Rwystrau a chyfleoedd i gyrraedd sero net

Mae papurau tystiolaeth terfynol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyfer Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035 yn dangos bod Cymru y tu ôl i’w huchelgeisiau sero net presennol ar gyfer 2050 ym maes trafnidiaeth a chartrefi (yn ogystal ag yn y sectorau bwyd ac ynni fel yr adroddwyd yn flaenorol), ac y byddai symud y targed ymlaen i 2035 yn gofyn am bolisïau arloesol ar ‘raddfa uchelgeisiol, os nad digynsail’, ynghyd â newid ymddygiad sylweddol.Fodd bynnag, mae’r adroddiadau hefyd yn tynnu sylw at yr ochrau cadarnhaol i ddatgarboneiddio fel lleihau tlodi tanwydd, gwella iechyd cyhoeddus a’r system trafnidiaeth Cymru. A mae’r adroddiad cysylltiedig ar addysg, swyddi a gwaith yn obeithiol am rai o’r ymdrechion sydd ar y gweill i baratoi’r gweithlu yng Nghymru wrth bontio tuag at sero net.

Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer CPCC Dan Bristow, “Mae’n amlwg o’n cyfres ddiweddaraf o adroddiadau ar gyfer y Grŵp Herio Cymru Sero Net, yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol, bod angen llawer iawn o waith yn y sectorau trafnidiaeth ac adeiladau preswyl er mwyn i Gymru gyrraedd ei tharged sero net cyfredol ar gyfer 2050. Er mwyn symud y targedau hynny ymlaen i 2035, byddai angen ymrwymiad, buddsoddiad a seilwaith digynsail gan wneuthurwyr polisi lleol a chenedlaethol a’r cyhoedd.

Serch hynny, mae ein hymchwil hefyd yn nodi rhai camau cyflym sy’n gymharol hawdd – meysydd a allai gyflymu ymdrechion Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn sylweddol.”

Ychwanegodd cadeirydd Grŵp Herio Cymru Sero Net, Jane Davidson, “Fel y gwelwyd yn yr adroddiadau hyn ac adroddiadau blaenorol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae angen newid sylweddol i leihau cyfraniad Cymru i’r her fyd-eang hon, tra hefyd yn diogelu lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

“Ein huchelgais yw cefnogi ein comisiynwyr, Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy’r Cytundeb Cydweithio, i lywio’r ffordd heriol sydd o’n blaenau, gan sicrhau y daw’r broses pontio tuag at sero net â manteision diriaethol i bobl Cymru, tra bod y cyfle dal gennym.

“Hoffwn ddiolch i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am eu cefnogaeth wrth ddarparu papurau tystiolaeth o ansawdd uchel i Grŵp Herio Cymru Sero Net.

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL

Trafnidiaeth 

  • Sector allweddol. Trafnidiaeth yw trydydd sector uchaf Cymru o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr (y tu ôl i ddiwydiant ac ynni) felly byddai datgarboneiddio trafnidiaeth yn cyflymu cynnydd sero net Cymru yn sylweddol. Ceir a lorïau ysgafn sy’n cyfrannu 72% o allyriadau trafnidiaeth Cymru.
  • Mwy o ymdrechion i osgoi teithio. Mae’r rhan fwyaf o ymdrechion i ddatgarboneiddio trafnidiaeth wedi canolbwyntio ar symud tuag at ddulliau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth ar y ffyrdd ac i wella eu heffeithlonrwydd, ond ni fydd hynny’n ddigon ar ei ben ei hun.
  • Cysylltu pobl a lleoedd yn allweddol. Mae angen cynllunio hirdymor ar draws y sectorau trafnidiaeth a thu hwnt, amrywiaeth o fentrau trafnidiaeth cysylltiedig trefol a gwledig, ac ymdrechion i newid ymddygiad er mwyn annog pobl i symud oddi wrth eu dibyniaeth ar geir.
  • Enghreifftiau rhyngwladol. O adolygiad cysylltiedig ar fentrau mewn 18 o wledydd, gall Cymru ddysgu gwersi o ran cyflymu’r broses o bontio trafnidiaeth tuag at sero net.

Cartrefi

  • Llawer mwy i’w wneud. Nid yw allyriadau o chartrefi yng Nghymru yn disgyn yn ddigon cyflym i fodloni targedau sero net, gan adlewyrchu’r defnydd araf o bympiau gwres a mesurau ôl-osod.
  • Angen cymryd camau uchelgeisiol. Bydd cyrraedd y targed sero net cyfredol ar gyfer 2050 yn gofyn am newidiadau cyflym a chyfanwerthol i’r ffordd rydyn ni’n adeiladu ac yn gwresogi ein cartrefi – a byddai cyflawni sero net yn 2035 yn gofyn am bolisïau arloesol ar raddfa uchelgeisiol, os nad digynsail.
  • Rhwystrau sy’n benodol i Gymru. Mae’r dasg yn gymhleth oherwydd bod y stoc adeiladu yng Nghymru yn hŷn na chyfartaledd y DU, a’r nifer fawr o adeiladau yng Nghymru sy’n cael eu hystyried yn ‘anodd i’w datgarboneiddio’.
  • Manteision. Mae datgarboneiddio adeiladau yn cynnig cyfleoedd i gyflawni nifer o nodau polisi, fel lleihau tlodi tanwydd, gwella iechyd y cyhoedd, cefnogi cadwyni cyflenwi lleol a chyfleoedd am waith.
  • Astudiaethau achos. Mae astudiaeth atodol o wyth o brosiectau ôl-osod o bob cwr o’r byd yn cyfeirio at rai gwersi y gall Cymru ddysgu oddi wrthynt.

Swyddi sero net ac addysg

  • Swyddi. Bydd y broses bontio tuag at sero net yn creu cyfleoedd am fwy o swyddi a chynnydd yn y galw am sgiliau technegol.
  • Sgiliau ac addysg. Mae gan Gymru nifer uchel o weithwyr sgiliau isel a chyfradd addysg bellach sy’n gostwng.
  • Pontio teg. O’i gyfuno â hanes diwydiannol economi Cymru, mae hyn yn golygu bod angen ystyriaeth ofalus i gyrraedd targedau datgarboneiddio tra’n sicrhau bod gweithwyr yn cael eu hamddiffyn a phroses bontio deg.

Cyfeiriodd Dan Bristow at y cyfleoedd hyn tra’n cydnabod yr heriau i Gymru,

“Er bod pryder ynglŷn â’r posibilrwydd o golli swyddi, wrth i sectorau gael eu datgarboneiddio, ceir cyfle unigryw i annog gweithwyr i uwchsgilio ac (ail)hyfforddi.
“Mae gwaith ar droed ar draws y system addysg a sgiliau gyda diwygiadau sy’n ceisio dod â’r ddarpariaeth ôl-16 at ei gilydd, yn ogystal â symudiad tuag at gwricwlwm llai rhagnodol, sy’n cael ei lywio’n fwy pwrpasol yn ystod addysg orfodol. Yn gysylltiedig â hynny mae cyfleoedd i integreiddio darpariaeth sgiliau gwyrdd a llythrennedd hinsawdd ar draws addysg a hyfforddiant gorfodol ac ar ôl oed gorfodol.”

CLICIWCH YMA am yr adroddiadau llawn:

Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi carbon isel erbyn 2035?
Datgarboneiddio’r system drafnidiaeth Cymru dra cysylltu pobl a lleoedd.
Beth fydd sectorau’r addysg, swyddi a gwaith yng Nhymru erbyn 2035?