Pwerau ac Ysgogiadau Polisi – Beth sy’n gweithio i gyflawni polisïau Llywodraeth Cymru?

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil ar y modd y mae Gweinidogion Cymru’n defnyddio’r pwerau a’r ysgogiadau polisi sydd ar gael iddynt.

Rydym yn canolbwyntio ar ddwy astudiaeth achos: fframwaith statudol 2014 ar gyfer gwasanaethau digartrefedd a’r ymdrech gyntaf i gyflwyno isafbris uned o alcohol yng Nghymru.

Mae ein dwy enghraifft gyferbyniol yn dangos bod angen i lunwyr polisi ystyried fesul achos pa offerynnau polisi sydd fwyaf addas ar gyfer y cyd-destun maent yn gweithio ynddo ac ar gyfer yr amcanion maent am eu cyflawni. Mae deddfwriaeth a chyllid yn amodau angenrheidiol ond nid ydynt yn ddigon ar eu pen eu hunain ac mae angen i lunwyr polisïau deall sut mae defnyddio pwerau anffurfiol i gyflawni pethau.

Rydym yn argymell bod llunwyr polisi yn:

  • Ystyried y cyfyngiadau ar Lywodraeth Cymru ac yn canolbwyntio ar yr amcanion polisi y mae modd eu cyflawni;
  • Ystyried ar y cychwyn pa offerynnau polisi sydd eu hangen arnynt fel y gellir eu trefnu a’u defnyddio’n briodol;
  • Chwilio am ffyrdd o ategu eu hadnoddau eu hunain drwy annog sefydliadau eraill i ymuno â hwy; ac
  • Ymdrechu i wneud y gorau o’r manteision sydd ar gael yn sgil y cyd-destun polisi Cymreig.