Zoomshock: Ai gweithio o bell yw dyfodol economi Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ‘uchelgais hirdymor i weld oddeutu 30% o weithwyr Cymru yn gweithio o gartref neu yn agos at eu cartrefi, a hyn yn golygu wedi i fygythiad Covid-19 leihau’. Mae’r newid i weithio o bell yn ystod pandemig Coronafeirws wedi arwain at yr hyn y mae rhai arbenigwyr yn ei ddisgrifio fel ‘ Zoomshock’, lle mae gweithgaredd economaidd yn symud o weithleoedd traddodiadol i ardaloedd cartrefi pobl.

Mae gweithio o bell ers mis Mawrth 2020 wedi bod yn gysylltiedig â nifer o fuddion cymdeithasol ac economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno eu dal a’u cadw yn y tymor hir. Mae’r buddion hyn yn cynnwys llai o dagfeydd mewn trefi, llai o amser teithio i weithwyr, llai o lygredd aer a sŵn, gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gwell cynhyrchiant. Fodd bynnag, mae nifer o bethau anhysbys yn gysylltiedig â symud tymor hir i weithio o bell ar raddfa mor fawr, ac mae angen eu monitro.  Gallai newid i 30% gweithio o bell yng Nghymru arwain at newidiadau sylweddol yn y defnydd o dir a’r farchnad eiddo tiriog wrth i fwy o bobl weithio gartref neu’n agos at eu cartref. Mae modelu’r defnydd o dir yn awgrymu y gallai symud i weithio o bell yn y tymor hir arwain at gynnydd ym mhris tir a thai yn yr ymylon trefol tra bo prisiau yng nghanol dinasoedd yn gostwng.

Yn ogystal, mae ymchwil a gynhaliwyd cyn pandemig Coronafeirws yn awgrymu bod pobl yn fwy parod i fyw ymhellach o’u gweithle os gallant weithio gartref o leiaf rywfaint o’r amser. Gallai adleoli gwaith fel hyn gael effeithiau tymor hir ar sectorau fel lletygarwch a manwerthu. Dyw hi ddim yn bosibl darparu’r gwasanaethau hyn o bell, ac o ganlyniad mae newidiadau o ran lle mae pobl yn gweithio hefyd yn effeithio ar ble maen nhw’n defnyddio’r gwasanaethau hyn. Mae gan hyn oblygiadau i fusnesau mewn canolfannau trefol, lle mae nifer yr ymwelwyr wedi gostwng, ac yn y maestrefi lle mae’r nifer wedi cynyddu.

Mae rhai sylwebyddion wedi awgrymu bod y newidiadau hyn, gyda mwy o weithio o bell, yn golygu diwedd ar y swyddfa draddodiadol yng nghanol y ddinas. Fodd bynnag dylid pwyllo wrth ystyried syniadau o’r fath yng nghyd-destun Cymru. Mae llai o ddinasoedd mawr yng Nghymru na rhannau eraill o’r DU ac felly mae’n bosibl y bydd effaith newid yn y defnydd o swyddfeydd dinesig yn llai. Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cefnogi ei huchelgais i gael 30% yn gweithio o bell drwy greu rhwydwaith o hybiau gweithio o bell cymunedol. Ond dyw hi ddim yn glir eto a oes awydd am lefydd o’r fath ymhlith y gweithlu yng Nghymru.  Ystyriaeth arall sydd angen sylw yw effeithiau gweithio o bell ar wahanol grwpiau, gan y gallai cyfleoedd gael eu dosbarthu’n anghyfartal. Mae’r gyfran o weithwyr sy’n gallu gweithio gartref yng Nghymru’n llai nag unrhyw genedl arall yn y DU. Yn gyffredinol, mae’n haws i ddynion, pobl fwy addysgedig a’r rheini ar gyflog uwch ddewis gweithio gartref a chrynhoi’r buddion economaidd a lles sy’n gysylltiedig â hynny.  Mae menywod, pobl anabl, pobl dan 25 a rhai grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn fwy tebygol o gael eu cyflogi mewn sectorau â chyflogau isel ac felly byddent yn fwy agored i unrhyw effeithiau y gallai symudiad ehangach at weithio o bell yng Nghymru ei gael ar sectorau cyflog isel.

Mae’n bwysig nodi’r amgylchiadau eithriadol a graddfa ddigynsail gweithio o bell yng Nghymru ar hyn o bryd, a’r effaith mae hyn yn ei gael ar y data a’r dystiolaeth sy’n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd. Mae gweithio o bell yn 2020 a 2021 wedi bod yn fesur iechyd cyhoeddus a osodwyd ar bobl yn hytrach nag yn ddewis a wnaed gan weithwyr a chyflogwyr.

Fodd bynnag, mae’r symudiad eang i weithio o bell yn ystod y pandemig wedi newid safbwyntiau ynghylch gweithio o bell. Mae cyfran sylweddol o’r bobl fu’n gweithio gartref yn ystod y pandemig yn nodi eu bod yn awyddus i barhau i weithio gartref (o leiaf ran amser) yn y dyfodol.  O’r herwydd, mae’n bwysig nad yw penderfyniadau polisi yn cael eu seilio ar ddata cyn-2020 yn unig na 2020-21 yn unig. Dylai casglu data a thystiolaeth fod yn elfen allweddol yn y polisïau a mentrau sy’n cefnogi gweithio o bell yn yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae ystyried y  ‘Zoomshock’ posibl y gallai symud at 30% o weithio o bell ei achosi yn economi Cymru’n amlygu manteision ac anfanteision posibl y fath ailffurfio eang mewn arferion gwaith yng Nghymru. Er ei bod yn ddigon posibl fod buddion i’r amgylchedd, lles gweithwyr a chynhyrchedd yn deillio o weithio o bell, mae’n amlwg nad ydym yn gwybod eto beth fyddai effeithiau ailddosbarthu gweithgaredd  economaidd yn ddaearyddol ar y fath raddfa.

Mae ansicrwydd ynghylch anghydraddoldebau a grwpiau bregus, arloesi, dadleoli economaidd, a chrynhoad llai yn parhau’n bryderon allweddol wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyflawni ei huchelgais o 30% yn gweithio o bell yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Yng ngoleuni’r ansicrwydd parhaus ynghylch effaith gweithio o bell yng Nghymru, bydd cynnal monitro parhaus yn hanfodol i harneisio buddion gweithio o bell yng nghyd-destun Cymru ynghyd â lliniaru effeithiau negyddol posibl. Dylai hyn ganolbwyntio ar:

  • Pa grwpiau sy’n gweithio o bell ac ymhle?
  • Beth yw’r newidiadau o ran niferoedd ac ymddygiad trefol?
  • Beth yw’r newidiadau o ran cyflogaeth?
  • Beth yw’r newidiadau o ran prisiau tai a chostau rhentu?

Gallwch ddarllen ein hadroddiad i Lywodraeth Cymru ar weithio o bell yma, a’n holl waith ar adferiad Cymru o’r pandemig yma.