Sut i wella ysgogiadau cynhyrchiant rhanbarthol yng Nghymru a Lloegr

Fel enillwyr Gwobr 2024 am y Papur Gorau a gyhoeddwyd yn y Regional Studies Policy Debates, dyma Helen Tilley, Jack Newman, Charlotte Hoole, Andrew Connell, ac Ananya Mukherjee yn trafod eu papur buddugol. Maent yn dadlau nad oes gan ranbarthau’r DU yr ysgogwyr polisi sydd eu hangen arnynt i wella cynhyrchiant drwy edrych ar y cysylltiad rhwng datganoli a chynhyrchiant.

Mae llawer wedi’i ysgrifennu am bos cynhyrchiant y DU. Os yw’r DU am gyflawni’r ddau nod o gynyddu cynhyrchiant a lleihau anghydraddoldeb, rhaid rhoi sylw i ddwy broblem ganolog lleoedd: yn gyntaf, sut i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng rhanbarthau, yn enwedig o ran y gwahaniaethau rhanbarthol amlwg mewn cynhyrchiant; yn ail, sut i sicrhau bod gan sefydliadau datganoledig y gallu i wella cynhyrchiant a chynwysoldeb o fewn rhanbarthau. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau wedi ymdrechu i uno’r ddau fater yma yn yr agenda ‘ffyniant bro’, ond ni wnaed llawer o gynnydd hyd yma ar y deuddeg cenhadaeth ffyniant bro, a gyda newid mewn llywodraeth yn cael ei ragweld yn ddiweddarach eleni, mae’n amlwg bod llawer o waith i’w wneud.

I fynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n seiliedig ar leoedd, rhaid i’r llywodraeth nesaf edrych ar yr ysgogwyr a’r sbardunau cynhyrchiant a chynwysoldeb cyfredol. Mae’r rhain yn arbennig o bwysig ar raddfa’r ddinas-ranbarth, haen lywodraethu newydd sy’n dod i’r amlwg yn y DU.

Yn ein papur, rydym yn cyfrannu at y drafodaeth drwy ystyried a oes gan ranbarthau’r DU yr ysgogwyr polisi sydd eu hangen arnynt i sbarduno cynhyrchiant a chynwysoldeb. Rydym yn cymharu tri rhanbarth yn y DU sydd â strwythurau llywodraethu gwahanol: Enterprise M3 LEP yn Ne Ddwyrain Lloegr; Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; a’r North East Combined Authority.[1] Rydym yn dadansoddi ysgogwyr polisi yn y tair astudiaeth achos o ran eu heffaith ar bedwar ysgogwr economaidd cynhyrchiant 1) buddsoddi ac arloesi; 2) seilwaith trafnidiaeth; 3) entrepreneuriaeth a chyflogaeth; a 4) sgiliau. Drwy fabwysiadu’r dull hwn, rydym yn cyfrannu at y drafodaeth sydd ar waith ar y gydberthynas rhwng ysgogwyr polisi, llywodraethiant rhanbarthol a chanlyniadau cynhyrchiant.

Buddsoddi ac arloesi

Mae arloesi’n hanfodol i gynhyrchiant, ond mae wedi’i amlygu ar hyn o bryd gan wahaniaethau rhanbarthol mawr. Mae rhai buddsoddiadau ar lefel  yr UE ac yn genedlaethol wedi ymdrechu i wrthweithio yn erbyn yr anghydbwysedd hwn, ond mae ysgogwyr rhanbarthol yn gyfyngedig iawn. Er bod sefydliadau rhanbarthol mewn sefyllfa gref i gydweithio’n glos â busnesau i ddenu buddsoddiadau mawr, mae hyn ar hyn o bryd yn cael ei danseilio gan ddiffyg cyfathrebu lleol-canol effeithiol. Gwelwyd amryw o fentrau sy’n ymdrechu i wella cysylltiadau rhwng gweision sifil a swyddogion lleol, fel y ‘Cities and Local Growth Unit’ – tîm traws Whitehall o dan arweiniad DLUHC, ond maent yn bodoli mewn hinsawdd o ddiffyg ymddiriedaeth mewn perthnasoedd canol-lleol.

Rydym yn dadlau bod angen fforymau newydd lle gall cyfathrebu helpu i ysgogi mewn-fuddsoddi. Un opsiwn fyddai rhoi rôl fwy ffurfiol a mwy o gyllid i ‘sefydliadau rhyngwyneb’ fel y Gymdeithas Llywodraeth Leol a’r Rhwydwaith Cynghorau Sir. Un arall fyddai sefydlu unedau gwerthuso seiliedig ar leoedd sydd wedi’u hariannu’n dda, ac a fyddai’n gwneud gwaith ymchwil economaidd a gwerthuso polisïau o fewn ardal, ac a fyddai’n cynnwys cynrychiolwyr lleol a chenedlaethol yn ogystal â thîm ymchwil craidd. Gallai’r Partneriaethau Arloesi Polisi Lleol newydd helpu â hyn gan eu bod wedi’u sefydlu mewn ardaloedd lleol a bod ganddynt y potensial i gynnig y strwythur i ddod â thystiolaeth i ddatblygu datrysiadau i heriau lleol.

Seilwaith trafnidiaeth

Seilwaith trafnidiaeth yw’r sector pwysicaf ar hyn o bryd ar gyfer ymyriadau polisi sy’n seiliedig ar leoedd, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn sgil datganoli pwerau trafnidiaeth i’r rhanbarthau ac i’r cenhedloedd datganoledig. Mae datganoli mwy o gyllidebau trafnidiaeth yn hanfodol, fel y gall lleoedd ddefnyddio buddsoddiad mewn trafnidiaeth fel ysgogydd cynhyrchiant. Fodd bynnag, mae ein hymchwil wedi canfod hefyd bod angen mwy o weithio ar draws rhanbarthau a rhwng llywodraethau, a bod hynny yn ei dro’n dibynnu ar gefnu ar strwythurau llywodraethu cymhleth a chystadleuol. Yr allwedd i’r ddau yw diwygio’r system gyllido. Yr opsiwn amlwg yw diwygio llwyr i greu fformwla cyllido sefydlog a thryloyw sy’n seiliedig ar angen lleol.

Mae newidiadau ar unwaith i’r system bresennol hefyd yn bwysig, yn benodol caniatáu mwy o ryddid i sefydliadau lleol i symud cronfeydd o un prosiect neu sector i un arall ac i gyfuno cyllidebau. Mae’r camau cyntaf wedi’u cymryd gyda’r ‘trailblazer deals’ a ‘bargeinion datganoli Lefel 4’, ond mae angen i’r rhain gael eu cyflwyno’n llawer cyflymach, ac ni fydd hyn yn ei dro’n bosibl oni bai bod y llywodraeth ganolog yn buddsoddi i adeiladu capasiti lleol. Gyda hyblygrwydd cyllidebol, mae potensial mawr i’r sector trafnidiaeth allu cael effaith ar gynhyrchiant, yn ogystal ag ar gynwysoldeb a chynaliadwyedd; i annog teithio llesol drwy hybu cyllidebau iechyd; gyda chyllidebau amgylcheddol, mynd i’r afael â llygredd aer; a gyda chyllidebau datblygu busnesau, annog clystyru.

Entrepreneuriaeth a chyflogaeth

O ran entrepreneuriaeth, gwelsom fod mwy o bwyslais ar gwmnïau mawr ar draul BBaCh, ac yn enwedig egin fusnesau, sy’n aml wedi’u hepgor o bolisïau economaidd rhanbarthol. Creu swyddi, yn hytrach na chreu busnesau, yw’r flaenoriaeth i bob un o’r tri sefydliad rhanbarthol a ddadansoddwyd gennym, ac roedd pwyslais ar nifer yn hytrach nag ansawdd swyddi yn cyfrannu at bwyslais ar gynhyrchiant ar draul cynwysoldeb. Mae’r cydbwysedd presennol rhwng sectorau cynhyrchiant uchel ac isel yn golygu bod amrywiadau mawr yn yr heriau a wynebir, ond mae amrywiadau hefyd ym mhwerau sefydliadau rhanbarthol i ymyrryd. Byddai ail-gydbwyso’r galluoedd hyn drwy addasu sianelau cyfathrebu, ffrydiau cyllido, cylchoedd gwaith polisi datganoledig, a’r galluoedd sefydliadol i’w defnyddio’n creu’r potensial i gyflawni canlyniadau gwell.

Sgiliau

Mae’r gallu i wynebu heriau sgiliau rhanbarthol yn cael ei danseilio gan ddiffyg pwerau penderfynu dros addysg a hyfforddiant ar y lefel ranbarthol, ac o ganlyniad i’r anawsterau i gynllunio ar gyfer ac i ragweld y galw am sgiliau yn y dyfodol. Byddai datganoli penderfyniadau addysg a sgiliau i’r rhanbarthau a chydlynu ymhlith rhanddeiliaid yn eu galluogi i ymateb yn well i’w cyd-destunau lleol. Gan fod rhai o’r pwerau hyn wedi cael eu datganoli’n uniongyrchol i ysgolion a chadwynau academïau, mae angen codi pwerau i fyny hefyd fel y byddant yn gallu dylanwadu’n strategol ar y sylfaen sgiliau lleol. Yn fwy cyffredinol, ni ddylai pwerau sefydliadau llywodraethu lleol ddod o’r prosesau presennol y gellir eu datganoli’n unig, ond hefyd o ddatblygiadau polisi arloesol lleol lle mae sefydliadau’n cael eu galluogi i fanteisio neu sefydlu pwerau newydd i gyflawni gwelliannau mewn cynhyrchiant.

Casgliad

Rydym yn dangos nad oes gan sefydliadau rhanbarthol y DU ar hyn o bryd bwerau digonol i wneud penderfyniadau, na galluoedd cyllidebol na sefydliadol i wneud ymyriadau polisi sy’n ddigon i drawsnewid yn yr ysgogwyr cynhyrchiant. Mae camau positif yn cael eu cymryd ond yn rhy araf ac mewn ffordd rhy anghyson ledled y wlad. Wrth gwrs, mae canlyniadau’n dibynnu hefyd ar ryngweithiad ffactorau cyd-destunol, gan gynnwys perfformiad economaidd yn y gorffennol, daearyddiaeth economaidd a’r economi wleidyddol leol. A hefyd mae pwysigrwydd gweithrediad, creadigrwydd a strategaeth arweinyddion unigol, er bod hyn ynddo’i hun wedi’i ymgorffori mewn ac wedi’i ddylanwadu gan y strwythur llywodraethu lleol. Yn y pen draw, strwythur llywodraethiant is-genedlaethol ddylai’r prif erfyn fod i ymyrryd mewn cynhyrchiant rhanbarthol, ac eto, yn y DU, mae hyn yn rhwystr mawr rhag datrys y pos cynhyrchiant.

Mae’r papur llawn wedi’i gyhoeddi yn Regional Studies: A place-based system? Regional policy levers and the UK’s productivity challenge

Gwnaed y gwaith hwn fel rhan o’r prosiect LIPSIT a oedd yn ymdrech i ganfod trefniadau sefydliadol ar y lefel ranbarthol sy’n dueddol o arwain at reoli’r cyfnewidiadau polisi ‘da’ sy’n gysylltiedig â chynyddu cynhyrchiant.

 

[1] Bydd yr olaf yn cael ei ddisodli ar 2 Mai gan y North East Mayoral Combined Authority newydd.