Meysydd allweddol sero net

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at feysydd allweddol a allai helpu Cymru i wrthdroi diffyg yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Gofynnwyd i’r WCPP ddarparu tystiolaeth i Grŵp Her Sero-Net 2035 (NZ2035) i helpu i oleuo eu gwaith.

Mae adroddiad cyntaf yr WCPP i’r Grŵp – Trosolwg ar Dueddiadau Allyriadau a Llwybrau – yn adolygu’r cynnydd a wnaed hyd yma gyda Llwybr Cytbwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd gan daflu goleuni ar y ffactorau a effeithiodd ar y cynnydd hwnnw fel y pandemig, y rhyfel yn Ewrop a’r argyfwng costau byw.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at feysydd lle y gallai newid sylweddol wneud y gwahaniaeth mwyaf i helpu Cymru i gyrraedd sero net yn gynt.

Mewn papurau ategol, mae Josh Coles-Riley a Dan Bristow o’r WCPP yn rhoi trosolwg ar rôl yr WCPP gyda darparu tystiolaeth i Grŵp NZ2035 – ac yn rhoi’r heriau sydd o’n blaenau mewn cyd-destun, ar gyfer y Grŵp ac ar gyfer uchelgais sero net Cymru.

Meddai Dan Bristow, “Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’n glir bod mynd i’r afael â newid hinsawdd yn flaenoriaeth bwysig, ac y dylai ymdrechion i wneud hyn gefnogi proses bontio deg i weithlu a chymunedau Cymru’n unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Yn amlwg mae penderfyniadau anodd i’w gwneud os yw Cymru nid yn unig i gyrraedd sero-net erbyn 2050 ond gyda dod â’r targed ymlaen i 2035. Er enghraifft, bydd angen cael trafodaeth ddi-flewyn-ar-dafod am bethau fel defnydd tir, ffermio da byw a diogelu cymunedau gwledig; ac ar baratoi’r sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu ar gyfer modelau allyriadau carbon isel.

“Edrychwn ymlaen at ddarparu tystiolaeth bellach i gefnogi gwaith parhaus Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035.”

MEYSYDD ALLWEDDOL 

Ar ôl dadansoddi’r dystiolaeth sy’n dangos sefyllfa unigryw Cymru o’i gymharu â gweddill y DU, mae adroddiad yr WCPP yn egluro y gallai rhai sectorau, fel amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, adeiladu, trafnidiaeth a chyflenwi ynni gael mwy o effaith, yn gyfrannol, ar drywydd allyriadau Cymru.

Fel y noda grynodeb gweithredol yr adroddiad:

“Os yw Cymru i gwrdd â’i thargedau, bydd angen toriadau dyfnach a chynt mewn sectorau a brofodd yn anodd eu datgarboneiddio hyd yma – ond bydd gweithredu di-oed a phendant yn y meysydd hyn yn cael mwy o effaith, yn gyfrannol, ar siwrne sero net Cymru.”

Noda y bydd newid ymddygiad unigolion a chymdeithas hefyd yn chwarae rôl allweddol yn siwrne Cymru i wneud cynnydd cynt.

SECTORAU HOLLBWYSIG. SUT Y GALLAI CYMRU ENNILL TIR?

• Gweithgynhyrchu. Mae llond llaw o safleoedd diwydiannol yn gyfrifol am y rhan fwyaf o allyriadau Cymru o weithgynhyrchu ac adeiladu. Bydd cynnydd gyda datgarboneiddio’r safleoedd mawr hyn yn gwneud cyfraniad mawr i leihau allyriadau’r sectorau hyn.
• Adeiladau preswyl. Daw tua 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o adeiladau preswyl, yn bennaf o ddefnyddio nwy i wresogi, coginio ac ar gyfer dŵr poeth. A fyddai’n bosib cyflymu datgarboneiddio rhannau allweddol o’r sector hwn, er enghraifft dileu gwerthu bwyleri nwy’n raddol ac ar gyfer yr 20% o gartrefi yng Nghymru sydd oddi ar y grid nwy?
• Amaethyddiaeth. Mae newid defnydd tir a dibynnu llai ar gig a chynnyrch llaeth yn ffactorau pwysig i’w hystyried, ond gan ystyried yr effaith ar gymunedau ffermio Cymru (mae 81% o allbwn amaethyddol Cymru’n dda byw, mae 25% o ffermydd Cymru’n dibynnu ar wartheg / defaid a dim ond 2% yn ffermydd cnydau a garddwriaeth).
• Trafnidiaeth. Dim ond y pandemig sydd wedi cael effaith sylweddol ar leihau allyriadau yn y maes hwn, oedd tan hynny heb newid bron ers 1990. Mae llwybr cytbwys y CCC yn rhagweld gostyngiad o 75% mewn allyriadau o drafnidiaeth erbyn 2035, gyda lleihad pellach o 25% erbyn 2050, ar y sail y gwerthir 100% o gerbydau trydan erbyn 2030. Roedd cerbydau trydan yn cyfrif am 7% yn 2021.
• Cyflenwi ynni. Mae angen buddsoddiad ac ymdrechion i gael mwy o bobl i fanteisio ar atebion carbon isel a dileu opsiynau carbon uchel yn raddol.

CLICIWCH YMA i ddarllen yr adroddiad a’r papurau.

Mae Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035 bellach yn edrych ar y sector amaeth ar hyn o bryd – yn benodol ‘Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?’ cyn lawnsio her nesaf ynglyn a’r sector ynni, yn benodol, ‘Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 a chael gwared ar danwydd ffosil yn raddol?’

Ewch i wefan Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035 am fwy o fanylion.