Newid yn yr Hinsawdd Cyflawni’r Trawsnewid yng Nghymru

Mae datblygiadau diweddar yn rhoi rhesymau i fod yn uchelgeisiol am yr hyn y gall Cymru ei wneud i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Ym mis Rhagfyr 2020, argymhellodd Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd (CCC) y Deyrnas Unedig (DU) y dylai Cymru symud i dargedu allyriadau Sero Net erbyn 2050, sy’n uwch na’i argymhelliad blaenorol o ostyngiad o 95%. Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, wedi ymrwymo i roi’r targed hwn mewn cyfraith.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) adroddiad ar Gyflawni Trawsnewid Cyfiawn yng Nghymru, gan dynnu sylw at sut y gellir defnyddio datgarboneiddio i unioni anghydraddoldebau presennol ac atal rhai newydd rhag ffurfio. Bydd hyn yn gofyn am waith trawsbynciol rhwng adrannau’r llywodraeth a mentrau a ddarperir gan ystod o randdeiliaid gan gynnwys asiantaethau’r llywodraeth, grwpiau cymunedol a’r sector preifat, gan weithio gyda’i gilydd neu ar wahân. Bydd eglurder o ran canlyniadau yn hollbwysig: Bydd angen i weinidogion gyflwyno gweledigaeth glir, wedi’i chyfleu’n dda o’r hyn y mae cyfiawnder yn ei olygu a sut y bydd y trawsnewid yn effeithio ar weithgarwch economaidd y dyfodol.

Bydd cyrraedd Sero Net yn heriol iawn. Mae allyriadau Cymru wedi gostwng er 1990 ond mae’r rhain wedi’u gyrru gan lai o allyriadau mewn cynhyrchu a chyflenwi pŵer, cyfrifoldeb sy’n perthyn yn bennaf i Lywodraeth y DU. Mewn ardaloedd lle mae gan Lywodraeth Cymru fwy o rym i weithredu, mae allyriadau wedi lleihau’n llawer arafach er gwaethaf targedau a chynigion polisi uchelgeisiol. Er enghraifft, prin y mae allyriadau mewn trafnidiaeth wedi newid er 1990 hyd yn oed wrth i gerbydau ddod yn fwy effeithlon o ran ynni. Ac er bod allyriadau diwydiannol wedi lleihau, mae dadansoddiad CCC yn dangos bod hyn o ganlyniad i lai o alw yn hytrach na thrwy gyflwyno prosesau diwydiannol newydd yn eang.

Er mwyn cyrraedd targedau, bydd angen cynyddu gweithrediad polisi, a gweithredu polisïau newydd lle bo angen. Dylai Llywodraeth Cymru wneud y gorau o’r pwerau sydd ganddi — trwy helpu i ariannu cynhyrchiant ynni ar raddfa lai fel prosiectau ynni morol, er enghraifft.

Mae’r CCC yn cydnabod na ellir (neu na ddylid) cyflawni pob gostyngiad mewn allyriadau trwy weithredu gan y llywodraeth yn unig. Bydd newid ymddygiad ar ran unigolion a sefydliadau ac ail-raddnodi buddsoddiad busnes tuag at dechnoleg carbon isel a di-garbon hefyd yn chwarae rhan fawr. Mae ymchwil flaenorol gan CCC yn awgrymu y gallai newid ymddygiad yn unig yrru cymaint â 60% o ostyngiadau mewn allyriadau, er y bydd yr union gydbwysedd yn dibynnu ar y polisïau y mae llywodraethau yn eu mabwysiadu.

Fel y mae ein hadroddiad Cyflawni Trawsnewid Cyfiawn yn ei ddadlau, gellid defnyddio ‘pŵer ymgynnull’ y llywodraeth — sef gallu llywodraethau i gysylltu ac ysgogi grwpiau o actorion i ddod o hyd i ddull cyffredin o ddelio â phroblem — i hyrwyddo camau gweithredu. Yn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r pŵer hwn yn effeithiol: Mae ymchwil WCPP wedi darganfod bod cydgysylltu rhanddeiliaid a ffurfio a defnyddio rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol wedi helpu i ddarparu adnoddau ar gyfer Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 ac wedi helpu i’w weithredu.

Oherwydd yr ystod eang o actorion y bydd angen eu hymdrechion, bydd yn bwysig dod â phobl ynghyd nad ydynt efallai’n cytuno am yr atebion, neu hyd yn oed maint y broblem. Yn hytrach na chymhlethu’r mater mewn dadleuon am weledigaethau sy’n gwrthdaro, byddai’n fwy adeiladol canolbwyntio ar sut y gall gwahanol ddulliau arwain at ganlyniadau mwy cynaliadwy, ac efallai hyd yn oed ategol.

O ran ynni, nid oes angen i ffocws ar adweithyddion celloedd tanwydd hydrogen ac adweithyddion niwclear modiwlaidd bach arloesol ddisodli ehangiad mewn capasiti ynni adnewyddadwy. Nid oes angen i ymchwil ar ddal a storio carbon anwybyddu beirniadaeth bosibl am ddibynnu ar y dulliau hyn i liniaru allyriadau. Mae lle hefyd i drafodaeth ar sut y gellir cydbwyso coedwigo a newid defnydd tir â chynhyrchu amaethyddol cynaliadwy parhaus sy’n diogelu cymunedau a threftadaeth ddiwylliannol.

Bydd cydnabod lle mae gwrthdaro yn debygol o ddigwydd, a bod â dealltwriaeth glir o’r cyfaddawdau sy’n rhan hanfodol wrth lunio polisïau, hefyd yn egluro’r mecanweithiau llywodraethu a allai helpu i Gyflawni Trawsnewid Cyfiawn. Byddai gwneud hynny hefyd yn egluro pryd a sut y gellid cydbwyso buddiannau sy’n gwrthdaro, a lle y gellid pwysleisio gwahanol fathau o weithredu. Gallai hyn gynnwys cydnabod meysydd lle byddai’r sector preifat yn gallu hybu buddsoddiad cyfalaf yn well na Llywodraeth Cymru, ac i’r gwrthwyneb.

Yn y WCPP, trwy waith ar Gyflawni Trawsnewid Cyfiawn ac agweddau eraill ar ddatgarboneiddio, rydym ni’n ymchwilio i sut y gellir hwyluso cynnydd tuag at economi carbon isel ac rydym yn anelu at helpu llunwyr polisi a rhanddeiliaid ar draws gwasanaeth cyhoeddus Cymru i sicrhau dyfodol glanach a gwyrddach.