Pandemig y Coronafeirws – cyfle ar gyfer entrepreneuriaid polisi?

Mae wedi dod yn rhyw fath o fantra ‘na all pethau fod yr un fath’ ar ôl pandemig y Coronafeirws.  Mae hynny’n rhannol oherwydd ymdeimlad cynyddol na fydd modd i ni weithio, siopa, dysgu a chymdeithasu fel y buon ni, hyd yn oed pan ddeuwn ni’n raddol allan o’r cyfyngiadau symud, os bydd pandemig y Coronafeirws gyda ni am beth amser, fel sy’n ymddangos yn debygol. Ond yn fwy cadarnhaol, mae’r pandemig wedi rhoi cipolwg i ni ar sut gallai pethau fod yn wahanol.  Er enghraifft, mae cyflymdra a chwmpas rhai o ymatebion llywodraethau’r Deyrnas Unedig, fel y cynllun ffyrlo neu gomisiynu llety brys ar gyfer y rhai sy’n cysgu allan,wedi awgrymu bod capasiti gan y wladwriaeth i weithredu’n radical, yn gyflym ac mewn modd llawn dychymyg.

Nid yw’n syndod, felly, ein bod wedi gweld ymatebion creadigol iawn yn ystod y tri mis diwethaf gan felinau trafod, grwpiau diddordeb, elusennau ac academyddion.   O Incwm Sylfaenol Cyffredinol, i newid sut rydym ni’n meddwl am addysg uwch, i ddadreoleiddio differynnau cyflog, cynigiwyd polisïau yn atebion i broblemau sydd wedi dod i’r amlwg yn sgîl y pandemig, gan obeithio neu ddisgwyl y byddant yn cael eu clywed gan lunwyr polisi sy’n gobeithio ymdrin a’r materion hyn.

Fodd bynnag, ychydig iawn o’r cynigion hyn, os o gwbl, sy’n newydd.  Mae’n llawer mwy tebygol bod y rhai sydd o’u plaid wedi eu hyrwyddo am beth amser ac wedi canfod cyfle newydd i’w cyflwyno fel rhai perthnasol ac angenrheidiol.  Dylid pwysleisio nad oes dim o gwbl o’i le ar hyn.  Yr hyn sy’n digwydd yw bod pobl sy’n credu mewn cynnig polisi wedi cael hyd i sail arall ar gyfer dadlau o’i blaid.  Problem arall y maent yn credu ei fod yn cynnig ateb iddi.  Yn gryno, maent yn gwneud yn union beth byddech chi’n disgwyl i entrepreneuriaid polisi ei wneud.

Mae ffigur yr entrepreneur polisi yn ganolog i’r dull Fframwaith Llifoedd Lluosog o ddadansoddi polisi, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan yr ysgolhaig o America, John Kingdon. Roedd Kingdon yn dadlau, yn hytrach na bod polisïau (bob amser) yn cael eu cynhyrchu mewn ymateb i broblemau a nodwyd, fod polisïau a phroblemau yn bodoli mewn ‘llifoedd’ sy’n annibynnol ar ei gilydd.  Ac yn rhedeg ochr yn ochr â nhw mae trydydd llif – gwleidyddiaeth – sy’n cynnwys ystod aruthrol o ffactorau a allai olygu bod llywodraeth neu gorff deddfu yn barod i weithredu ar fater.

Pan ddaw’r llifoedd hyn ynghyd – pan fydd polisi yn cwrdd â phroblem y mae’n ymddangos yn ateb iddi ac mae’r llif gwleidyddiaeth yn teimlo fel gweithredu – bydd ffenestr o gyfle neu newid yn agor.  Ond nid yw’r llifoedd yn dod ynghyd wrthynt eu hunain: fe’u cyfunir gan entrepreneuriaid polisi – pobl neu sefydliadau sydd â pholisi neu safbwynt maent yn credu ynddo (neu, weithiau, y maent yn credu y byddant yn elwa ohono), ac sy’n barod i roi o’u hamser, eu hegni neu adnoddau eraill i geisio sicrhau ei fod yn cael ei fabwysiadu.  Dyfyniad cofiadwy o waith Kingdon yw’r ddelwedd o entrepreneuriaid polisi fel:

‘syrffwyr yn aros am y don fawr. Rydych chi’n mynd allan, mae’n rhaid i chi fod yn barod i fynd, yn barod i badlo.  Os nad ydych chi’n barod i badlo pan ddaw’r don fawr, fyddwch chi ddim ar ei chefn pan ddaw i’r lan’.

Ond, i estyn y trosiad, y pwynt yw nad yw’r syrffiwr yn adeiladu bwrdd syrffio penodol ar gyfer ton benodol: mae’r bwrdd syrffio yn ei meddiant eisoes ac mae’n chwilio am y don fydd yn golygu ei bod yn gallu dangos cryfderau’r bwrdd.

Eto, does dim yn sinigaidd nac yn anonest am hyn.  Os oes gennych chi syniad neu bolisi rydych chi’n credu bod iddo werth, byddwch chi’n naturiol am ddangos, os gallwch chi, sut y bydd yn helpu i ddatrys y problemau mae llunwyr polisi yn chwilio am atebion iddyn nhw.  Er enghraifft, mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol wedi cael ei gynnig yn ei dro yn ateb i anghydraddoldeb incwm a thlodi, i bryderon ynghylch cydlyniant cymdeithasol, i newidiadau yn y farchnad lafur yn dilyn awtomateiddio ar raddfa fawr, ac, yn awr, i heriau adeiladu cymdeithas well wedi’r pandemig. Mae’r rhain i gyd yn ddadleuon sy’n haeddu ein sylw, ac mae syniadau eraill, yr un mor ddifrifol, wedi cael eu hyrwyddo mewn ffyrdd tebyg.

Mae ysgolheigion polisi Llifoedd Lluosog yn dadlau bod entrepreneuriaid polisi yn werthfawr i lunwyr polisi oherwydd bod y naratifau y maent yn eu llunio yn gallu helpu i leihau’r ystod o opsiynau polisi i nifer ymarferol.  Mewn byd lle mae gan swyddogion a gwleidyddion amser a lle cyfyngedig i brosesu gwybodaeth a meddwl am ddewisiadau amgen, gall hyn fod yn rôl bwysig.  Ond a allai pandemig y Coronafeirws fod yn gyfle i lunio polisi mewn ffordd wahanol?

Wrth i ni feddwl am sut dylai pethau newid ar ôl y pandemig, efallai bydd llunwyr polisi yn gallu cymryd mwy o amser i ymgysylltu’n feirniadol â chynigion ar gyfer newid.  Wrth edrych y tu hwnt i’r honiadau uniongyrchol a wneir gan entrepreneuriaid polisi, fe allent, er enghraifft, gomisiynu cyfuno tystiolaeth neu dreialon lleol i weld sut gallai’r cynigion weithio yn ymarferol.   Os na ddaw dadleuon rhesymedig yn erbyn newid i’r amlwg ar unwaith, gallent fynd ati i chwilio amdanynt a’u pwyso a’u mesur.

Ni fydd cyfle fel hwn, os ydyw’n bodoli, yn para, oherwydd nid oes byth ddigon o amser na chapasiti i ystyried popeth y gallai llywodraeth wneud.  Bydd angen bob amser i lunwyr polisi gael hyd i ffyrdd o ffocysu eu hymdrechion.  Ond os yw ‘all pethau ddim bod yr un fath’ yn fantra ar gyfer ble hoffem ni fod wrth adael y pandemig ar ôl, tybed a allai fod yn fantra hefyd ar gyfer sut cyrhaeddwn ni’r fan honno?