‘Codi’r Gwastad’: parhau â’r sgwrs

Mae ‘Codi’r Gwastad’ – a ddefnyddir yma i gyfeirio at agenda bolisi ehangach Llywodraeth y DU yn hytrach na’r ffrwd ariannu Codi’r Gwastraff benodol – yn ymwneud yn bennaf â mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd, datblygu economaidd a chynhyrchiant ar sail lleoedd.  Fel y nodwyd yn ein blog WCPP blaenorol, mae hon yn sgwrs sy’n hanfodol i Gymru.   

Er bod ‘Codi’r Gwastad’ yn ceisio targedu lleoedd (rhanbarthau, awdurdodau lleol, dinasoedd, trefi gwledig) sydd wedi’u hanfanteisio’n anghymesur yn economaidd, codwyd cwestiynau ynghylch a yw’n cyrraedd yr ardaloedd a’r bobl fwyaf anghenus. 

Er enghraifft, mae’r fformiwla a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU i dargedu ardaloedd ar gyfer cyllid wedi cael ei beirniadu am beidio â chynnwys y Mynegai Amddifadedd Lluosog, neu unrhyw fetrig ar gyfer amddifadedd, yn ei chyfrifiadau.  Mae’r felin drafod NPC wedi dweud yn fwy diweddar nad yw’r cyllid yn mynd i’r ardaloedd sydd â’r cyfraddau amddifadedd uchaf yng Nghymru a’r Alban. 

Mae cyfres newydd ei rhyddhau o safbwyntiau proffesiynol gan y Sefydliad Datblygu Economaidd (IED) yn awgrymu bod pobl a chymunedau yn cael eu ‘gadael allan o’r naratif’ ac y bydd ‘economeg diferu’ yn arwain at ‘fuddion i rai, tra prin yn cyffwrdd â llawer’.   

Yn wir, mae ‘Codi’r Gwastad’ yn ymddangos yn esgeulus o anghydraddoldebau y mae angen eu hystyried os yw pawb am gael eu cymryd ‘ar y daith’.   

Mae ystyriaeth fanylach o waith WCPP ar ddwy agwedd allweddol ar gydraddoldeb yng Nghymru – tlodi a chydraddoldeb hiliol – yn amlwg yn hyn o beth. 

Yn gyntaf, mewn perthynas â thlodi, mae bron i chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd. Mae tystiolaeth o’r cyd-destun Cymreig yn dangos bod pandemig y Coronafeirws wedi arwain at gynydd yn nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi; wedi dwysáu tlodi i’r bobl hynny a oedd eisoes yn byw mewn tlodi; ac wedi gwaethygu’r canlyniadau o fod ar incwm isel.    

Mae ymchwil a gomisiynwyd gan WCPP (sydd ar y gweill) yn awgrymu, er bod gan bolisïau adfywio ar sail lleoedd rôl bwysig i’w chwarae, fod cyfyngiadau iddynt o ran lleihau tlodi.  Er mwyn sicrhau bod y rhai sydd dan anfantais yn elwa ar bolisïau o’r fath, mae angen pennu amcanion clir ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol, ynghyd â ffurfiau digonol o werthuso a monitro — ni ellir disgwyl i dwf a ffyniant ddiferu i lawr yn organig; mae gwir gynhwysiant yn gofyn am ymgysylltu’n rhagweithiol â’r rhai mwyaf difreintiedig yn y gymuned a ffocws ar ddeall a mynd i’r afael â’r rhwystrau i ymgysylltu.  Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â ‘chostau’ cyfranogiad mewn datblygu sgiliau, hyfforddiant, neu gyfleoedd gwaith newydd/gwell – er enghraifft drwy ddarparu trafnidiaeth a gofal plant fforddiadwy, hygyrch a hyblyg – yn ogystal â rhoi sylw i nifer o ffactorau eraill (er enghraifft mynediad at fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, stigma a deimlir) sydd gyda’i gilydd yn ei gwneud hi’n hynod o anodd dod o hyd i lwybr allan o dlodi. 

At hynny, fel y dadleuwyd gan yr Athro Hugh Lauder o Brifysgol Caerfaddon, mae dull sy’n seiliedig ar leoedd yn esgeuluso natur ehangach tlodi (plant): ‘gagendor gwirioneddol arwyddocaol a phoenus iawn mewn cymdeithas, sy’n amlwg ym mhob tref a dinas’.  Mae’r Joseph Rowntree Foundation yn rhybuddio am ‘anghyfiawnder dwbl’ adferiad economaidd sy’n methu â lleihau tlodi yn y DU.  Ni allwn fforddio, mynna’r sefydliad, beidio â ‘chodi’r gwastad’ ar y ddau. 

Yn ail, mewn perthynas â chydraddoldeb hiliol, mae ymchwil a gomisiynwyd gan WCPP wedi cynhyrchu chwe adolygiad tystiolaeth ar y meysydd polisi allweddol sydd â’r potensial i gael yr effaith fwyaf ar wella cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.   Mae’r adolygiadau’n cynnwys ffocws ar gyflogaeth ac incwm, tai a llety ac addysg (gan gynnwys hyfforddiant a datblygiad, addysg uwch ac addysg bellach). Mae’r adroddiad cryno yn defnyddio’r dystiolaeth i eirioli dros fwy o ymgysylltu ac allgymorth gyda chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gan gynnwys mwy o gyfleoedd ar gyfer cyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu wrth wraidd dylunio, cyflwyno a gwerthuso polisïau.  Mae rhai, os nad pob un, o’r chwe adroddiad yma a’r neges graidd hon o’r crynodeb yn berthnasol i’r agenda Codi’r Gwastad. 

Mae hil a statws economaidd-gymdeithasol gyda’i gilydd yn ddimensiynau pwerus o anghydraddoldeb, yn rhyngweithio â’i gilydd ac yn llunio profiadau a chyfleoedd unigolion.  Fel y nododd eraill, rhaid i’r agenda Codi’r Gwastad ‘gadw lle’ ar gyfer y ‘cymhlethdod’ hwn ac ystyried rhwystrau y tu hwnt i’r rhai sy’n ‘ymwneud â daearyddiaeth’ yn unig.   

Mae ein hadolygiad tlodi arfaethedig yn dangos, o’r aelwydydd incwm isel yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig yng Nghymru — o ran y risg o ddal y Coronafeirws a’i oblygiadau economaidd — grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod a phobl ifanc oedd y rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf.  Mae’n amlwg bod angen talu sylw pellach i gydraddoldeb hiliol a thlodi sy’n bwydo i unrhyw syniad ystyrlon o Godi’r Gwastad. 

Mae’r ffrydiau ariannu Codi’r Gwastad yn gofyn am sgyrsiau uniongyrchol rhwng Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol Cymru.  Fodd bynnag, gallai ailgyflwyno deddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru i’r drafodaeth alluogi ffocws cryfach ar liniaru tlodi a chydraddoldeb hiliol.   

Er enghraifft, mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn cynnwys gofynion ar gyfer ‘asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb’ a ‘chynlluniau cydraddoldeb strategol’ lleol; mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) yn canolbwyntio ar ‘Gymru fwy cyfartal’, yn ogystal â ‘Chymru fwy llewyrchus’, ac mae’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol (31 Mawrth 2021) yn gofyn am ystyried sut i leihau anghydraddoldeb a sicrhau canlyniadau gwell i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.  Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (REAP) arfaethedig Llywodraeth Cymru wedi’i leoli o fewn strategaeth wrth-hiliol ar gyfer Cymru ac yn ceisio helpu i weithredu strategaeth o’r fath.   

Gyda’i gilydd, gall y fframwaith cyfreithiol a pholisi galluogol hwn a sylfaen dystiolaeth gref ar liniaru tlodi a gwella cydraddoldeb hiliol helpu i gyfrannu dimensiwn ehangach o gyfiawnder cymdeithasol, ochr yn ochr â datblygiad economaidd, at y sgwrs ynghylch Codi’r Gwastad yng Nghymru.  Gallai hyn fod o gymorth i’r awdurdodau lleol hynny sy’n delio ag ystod o heriau a thensiynau sy’n gysylltiedig â chyflwyno ceisiadau i’r ffrydiau ariannu newydd a chyflawni’n llwyddiannus yng nghyd-destun Cymru.