Gweithio o bell

Mae economi Cymru’n dioddef sioc ddybryd ddigynsail yn sgil pandemig y Coronafeirws. Un o ganlyniadau’r cyfnodau clo a’r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus fu gofyniad ar i bobl weithio o’u cartrefi lle gallant. Mae data’r Deyrnas Unedig yn awgrymu bod y ganran o weithwyr sy’n gweithio o’u cartrefi wedi codi o ddim ond 5 y cant cyn mis Mawrth 2020 i oddeutu 43 y cant ar ddechrau’r cyfnod cloi (Felstead a Reuschke, 2020).

Er nad yw’r ganran hon yn debygol o gael ei chynnal unwaith y bydd pandemig y Coronafeirws dan fwy o reolaeth yn y tymor canolig i hir, mae’n rhesymol disgwyl y bydd mwy o bobl yn gweithio o bell am fwy o amser nag y gwnaent cyn Mawrth 2020. Gallai hynny fod yn eu cartrefi neu mewn man gwaith penodol o fewn eu cymuned, a gall fod yn llawn amser neu’n gyfuniad o weithio o bell a gweithio mewn swyddfa. Fodd bynnag, ar draws economi Cymru yn ei chyfanrwydd, efallai mai cyfyngedig fydd y cyfleon i weithio o bell. Mae gan Gymru gyfran uwch o weithwyr ar gyflog isel a phobl sy’n methu gweithio o’u cartref nag sydd gan rannau eraill o Brydain (Rodrigues ac Ifan, 2020; Resolution Foundation, 2020). Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ‘uchelgais hirdymor i weld oddeutu 30% o weithwyr Cymru yn gweithio o gartref neu yn agos at eu cartrefi, a hyn yn golygu wedi i fygythiad Covid-19 leihau’ (Llywodraeth Cymru, 2020).

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gasglu’r dystiolaeth am oblygiadau tebygol gweithio o bell i economi Cymru. Mae’r materion allweddol yn cynnwys y goblygiadau ar gyfer:

  • Cynhyrchiant
  • Trefi a chanolfannau trefol
  • Cyflogaeth
  • Cefnogaeth i fusnes
  • Trafnidiaeth

Mae’r adroddiad yn casglu ynghyd y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd o Gymru, gweddill Prydain ac yn rhyngwladol – gan ganolbwyntio’n arbennig ar wledydd bychain a thebyg – er mwyn deall sut y gall gweithio o bell effeithio ar wahanol agweddau ar weithgaredd economaidd yn y dyfodol.