Sefydliadau Lleol, Cynhyrchedd, Cynaliadwyedd a Chyfaddawdau o ran Cynhwysiant (LIPSIT)

Statws prosiect Cwblhawyd

Sefydliadau Lleol, Cynhyrchedd, Cynaliadwyedd a Chyfaddawdau o ran Cynhwysiant (LIPSIT) sy’n rhan o brosiect cydweithredol a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Nod y prosiect yw adnabod y trefniadau sefydliadol ar lefel ranbarthol sy’n tueddu i arwain at reolaeth ‘dda’ o gyfaddawdau polisi sy’n gysylltiedig â chynyddu cynhyrchedd, a gwneud argymhellion ar sail y rhain.

Bydd yr argymhellion yn cwmpasu:

  • Newidiadau i’r ffordd y mae llunwyr polisïau cenedlaethol a rhanbarthol yn gweithredu yn y system bresennol o sefydliadau.
  • Mân newidiadau i’r system honno y mae llunwyr polisïau sy’n gyfrifol am ddyluniad y system yn debygol o’u derbyn, a
  • Newidiadau mwy radical i’r system honno allai gael eu mabwysiadu yn y dyfodol.

Os bydd llunwyr polisïau’n gweithredu ar yr argymhellion hyn, bydd hyn yn arwain at sefydliadau cryfach a chynhyrchedd rhanbarthol a lleol gwell o ganlyniad. Yn y pen draw, dylai hyn arwain at wella cofnod cynhyrchu’r DU.

Yr Athro Nigel Gilbert o Brifysgol Surrey sy’n arwain prosiect LIPSIT, gyda’i Gyd-Ymchwilwyr Dr Helen Tilley (Prifysgol Caerdydd), yr Athro Simon Collinson a Dr Charlotte Hoole (Prifysgol Birmingham), yr Athro Nigel Driffield a Dr Guus Hendriks (Prifysgol Warwick), a Charles Seaford (Demos).