Pwyso a mesur ein cynllun Prentisiaeth Ymchwil

Cyflwynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) y Cynllun Prentisiaeth Ymchwil yn 2017. Nod y cynllun yw datblygu gallu ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i ymgysylltu â llunwyr polisïau a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn ymateb i heriau allweddol yng Nghymru.

Mae wedi denu cannoedd o geisiadau bob blwyddyn gan ymgeiswyr rhagorol sydd am gael profiad uniongyrchol o ddarparu tystiolaeth er mwyn llunio polisïau.

Dyma bumed flwyddyn y cynllun ac mae’n amser addas i bwyso a mesur. Yma, gofynnwn i’n ddau brentis ymchwil diweddaraf, Isabelle Carter (2020-21) a Greg Notman (2021-22), edrych yn ôl ar eu profiadau yn y rôl, yr hyn y maent wedi’i ddysgu, eu huchafbwyntiau a’u cynlluniau at y dyfodol.

 

Pam oedd gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am y rôl?

Isabelle: Pan welais yr hysbyseb ar gyfer rôl prentis, roeddwn i’n teimlo ei fod wedi cael ei ysgrifennu i mi. Yn yr un modd â Greg, roeddwn i newydd orffen fy ngradd Meistr ac yn ceisio penderfynu rhwng mynd ymlaen i wneud PhD neu chwilio am swydd yn y llywodraeth. Roedd gweithio fel prentis ymchwil yn caniatáu i mi archwilio’r ddau opsiwn hyn drwy brofiad ymarferol a rhoddodd hyder i mi wrth benderfynu ar y camau nesaf yn fy ngyrfa.

Greg: Apeliodd y rôl yn syth ataf gan fy mod yn gorffen fy ngradd Meistr ac roeddwn wedi fy rhwygo rhwng gwneud cais am PhD neu swydd mewn polisi. Mae’r rôl wedi caniatáu imi ddatblygu fy sgiliau ymchwil academaidd ymhellach a chael profiad mewn rôl ym maes polisi, felly roedd yn gyfle perffaith i fod yn rhan o’r ddau fyd cyn penderfynu beth oeddwn am ei wneud nesaf.

 

Beth wnaethoch chi weithio arno yn ystod eich prentisiaeth?

Greg: Mae’r brentisiaeth yn cynnwys gweithio ar amryw o brosiectau gwahanol i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys siarad â rhanddeiliaid ac ysgrifennu adroddiadau. Ynghyd â hyn, mae prentisiaid hefyd yn datblygu prosiect ymchwil academaidd gyda thîm ymchwil y Ganolfan, gyda’r nod o gyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid. Mae sawl cyfle ar gyfer hyfforddiant a lleoliadau hefyd.

Rydw i wedi ymwneud yn helaeth â’n gwaith ar iechyd a gofal cymdeithasol, gan gyd-ysgrifennu darn ar flaenoriaethau a heriau i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Rydw i hefyd wedi ceisio mapio strwythur y system yng Nghymru ac ar hyn o bryd rydw i’n ysgrifennu blog ar fy ymdrechion, ar ôl cymryd rhan mewn sgyrsiau gyda sefydliadau yn y sector. Yn fwy diweddar, gofynnwyd imi gefnogi prosiectau newydd sy’n ymwneud â sero net, yn ogystal â pheth o’n gwaith ar blant sy’n derbyn gofal, gan weithio gyda chydweithwyr yn CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Isabelle a minnau hefyd wedi helpu i ddylunio a darparu gweithdai ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar dlodi a lles cymunedol.

Roedd fy mhrosiect ymchwil academaidd yn canolbwyntio ar sut mae canolfannau What Works (fel WCPP), yn adeiladu ac yn meithrin perthynas â’u rhanddeiliaid. Rwyf wedi cynnal cyfweliadau â’r rhai sy’n gweithio yng nghanolfannau What Works, a rhanddeiliaid mae’r sefydliadau hyn yn gweithio gyda nhw, a fydd yn helpu i ddeall ymhellach sut mae’r sefydliadau hyn yn gweithredu, yn ogystal â chael mewnwelediad ymarferol i sefydliadau eraill sy’n paratoi gwybodaeth.

Isabelle: Roedd fy mhrosiect academaidd yn canolbwyntio ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Fe wnes i gyfweld ag amrywiaeth o randdeiliaid ledled Cymru i gael cipolwg ar eu profiadau gyda’r Ddeddf ac rwyf wedi defnyddio’r data hwn i archwilio a yw’n cynrychioli dull newydd o ymdrin â pholisi datblygu cynaliadwy yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol.

Drwy gydol fy nghyfnod yn y Ganolfan, rwyf wedi cael cyfle i ymgysylltu ag ystod eang o feysydd polisi o ddatgarboneiddio a grantiau cyfleusterau anabl, i benderfynyddion ymddygiadau iechyd plant. Treuliais lawer o’m hamser yn gweithio ar gynnal adolygiad o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru a gynhaliwyd gennym ochr yn ochr â chydweithwyr yn Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain (LSE) a’r New Policy Institute, sydd wedi bod yn brofiad hynod o werth chweil. Cyfrannais hefyd at brosiect yn archwilio goblygiadau’r cynnydd mewn gweithio o bell i Gymru, gan ysgrifennu blog ar y pwnc yn ystod y cyfnod lle roedd y mwyafrif yn gweithio o bell yn ystod y pandemig.

 

Beth oedd eich uchafbwyntiau?

Isabelle: Effeithiodd COVID-19 ar fy nghyfnod fel prentis wrth i mi weithio bron yn gyfan gwbl o bell. Serch hynny, roeddwn yn ffodus i allu gwneud lleoliad o bell gyda Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn Llywodraeth Cymru y gwnes i fwynhau yn fawr iawn. Uchafbwynt arall oedd y cyfle i gyfrannu at academi bolisi Prifysgol Newcastle lle cyflwynais ar gyd-destun llywodraethu Cymru a chymryd rhan mewn sesiynau ar lywodraethu datganoledig yn y DU. Un o’r pethau gorau am y rôl hon yw’r cyfle y mae’n ei roi i wneud cysylltiadau â phobl a sefydliadau ar draws ystod o sefydliadau polisi a llywodraethu, sydd wedi bod yn amhrisiadwy.

Greg: Dwi wir wedi mwynhau’r cyfleoedd i rwydweithio a dysgu mwy am y cyd-destun polisi yng Nghymru (yn dod o’r Alban). Treuliais dri diwrnod yn y Senedd gyda’u cangen ymchwil, yn dysgu sut maen nhw’n defnyddio tystiolaeth fel rhan o’u gwaith. Mae gweithio gyda CASCADE hefyd wedi rhoi cyfle uniongyrchol i mi ddeall y gwaith maen nhw’n ei wneud, a hynny fel sefydliad arall sydd wedi ei leoli yn ein cartref newydd yn Sbarc|Spark.

 

Beth sydd nesaf?

Greg: Rwy’n aros yn y Ganolfan am gyfnod hirach, gan symud i swydd Swyddog Ymchwil, a fydd yn fy helpu i gael hyd yn oed mwy o brofiad mewn meysydd polisi gwahanol. Rwy’n dal i feddwl am PhD ond mae gweithio mewn amgylchedd cyflym fel WCPP wedi fy annog i ystyried gyrfa fwy cymhwysol â phwyslais ar bolisi.

Isabelle: Ers gorffen fy nghyfnod fel Prentis Ymchwil, rwyf wedi parhau i weithio gyda’r Ganolfan fel ymchwilydd wrth ddilyn cwrs MSc mewn dulliau Ymchwil Cymdeithasol. Ym mis Hydref, byddaf yn symud ymlaen i PhD yn yr LSE gan ymgymryd â rôl ymchwil gymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.

 

Meddai’r Athro James Downe, Cyfarwyddwr Ymchwil WCPP – ‘Mae ein cynllun Prentis Ymchwil wedi bod yn llwyddiant mawr. Rydym wedi recriwtio rhai graddedigion rhagorol sydd wedi cael profiad sylweddol o weithio yn y Ganolfan ac wedi defnyddio’r profiad fel sbardun i’w gyrfa. Hoffwn groesawu ein chweched Prentis Ymchwil, Charlotte Morgan, a ymunodd â’r Ganolfan fis diwethaf o Sefydliad Prydeinig y Galon’. 

(L-R) Isabelle Carter (2020), Greg Notman (2021), and Charlotte Morgan (2022)