Gwirfoddoli a llesiant yn y pandemig: Dysgu o ymarfer

bwyslais ar y rheini a gafodd eu helpu neu ar lesiant cymunedol. Ac eto fe wyddom fod elusennau, cyllidwyr a gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn casglu llawer iawn o ddata ar ffurf astudiaethau achos ar sail ymarfer sy’n darparu’n union y math hwn o dystiolaeth. Yma yng Nghymru, mae cyrff fel Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi casglu cannoedd o astudiaethau achos yn ystod y pandemig yn unig.

Felly, gyda’r ymagwedd synthesis astudiaethau achos arloesol a ddatblygwyd gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Leeds Beckett ar gyfer What Works Wellbeing yn ysbrydoliaeth, edrychom ni ar yr adnodd hwn o astudiaethau achos nad oedd wedi’u defnyddio o’r blaen i ddeall y berthynas rhwng gwirfoddoli a llesiant yn ystod y pandemig. Defnyddiom ni’r dull gyda 50 astudiaeth achos ar sail ymarfer yng Nghymru yn ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau gwirfoddoli, o wasanaethau cyfeillio i gyflenwi bwyd a phresgripsiynau, a luniwyd gan elusennau, cynghorau a grwpiau cymunedol. Gwnaed hyn drwy gymryd golwg gynhwysol ar wirfoddoli (cymorth ffurfiol ac anffurfiol neu ddwyochrog) a defnyddio’r diffiniad o lesiant unigol o’r cysyniad o lesiant cymunedol yn adolygiad What Works Wellbeing o wirfoddoli a llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Beth oedd ein canfyddiadau, a beth mae hyn yn ei olygu i lunwyr polisi ac ymarferwyr?

  • Roedd gwirfoddoli yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant gwirfoddolwyr a’r rheini a gafodd eu helpu, yn bennaf yn ymwneud â’r cyswllt cymdeithasol a ddatblygwyd rhyngddynt ‘ar garreg y drws’ wrth ddanfon bwyd neu feddyginiaeth. Mae’n awgrymu y dylai gwirfoddoli fod yn rhan bwysig o adferiad Cymru dan arweiniad llesiant.
  • Ni ymddangosodd y gwirfoddolwyr o unman. Roedd cyllid hyblyg ac argyfwng yn helpu i hwyluso gwirfoddoli, fel y gwnaeth y seilwaith presennol, o neuaddau eglwys i gynghorau tref a chymuned, gan gyfrannu at lesiant cymunedol. Mae angen buddsoddiad parhaus ar bob lefel o’r seilwaith cymunedol i adeiladu a chynnal cymunedau cryf sy’n barod i ymateb i argyfyngau fel y pandemig a thu hwnt, fel yr argyfwng hinsawdd.
  • Roedd gweithio effeithiol mewn partneriaeth rhwng grwpiau a sefydliadau i ymdrin ag anghenion lleol drwy wirfoddoli yn cynnwys cronni arbenigedd a ffrydiau gwybodaeth i gyfrannu at lesiant unigol a chymunedol. Dylid cynnal y perthnasoedd hyn er mwyn hyrwyddo cydweithio yn y dyfodol ac annog blaenoriaethau cyffredin ar draws sectorau ar ôl y pandemig.
  • Roedd cyfuniad o waith ffurfiol ac anffurfiol yn werthfawr wrth ddarparu’r cymorth oedd ei angen. Roedd gweithgareddau y gellid eu hystyried yn gymorth anffurfiol – fel siopa ar ran cymydog – yn cael eu hwyluso gan sefydliadau ffurfiol yn aml. Mae’r cyfuniad hwn yn hanfodol i ecoleg gwirfoddoli Cymru, ac mae angen ei feithrin er mwyn i wirfoddoli ffynnu.
  • Nod llawer o’r gwirfoddoli oedd lleddfu effeithiau negyddol ar y bobl fwyaf bregus. Diben hyn oedd atal anghydraddoldebau rhag dwysau ac yn aml roedd yn seiliedig ar gymunedau cydlynol ac yn helpu i’w datblygu. Gallai cynnig cymorth i’r bobl y mae’r pandemig wedi cael effaith arbennig o niweidiol ar eu llesiant i wirfoddoli, mewn mannau lle mae angen hwb ar lesiant cymunedol, helpu i reoli effeithiau tymor hirach y pandemig.

Yn y pen draw, mae ein gwaith yn amlygu gwerth dadansoddiad systematig o astudiaethau achos yn seiliedig ar ymarfer, a dywed yr adborth wrthym fod hyn yn cynnig cipolwg defnyddiol, amserol i lunwyr polisi ac ymarferwyr. Ar hyn o bryd, rydym ni’n edrych ar ffyrdd eraill y gallwn ddefnyddio’r dull yn ein gwaith yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac yn ein sesiwn yn Gofod 3 rydym ni’n rhannu ein dysgu gyda chyllidwyr ac ymarferwyr yn y trydydd sector.