Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi carbon isel erbyn 2035?

Bydd cyflawni sero net yng Nghymru’n gofyn am ostyngiadau sylweddol mewn allyriadau o adeiladau newydd a phresennol. Mae gan ddatgarboneiddio gwresogi domestig rôl holl bwysig i’w chwarae i leihau allyriadau o adeiladu fel y gwelir yn y Strategaeth Gwres drafft i Gymru, gyda llwybr i ddarparu gwres glân a fforddiadwy erbyn 2050.

Mae Llywodraeth Cymru, fel rhan o’i Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, hefyd wedi ffurfio Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru, dan gadeiryddiaeth y cyn Weinidog Jane Davidson, fel rhan o’r ymrwymiad i ‘comisiynu cyngor annibynnol i edrych ar lwybrau posibl at sero net erbyn 2035.’

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth tystiolaeth annibynnol i’r Grŵp Her. Mae’r canlyniadau hyn yn rhan o’n sylwadau ar drydydd maes her y Grŵp, ‘Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035?’

Ar hyn o bryd nid yw allyriadau o adeiladau preswyl yn gostwng yn ddigon cyflym i gyflawni targedau sero net, sy’n dangos bod y niferoedd sy’n manteisio ar bympiau gwres a mesurau ôl-osod effeithlonrwydd ynni’n isel. Os am gyrraedd y targed sero net presennol o 2050 bydd angen mabwysiadu’r mesurau hyn at fyrder ac ar raddfa fawr, sy’n golygu y bydd y bwlch yn cynyddu os yw’r dyddiad targed yn cael ei ddwyn ymlaen i 2035. Felly, i gyflawni sero net yn 2035 byddai angen polisïau arloesol ar raddfa uchelgeisiol i gynyddu’r niferoedd sy’n mabwysiadu’r mesurau.

Mae’r dasg yn cael ei chymhlethu ymhellach gan fod y stoc adeiladau yng Nghymru’n hŷn nag yng ngweddill y DU, ac mae nifer fawr o adeiladau yng Nghymru’n cael eu cyfrif fel rhai sy’n anodd eu datgarboneiddio. Fodd bynnag, er gwaethaf maint yr her, mae datgarboneiddio adeiladau hefyd yn gyfle i gyflawni sawl nod polisi. Yn ogystal â gostyngiadau mewn allyriadau, mi all cyflwyno gwres glanach a rhatach i gartref fod yn ffordd i leihau tlodi tanwydd, gwella iechyd, hybu cadwynau cyflenwi lleol, a chreu llawer o swyddi.

Mae ein papur cefndir, ‘Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi carbon isel erbyn 2035?’ yn edrych ar faint yr her ac ystyriaethau allweddol wrth leihau allyriadau o adeiladau presennol a newydd.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi wyth astudiaeth achos ar gynlluniau ôl-osod rhyngwladol, sy’n edrych ar y goblygiadau i bolisi ôl-osod yng Nghymru. Er bod gwersi i’w dysgu o’r cynnydd a wnaed mewn rhai gwledydd eraill, rydym yn credu bod yn rhaid cymryd camau i ddatgarboneiddio adeiladau preswyl yng Nghymru ar gyflymder a graddfa fel na welwyd o’r blaen os am gyrraedd targed sero net 2050 hyd yn oed. O gofio bod gwledydd eraill hefyd am ddatgarboneiddio adeiladau’n gyflym i gyrraedd sero net, mae’n ymddangos bod arloesi mewn polisi i ôl-osod yn digwydd yn gyflymach na gallu’r sylfaen dystiolaeth i ganfod yn ddigon cyflym yr hyn sy’n gweithio mewn gwahanol gyd-destunau.