Datgarboneiddio’r system drafnidiaeth Cymru dra cysylltu pobl a lleoedd

Trafnidiaeth yw’r trydydd sector mwyaf o blith y rhai sy’n allyrru nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.

Mae datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth a sicrhau bod pobl a lleoedd Cymru wedi’u cysylltu’n hanfodol i ddyfodol sero net Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru, fel rhan o’i Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, wedi ffurfio Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru, dan gadeiryddiaeth y cyn Weinidog Jane Davidson, fel rhan o’r ymrwymiad i ‘comisiynu cyngor annibynnol i edrych ar lwybrau posibl at sero net erbyn 2035.’ Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) i ddarparu cymorth tystiolaeth annibynnol i’r Grŵp Her.

Mewn ymateb i’r cwestiwn ‘Sut y gellid cysylltu pobl a lleoedd ledled Cymru erbyn 2035?’ mae WCPP wedi cynhyrchu dau bapur:

Papur cefndir ‘Datgarboneiddio’r system drafnidiaeth Cymru dra cysylltu pobl a lleoedd. Mae hwn yn crynhoi allyriadau trafnidiaeth cyfredol Cymru, ac mae’n ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru’n gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu, polisïau i wella cysylltedd. Mae’n adolygu targedau a nodau i leihau allyriadau carbon a newid mewn ymddygiad, i ddeall y mesurau cefnogi sydd eu hangen i gyflymu’r pontio i sero net.

Papur adolygu ‘Sero net 2035: gwersi mentrau rhyngwladol i ddatgarboneiddio trafnidiaeth’. Mae hwn yn adolygiad tystiolaeth heb fod yn gwbl gynhwysfawr o enghreifftiau o bolisïau arfaethedig neu sydd wedi’u gweithredu ac sydd â’r nod o hybu datgarboneiddio trafnidiaeth dir, hedfanaeth a morgludiant; a pholisïau ar gysylltedd digidol a allai helpu i leihau neu osgoi’r angen i deithio.

Mae’r sector trafnidiaeth yng Nghymru’n gyfrifol am 16% o gyfanswm yr allyriadau carbon; gyda 6% wedi’u gynhyrchu gan y sector hedfanaeth a morgludiant. Mae gan Gymru lefelau amrywiol o gyfrifoldeb am y gwahanol sectorau trafnidiaeth, gyda hedfanaeth a morgludiant ar y cyfan wedi’u cadw’n ôl gan lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae trafnidiaeth dir wedi’i datganoli i Gymru, a cheir a nwyddau ysgafn yw cyfranwyr mwyaf y sector at allyriadau carbon.

Gellir categoreiddio cyfleoedd i ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth i rai sy’n helpu i leihau neu osgoi’r angen i deithio, neu wella effeithlonrwydd gweithredol dulliau o deithio, newid cludo pobl a nwyddau i ddulliau mwy cynaliadwy o deithio, neu wella effeithlonrwydd gweithredol ffyrdd o deithio. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi pennu targedau osgoi a newid sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth dir, fel 39% o siwrneiau i gael eu gwneud drwy ddulliau teithio cynaliadwy (er enghraifft, trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu seiclo) erbyn 2030 a 30% o’r gweithlu’n gweithio o bell.

Fodd bynnag, er bod mwy o bwyslais ar fentrau sy’n helpu pobl i osgoi trafnidiaeth yn golygu bod Cymru’n debygol o gyflawni targedau sero net yn fwy effeithlon, rhaid i’r sector trafnidiaeth ateb y galw a sicrhau bod pobl ledled Cymru’n gallu cyrraedd eu gweithleoedd ac amwynderau craidd fel gofal iechyd ac ysgolion. Efallai na fydd yr un datrysiadau trafnidiaeth cynaliadwy yn briodol i bob ardal o Gymru, er enghraifft, mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn dibynnu’n anghymesur ar ddefnydd o geir preifat, o’i gymharu â thrafnidiaeth actif (oherwydd pellter) neu drafnidiaeth gyhoeddus (oherwydd argaeledd).