Defnyddio tystiolaeth i gyflymu gweithredu ar newid hinsawdd

‘Pa sgôp sydd i Lywodraeth Cymru gwneud mwy, newid ei dull o gyflawni neu ddarparu ei huchelgais net sero presennol yn fwy effeithiol?’

Yn ei adroddiad cynnydd diweddaraf, casglodd Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) y DU er bod Cymru wedi cyrraedd ei thargedau allyriadau ar gyfer y Gyllideb Garbon Gyntaf (2016-2020), nad yw’r wlad ar darged ar hyn o bryd i gyrraedd targedau’r dyfodol ar y llwybr i fod yn sero-net.

Mae’r CCC yn cydnabod rôl hanfodol Llywodraeth y DU mewn nifer o sectorau gydag allyriadau uchel, fel ynni a diwydiant, ond hefyd yn tynnu sylw at feysydd a ddatganolwyd i Gymru, fel amaeth a thrafnidiaeth, lle y mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gael y gostyngiad mewn allyriadau’n ôl ar darged.

Mae hyn yn tanlinellu ymhellach bwysigrwydd Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru yn y misoedd nesaf wrth iddynt geisio datblygu cyngor i Lywodraeth Cymru ar lwybrau posib i gyrraedd sero-net yn yr amser cyflymaf posib gan greu Cymru well i genedlaethau presennol a rhai’r dyfodol.

Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, rydym wedi bod yn rhoi cymorth annibynnol i Grŵp Her Sero-Net 2035 Cymru i’w helpu i gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigedd perthnasol i oleuo eu gwaith. Mae ein hadroddiad rhagarweiniol i’r Grŵp yn edrych yn fanwl ar ‘lwybr cytbwys’ CCC fel y gall Cymru gyrraedd sero-net erbyn 2050, gyda dadansoddiad cychwynnol o oblygiadau ceisio cyflymu’r amserlen lleihau allyriadau, yn enwedig mewn sectorau fel amaeth a thrafnidiaeth lle y bu’r cynnydd yng Nghymru’n araf yn hanesyddol.

Fel yr eglurwn mewn darn trafod cysylltiedig, un o’r prif gwestiynau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru – ac y mae’n rhaid i gyngor y Grŵp ei ystyried – yw sut i flaenoriaethu yng nghyd-destun gwahanol heriau polisi, setliad datganoli cymhleth, ac adnoddau prin. O gofio bod gan Lywodraeth Cymru eisoes agendâu polisi ar y gweill mewn gwahanol feysydd y tynnodd gyngor sero-net y CCC sylw atynt, pa sgôp sydd iddi wneud mwy, newid ei dull o gyflawni neu ddarparu ei huchelgais presennol yn fwy effeithiol?

Er y byddai cyflawni’r llwybr cytbwys yn golygu newidiadau mawr ar draws pob rhan o gymdeithas, gallai’r Grŵp hefyd ddewis herio Llywodraeth Cymru i wneud mwy na’r hyn y mae cyngor y CCC yn ei ragweld. Wedi’r cwbl, dim ond un o nifer o senarios posib ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru yw llwybr cytbwys y CCC. Gan hynny, mae’n adlewyrchu tybiaethau’r CCC ei hun am ba newidiadau cymdeithasol a thechnolegol sy’n ymarferol i Gymru yn y degawdau i ddod. Gallai’r Grŵp ddewis profi rhai o’r tybiaethau hyn wrth ystyried sut i gyflawni’r cynnydd cyflymaf posib.

Er enghraifft, mae’r llwybr cytbwys yn rhagweld lefelau cymharol uchel o allyriadau amaethyddol yn parhau ar ôl 2050, gan wneud Cymru’n fwy dibynnol ar ddal a storio carbon i gyrraedd ei tharged sero-net. Mae lleihad cyflymach a mwy llym mewn allyriadau amaethyddol yn dechnegol bosib – ond mae’n debyg y byddai’n golygu llai o dda byw ac nid yw hynny’n osodiad hawdd i sector a nodweddir yn bennaf gan ffermio gwartheg a defaid ac sy’n wynebu heriau economaidd difrifol eisoes. Mae ceisio lleihau allyriadau amaethyddol ymhellach felly’n codi cwestiynau anodd am sut i sicrhau proses bontio gyfiawn i ffermwyr ynghyd â ffyniant cymunedau gwledig Cymru yn y dyfodol.

Yn ei hymateb i adroddiad cynnydd diweddaraf CCC ar gyfer Cymru, roedd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dadlau mai “nawr yw’r amser i gryfhau ein bwriad i wneud penderfyniadau anodd” er mwyn diogelu’r cynnydd tuag at sero-net. Rhan o werth posib Grŵp Her Sero-Net 2035 yw ei gapasiti i ofyn ac wynebu’r cwestiynau anodd hyn – a gwneud hynny, wedi’i dywys gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mewn ffordd holistig sy’n ystyried effeithiau posib a manteision gweithredu ar yr hinsawdd ar nifer o wahanol agweddau ar les pobl.

Yn wir, gyda’r ffenestr gyfle’n mynd yn gulach o hyd i osgoi anrhaith a difrod gwaethaf y chwalfa yn ein hinsawdd, mae gwyddonwyr hefyd yn pwysleisio bod nifer o opsiynau ymarferol ac effeithiol ar gyfer mynd i’r afael â’r newid hinsawdd a achoswyd gan bobl – gyda chyfle i greu cymdeithasau mwy ffyniannus, cynhwysol a thecach yn y broses. Nod y cymorth a roddir gan yr WCPP i’r Grŵp yw cyflwyno’r dystiolaeth hon i oleuo gwaith y Grŵp a’u helpu i ofyn y cwestiynau iawn am y cyfuniad cywir o bolisïau a llwybrau i’w darparu. Edrychwn ymlaen at gefnogi’r Grŵp yn y misoedd i ddod wrth iddynt fynd i’r afael â chyfres gymhleth o faterion.