynnwys gosod fframweithiau ‘gwrthrychol’ yn seiliedig ar resymeg er mwyn gwneud penderfyniadau trwy ddefnyddio technegau cyfrifo cost a budd, gan nodi dewisiadau unigol a gwerthuso perfformiad gwasanaethau.

Ers hynny, mae economeg iechyd wedi dod yn rhan o sut mae gofal iechyd yn cael ei ffurfio, ei gyflwyno a’i werthuso. Er enghraifft, mae blwyddyn-fywyd a addaswyd yn ôl ansawdd (QALYs) (gweler y ffigur isod), adnodd economeg a ddatblygwyd i werthuso cost-effeithiolrwydd triniaethau, yn dod â morbidrwydd a marwoldeb ynghyd mewn cymhareb sengl i werthuso canlyniad ymyriadau iechyd. Y cwestiwn a ofynnir gan foesegwyr yw a ddylai ystyried blynyddoedd bywyd a enillir ac sydd ar ôl i’w hennill fod yn sail i wneud penderfyniadau yn ystod y pandemig Coronafeirws yma. Yn wir, ers ffurfio QALYs gan economegwyr Prydeinig yn y 1970au, bu cryn feirniadaeth ei fod yn gysyniad sy’n gwahaniaethu ar sail oedran ac anabledd. Ni fu’r meini prawf hyn erioed mor amlwg ag y maen nhw nawr.

(Remedia blog: https://bit.ly/2WxCqzj)

Er gwaetha’r ffaith yr ymddengys fod gan economeg iechyd rôl gynyddol, mae rhai ymchwilwyr wedi cymharu a gwerthuso p’un a yw’r ddisgyblaeth yn effeithio ar benderfyniadau cyllido mewn gwirionedd. Maent yn awgrymu, er fod y drafodaeth ar economeg iechyd yn ymddangos yn flaenllaw, ‘ymddengys fod gwerthusiad economeg iechyd, fodd bynnag, yn cael ychydig o effaith yn unig ar gyfyngu mynediad a/neu wrthod cyffuriau dadleuol’. Mae gwerth symbolaidd economeg – gyda’i wrthrychedd honedig a’i werthoedd niwtral – mewn maes polisi dadleuol megis gofal iechyd yn ddefnyddiol i dynnu’r elfen wleidyddol o ddyrannu adnoddau. Caiff penderfyniadau gwleidyddol eu disgrifio dro ar ôl tro fel rhai ‘a arweinir gan wyddoniaeth’, fodd bynnag, bydd ‘gwyddorau’, mathau o arbenigedd a thystiolaeth gwahanol, yn fframio problemau yn wahanol, gydag atebion gwahanol.

Canfyddir corff o waith ymchwil defnyddiol sy’n edrych ar rôl economeg mewn gofal iechyd o fewn llenyddiaeth dadwleidyddoli sy’n dadlau, yn arbennig, y gall llywodraethau geisio dadwleidyddoli penderfyniadau trwy eu dirprwyo i gyrff sydd hyd braich.  Mae Matthew Wood, er enghraifft, yn dadlau fod Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) y DU yn cyflawni’r swyddogaeth hon mewn polisi iechyd ac yn elwa o’r hyn mae’n ei alw’n ‘“wydro dwbl” sefydliadol’ sy’n atal gweinidogion rhag ymyrryd yng ngwaith y sefydliad (2015, p.646). Fodd bynnag, mae cryfder y gwydro dwbl hwn yn dibynnu ar y llywodraeth, gyda’r potensial iddo gael ei ‘chwalu’ yn wyneb pwysau gwleidyddol gormesol. Un enghraifft yw’r Gronfa Gyffuriau Canser yn Lloegr yn 2011, a oedd yn hepgor argymhellion NICE ar gyfer cyffuriau canser penodol.  Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â chyflwyno cronfa debyg yng Nghymru ac fe wynebodd Gweinidogion yma feirniadaeth am hyn o rai cyfeiriadau.

Yn ystod yr argyfwng hwn, gwelwyd gwahaniaethau yn y cyflymder a’r ffyrdd y mae pedair gwlad y DU wedi llacio ar gyfyngiadau’r cyfnod clo ac mae’r cwestiwn ynghylch mynediad at ofal a dogni a triage yn cael ei ailnegodi yn ddyddiol ac yn wahanol mewn gwledydd gwahanol a wardiau ysbyty. Yr hyn sy’n amlwg, fodd bynnag, yw hyd at y pandemig yma, mae polisi gofal iechyd ar draws y DU wedi canolbwyntio ar gostau’r GIG o ran apwyntiadau a gollwyd, rhagnodi gormodol, neu atgyfeiriadau. Bellach mae’r naratif yn canolbwyntio ar ‘beth bynnag fo’n ei gymryd’ gydag Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd Llywodraeth y DU yn datgan “costied a gostio” yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws (lluniau isod: gov.uk a Iechyd Cyhoeddus Cymru) ac mae ei gyfoedion mewn gwledydd eraill yn dilyn trywydd tebyg.

Wrth i’r byd ddechrau rheoli pandemig y Coronafeirws, bydd yn bwysig dogfennu sut mae gwasanaethau iechyd wedi’u trawsnewid ac ystyried y ffyrdd y gall y GIG ymadfer ar ôl hyn. Bydd hefyd yn hynod ddiddorol gweld p’un a yw economeg wedi colli ei afael mewn gwirionedd ar benderfyniadau dyrannu neu p’un a fydd pwysigrwydd cost-effeithiolrwydd yn adennill ei le wrth i’r bygythiad i fywyd ddechrau cilio ac wrth i’r sylw droi at y niwed economaidd a achoswyd gan y feirws.