Sgiliau sero net: Mewnwelediadau a thystiolaeth o sectorau allyriadau yng Nghymru

Yn rhan o’r trawsnewid i sicrhau allyriadau sero net mae cyfleoedd a heriau i weithwyr, cyflogwyr a’r llywodraeth. Bydd y newidiadau economaidd tebygol yn sgil y trawsnewid parhaus hwn yn cael effaith ar swyddi i ryw raddau. Byddant hefyd yn arwain at newidiadau mewn cyflogaeth, wrth i ni weld cyflogwyr, diwydiannau a rolau newydd yn dod i’r amlwg ac eraill yn diflannu.

Mae Llywodraeth Cymru, yn dilyn ei hymrwymiad yn Cymru Sero Net, wedi cyhoeddi Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Gweithredu ar gyfer Sgiliau ym Maes Sero Net er mwyn nodi camau ymarferol tuag at ddeall ym mhle a sut y bydd yr angen am sgiliau’n newid dros amser, gan gynnwys sut y bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r trawsnewid hwn.

Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gefnogi’r gwaith o ddatblygu Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach. Mae’r adolygiad cyflym hwn o dystiolaeth yn cyfrannu at y sail dystiolaeth a’r drafodaeth, a hynny drwy gynnig trosolwg o’r dystiolaeth sy’n dangos yr angen am sgiliau yn y dyfodol ymhlith y sectorau allyriadau a nodwyd yn Cymru Sero Net, gan gynnwys cyfeirio at dystiolaeth bresennol a chyfweliadau lled-strwythuredig â chynrychiolwyr y sectorau.

Mae ein hadroddiad yn dangos bod y sefyllfa ar draws y sectorau allyriadau’n amrywio. Mewn rhai sectorau, mae llwybrau clir i sicrhau allyriadau sero net, gan gynnwys dealltwriaeth dda o sut y bydd angen i sgiliau newid a phryd, yn golygu bod busnesau’n fwy parod ar gyfer newid. Mewn sectorau eraill, mae diffyg eglurder ynghylch technolegau’r dyfodol yn ei gwneud yn anoddach rheoli’r broses o bontio’r gweithlu.

Gwelsom nifer o themâu trawsbynciol a fydd yn bwysig ar draws y sectorau:

  • Sicrhau cyfnod pontio cyfiawn, o ran ailsgilio ac adleoli’r gweithwyr y mae’r trawsnewid wedi effeithio arnynt, a bod y rhai sy’n ymuno â’r gweithlu’n dod o gronfa mor eang â phosibl
  • Cydgysylltu â gweithredwyr yn y system addysg a sgiliau er mwyn sicrhau bod y galw am sgiliau newydd yn cael ei adlewyrchu yng nghynnwys cyrsiau a bod cyfleoedd hyblyg i ailhyfforddi ar gael i weithwyr presennol
  • Gwneud yr economi gylchol yn rhan o’r ddarpariaeth hyfforddi a datblygu ac addasu egwyddor sylfaenol yr economi gylchol i bryderon penodol busnesau
  • Manteisio ar dechnoleg digideiddio er mwyn hwyluso’r trawsnewid i sicrhau allyriadau sero net a gwella cynhyrchiant y gweithlu, ond cydnabod bod angen gwneud hynny mewn ffordd gynhwysol
  • Bod angen annog y defnydd o’r Gymraeg wrth roi hyfforddiant a chynllunio’r gweithlu

Mae ein hadroddiad yn ystyried y themâu hyn yn fanwl. Mae hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer pob sector allyriadau ac yn trafod themâu trawsbynciol.