‘Codi’r Gwastad’: sgwrs hanfodol i Gymru

Beth mae ‘codi’r gwastad’ yn ei olygu’n ymarferol i Gymru? Mae’r ddadl ynghylch y diffiniad yn parhau, ac mae’r Papur Gwyn hirddisgwyliedig bellach wedi’i gyhoeddi, ond erys cwestiynau ynghylch sut y cyflawnir canlyniadau.

Yn Uwchgynhadledd yr Economi gan y Sefydliad Materion Cymreig ym mis Tachwedd dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi yng Nghymru, y gallai codi’r gwastad gael ei fframio fel cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd i Gymru. Mae codi’r gwastad yn sgwrs bwysig i Gymru. Mae gan economi Cymru nodweddion penodol sy’n golygu bod angen cymorth ychwanegol i gyflawni’r nod o godi’r gwastad.  Er bod Cymru’n perfformio’n dda o ran ystadegau cyflogaeth; mae bwlch cynhyrchiant nodedig o gymharu â gweddill y DU, gyda goblygiadau uniongyrchol ar gyfer cyflogau. Cymru sydd â’r ardaloedd â’r cynhyrchiant isaf yn y DU, ynghyd â’r ardaloedd â’r cystadleurwydd isaf. Yn ogystal ag anghydraddoldeb economaidd rhwng Cymru a gweddill y DU, mae anghydraddoldeb hefyd rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru ac o fewn yr awdurdodau.  

Mae fy ngwaith ar economi Cymru yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio at dair problem y mae angen i Gymru eu datrys er mwyn gallu ‘codi’r gwastad’:  

  • system ariannu dameidiog; 
  • diffyg cydlyniant; a 
  • thueddiad mewn gwleidyddiaeth i ganolbwyntio ar y tymor byr. 

Yn gyntaf, mae natur dameidiog y system ariannu yn gysylltiedig â’r ffaith bod cyllid strwythurol yr UE wedi cael ei ddisodli gan broses gystadleuol o wneud cais ar gyfer y Gronfa Codi’r Gwastad, y Gronfa Adnewyddu Cymunedol, a’r Gronfa Rhannu Ffyniant a lansiwyd. Gallai’r gofyniad bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud cais am gyllid, sydd wedi’i reoli a’i gynllunio gan Lywodraeth y DU, gael sgil-effeithiau negyddol. Mae risg y gallai’r cylchoedd ariannu waethygu’r anghydraddoldebau presennol o ran capasiti rhwng y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. At hynny, mae parhau i gefnogi prosiectau Cymru gyfan yn yr un modd ag yr oedd yr UE yn ei wneud yn fwy o her, oherwydd y ffocws newydd ar ardaloedd lleol, gan fod mentrau rhanbarthol a rhai Cymru gyfan fel cysylltiadau trafnidiaeth yn hanfodol ar gyfer cefnogi datblygu economaidd.  

Yn ail, mae twf cynhyrchiant ym mhob ardal, gan gynnwys ardaloedd â lefelau twf arafach, yn bwysig ar gyfer codi’r gwastad yng Nghymru. Er bod amryw ffactorau sy’n ysgogi cynhyrchiant, gan gynnwys mewnfuddsoddiad a chysylltedd digidol, seilwaith, entrepreneuriaeth, sgiliau, arloesedd ac ymchwil a datblygu; cydnabyddir yn eang bod angen rhoi mwy o sylw i ymateb polisi cydgysylltiedigEr enghraifft, rydym yn gwybod bod angen swyddi medrus o ansawdd uchel mewn diwydiannau deinamig a bod hyn yn gofyn am fuddsoddiad cydgysylltiedig mewn sgiliau, trafnidiaeth, ymchwil a datblygu, gweithleoedd, a datblygu clystyrau â chadwyni cyflenwi cefnogol. I gyflawni hyn mae angen pecyn buddsoddiad sy’n rhan o weledigaeth ar gyfer datblygu economaidd, yn hytrach na phrosiectau unigol.  

Yn drydydd, mae’r tueddiad i ganolbwyntio ar y tymor byr gryn her o ran codi’r gwastad, oherwydd bydd angen gwrthdroi nodweddion strwythurol hirsefydlog, ac felly ni ellir cyflawni hyn mewn un tymor gwleidyddol. Mae’n golygu bod angen ymrwymiad hirdymor sy’n adlewyrchu cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru; ac ymdrech i gyflwyno’r math o newid sefydliadol sydd ei angen i wneud gwahaniaeth. Mae’r newidiadau hyn yn heriol o safbwynt gwleidyddol gan eu bod yn debygol o fod yn fygythiad i fuddiannau sefydledig, ac i Gymru gallai hyn olygu ailedrych ar hen ddadleuon ynghylch ailstrwythuro awdurdodau lleol 

Teimlir yr heriau hyn yn gryf yng Nghymru, yn yr un modd ag yng ngweddill y DU. Fodd bynnag, mae’n ddigon posibl y bydd diddymu rheolaeth Llywodraeth Cymru dros y cronfeydd newydd sy’n disodli rhai yr UE a chyflwyno elfen o gystadlu am arian yn llesteirio ymdrechion i godi’r gwastad.  

Mae’r heriau hyn yn gysylltiedig â chwestiynau ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i drafodaeth Llywodraeth y DU a’i blaenoriaethau gwleidyddol, a sut y gall Llywodraeth Cymru mynnu trafodaeth ynghylch mater mor bwysig; trafodaeth y mae nifer gynyddol o bobl wedi bod yn galw amdani yn ystod pandemig COVID-19.  

Er ei bod yn bwysig mynd i’r afael â heriau hirdymor sy’n gysylltiedig â chodi’r gwastad, mae camau ymarferol yn cael eu cymryd yn y tymor byrrach i gefnogi awdurdodau Cymru yn eu ceisiadau am gyllid. Mae’r rhain yn cynnwys cynnig cymorth ar y cyd ar gyfer datblygu ceisiadau drwy adeiladu ar bartneriaethau sy’n bodoli eisoes.  

Yn y tymor canolig, bydd yn bwysig rhoi codi’r gwastad yn ei gyd-destun ym mholisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i wneud cysylltiadau â heriau sy’n benodol i Gymru; ac i barhau â’r drafodaeth ynghylch yr heriau a’r atebion posibl, yn enwedig o ystyried effaith codi’r gwastad ar anghydraddoldebau, rhwng Cymru a gweddill y DU ac o fewn Cymru ei hun.  

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi gweithio ar amrywiaeth o’r materion hyn dros y blynyddoedd diwethaf 

Gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr yma