Heriau a Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Mae’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gymhleth ac yn amlochrog. Mae materion systemig a materion sy’n ymwneud â’r gweithlu yn effeithio ar y broses o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yn hwylus, ac mae heriau iechyd penodol a wynebir gan boblogaeth Cymru yn rhoi pwysau cynyddol ar y system. Cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Kaleidoscope Health and Care, adolygiad o’r materion i bennu blaenoriaethau unwaith y bydd y pwysau presennol sy’n gysylltiedig â’r gaeaf a’r pandemig yn cilio. Adolygwyd dogfennau polisi allweddol a chynhaliwyd cyfweliadau ag arweinwyr y sector er mwyn creu darlun eang o’r heriau mawr sy’n effeithio ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd. Cafodd uwch-ffigyrau o sefydliadau allweddol o fewn system iechyd a gofal Cymru eu cynnull mewn ‘uwchgynhadledd i arweinwyr’ er mwyn myfyrio ar y prif heriau a thrafod blaenoriaethau allweddol ar gyfer y sector.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r deg blaenoriaeth allweddol ar gyfer sector iechyd a gofal cymdeithasol Cymru a nodwyd drwy gyfweliadau ac ymchwil ddesg, yn amrywio o’r angen i ail-gydbwyso’r cymhellion er mwyn ysgogi gwelliannau yn y system; i’r angen i wella’r broses o gasglu a dadansoddi data sy’n ymwneud â chynllunio’r gweithlu. O’r deg blaenoriaeth, nodwyd tri maes gan uwch-arweinwyr a allai wneud y gwahaniaeth mwyaf i sector iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, ar ôl i’r pwysau presennol sy’n gysylltiedig â’r gaeaf a’r pandemig gilio:

  • Cefnogi arweinyddiaeth a sefydlu prosesau rheoli ar gyfer newid trawsnewidiol
  • Recriwtio, hyfforddi, cefnogi a datblygu’r gweithlu cywir
  • Cynnal hyblygrwydd prosesau penderfynu a ddatblygwyd yn ystod y pandemig

Mae’r Ganolfan yn ystyried a all gefnogi’r sector i fynd i’r afael â’r rhain a sut y gall wneud hyn.