Sero net 2035: Adroddiad tueddiadau a llwybrau

Er bod toriadau i allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, hyd yma, wedi cyrraedd y targed ar y llwybr i fod yn sero-net erbyn 2050, i wneud cynnydd pellach bydd angen newidiadau economaidd a chymdeithasol sylweddol ynghyd â lleihad enfawr mewn allyriadau dros y deng mlynedd nesaf.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i roi cymorth annibynnol i Grŵp Her Sero-Net 2035 Cymru, sy’n cael ei gadeirio gan y cyn-weinidog Jane Davidson, i helpu’r Grwp i gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigedd perthnasol i oleuo eu gwaith.

Mae ein hadroddiad rhagarweiniol ar gyfer y Grŵp yn rhoi trosolwg ar y tueddiadau presennol o ran allyriadau yng Nghymru, a’r llwybrau i gyrraedd sero-net a fodelwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) y DU, gan drafod y cwestiynau ymchwil canlynol:

1. Beth yw cynnydd presennol Cymru tuag at gyrraedd ei thargedau allyriadau?
2. Beth yw’r prif ffynonellau atal allyriadau a ddisgrifiwyd yn ‘llwybr cytbwys’ y CCC ar gyfer Cymru, hyd at 2035 a hyd at 2050?
3. Beth yw goblygiadau posib ceisio cyflymu’r rhain?

Mae ein hadroddiad yn disgrifio’r tueddiadau presennol a hanesyddol o ran allyriadau, cyn rhoi trosolwg ar senario llwybr cytbwys y CCC i Gymru a dadansoddiad manwl o’r llwybrau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer chwech o’r prif sectorau allyriadau: cynhyrchu trydan, gweithgynhyrchu ac adeiladu, adeiladau preswyl, amaethyddiaeth, trafnidiaeth ar yr wyneb, a defnydd tir, newid defnydd tir a choedwigaeth (LULUCF).

Mae’r rhan fwyaf o allyriadau yn y blynyddoedd diwethaf wedi dod drwy ddatgarboneiddio cynhyrchu trydan, ond ychydig iawn o gynnydd a wnaed mewn sectorau eraill. O’i gymharu â’r DU i gyd, mae’r sectorau amaeth a thrafnidiaeth ar yr wyneb yn cyfrif am gyfran fwy o gyfanswm allyriadau Cymru sy’n golygu y bydd llwyddo neu fethu â datgarboneiddio’r sectorau hyn yn cael mwy o effaith yn gyfrannol ar gynnydd Cymru.

Mae ein hadroddiad hefyd yn trafod tybiaethau ynghylch faint o newid cymdeithasol sy’n bosib o fewn yr amser, yn hytrach nag atebion technolegol sy’n sbardun allweddol i leihau allyriadau yn llwybr cytbwys y CCC.

Mewn darn trafod cysylltiedig, a baratowyd ar gyfer y Grŵp cyn eu cyfarfod cyntaf yn Ionawr 2023, myfyriwn ychydig ar natur y dasg sy’n wynebu’r Grŵp wrth ystyried sut y gallai Cymru gyflymu’r broses o bontio at sero-net, gan gyflwyno hefyd rai o’r cymhlethdodau, heriau a chyfleoedd a chynnig cyngor ar sut orau i fynd i’r afael â’r pethau hyn. Mae Cydymaith Ymchwil gyda’r WCPP, Josh Coles-Riley, hefyd wedi cyhoeddi blog ar ein hadroddiad yng nghyd-destun adroddiad cynnydd diweddaraf CCC ar gyfer lleihau allyriadau yng Nghymru.

Mae’r dadansoddiad a’r casgliadau a gyflwynir yn yr adroddiad, blog a’r darn trafod yn rhai’r awdur ei hun ac nid ydynt yn cynrychioli barn na safiadau Grŵp Her Sero-Net 2035 Cymru.