Gwersi gwirfoddoli o’r pandemig

Mae Amanda Carr, Cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS), yn myfyrio ar sut mae ei gwaith ymchwil newydd ar wirfoddoli a llesiant yn ystod y pandemig yn paru â’u phrofiadau ei hun.

Roeddwn eisiau dechrau trwy fanteisio ar y cyfle i ddymuno Wythnos Gwirfoddolwyr Hapus i bawb ac i ddweud diolch enfawr i’r holl wirfoddolwyr hynny y mae eu rhodd amhrisiadwy o’u hamser, eu hegni a’u cariad at ein cymunedau wedi helpu i gadw Cymru’n wydn ac yn gryf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r wythnos hon, felly, yn gyfle delfrydol i lansio’r adroddiadau ymchwil ar wirfoddoli a llesiant yn ystod y pandemig.

Wrth i mi ysgrifennu hwn, rwy’n eistedd, gartref, yn aros am gyfarfod arall ar-lein, yn fy achos i, cyfarfod rhanbarthol lle y byddaf i, ynghyd â phartneriaid statudol, yn adrodd ar rôl gwirfoddolwyr a’r sector gwirfoddol a chymunedol wrth lunio cynlluniau rhanbarthol ar gyfer y dyfodol ac, yn fwy taer, y rôl sydd gennym ni mewn ymdrechion parhaus i adfer o’r pandemig.

Yn ein hardal ni, d’oes dim amheuaeth fod pob sector yn chwarae rolau hanfodol yn yr ymdrechion hyn. Mae gwirfoddolwyr wedi gwirioneddol brofi eu gwerth i’n partneriaid statudol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r cydberthnasau a adeiladwyd yn gryfach nag erioed. Mae’n dda gweld y cydberthnasau cryf hyn yn cael eu nodi yn y gwaith ymchwil a’u bod yn bodoli ar hyd a lled Cymru.

Mae llawer wedi newid mewn blwyddyn

Wrth edrych yn ôl ar fy nyddiadur ar yr Wythnos Gwirfoddolwyr y llynedd, gallaf weld bod llawer wedi symud ymlaen. Mae’r problemau roedden ni’n eu hwynebu yn Abertawe yr adeg hon y llynedd yn wahanol i’r rhai rydyn ni’n eu hwynebu heddiw. Yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr y llynedd, roeddwn mewn nifer o gyfarfodydd yn ceisio rhoi trefniadau ar waith i wirfoddolwyr a oedd yn cynorthwyo pobl agored i niwed i gael siopa a phresgripsiynau, ac i gael cyfarpar diogelu personol (PPE) er mwyn diogelu eu llesiant nhw a llesiant y bobl roedden nhw’n eu cynorthwyo yn well.

Mae fy nyddiadur hefyd yn dangos nifer o gyfarfodydd i edrych ar y ffordd orau o gynorthwyo plant a phobl ifanc i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod clo. Gwnaeth ein partneriaid yn yr ardal hon weithio’n agos iawn gyda’i gilydd ar y ddwy broblem hyn i ddod o hyd i ddatrysiadau creadigol, a newidiodd pethau’n gyflym er budd ein cymunedau. (Roedd y cyfarfodydd yn werth chweil a ffurfiwyd cydberthnasau gweithio hirdymor cadarnhaol tu hwnt!)

Edrych i’r hirdymor

Dengys y gwaith ymchwil sut y cafodd cymaint o’n cymunedau eu cynorthwyo gan ymdrechion gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru, ac roedd yn braf iawn darllen am sut roedd gwirfoddoli mor werthfawr, nid yn unig i’r rheini a oedd yn derbyn cymorth ond hefyd i’r gwirfoddolwyr a oedd yn rhoi o’u hamser. Bydd hi’n ddiddorol edrych ar lesiant hirdymor y rheini a oedd yn derbyn cymorth ac yn ei gynnig a’r cyfraniad y mae gwirfoddoli wedi’i wneud yn hyn o beth.

Mae edrych ar ganlyniadau llesiant yn yr hirdymor wedi’i nodi fel argymhelliad ac mae’r bwlch cyfredol yn y gwaith ymchwil sy’n bodoli, y seilwaith sy’n cefnogi gwirfoddoli yng Nghymru, yn golygu ein bod mewn safle ardderchog i gefnogi gwaith ymchwil pellach, oherwydd mewn llawer o achosion, mae mudiadau seilwaith wedi meithrin cysylltiadau hirdymor â gwirfoddolwyr.

Gwersi i reolwyr gwirfoddolwyr

I reolwyr gwirfoddolwyr, fodd bynnag, dengys y gwaith ymchwil bod angen dysgu rhai pethau pwysig o’r profiad gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Byddwn ni i gyd yn cofio’r niferoedd enfawr o wirfoddolwyr a gamodd ymlaen i gynnig help ar y dechrau, pan oedd rolau angenrheidiol dim ond yn dechrau dod i’r golwg. Cymaint o bobl eisiau helpu a chyda cymaint o gymhellion dros wneud hynny – rhai wedi’u rhoi ar ffyrlo a chydag amser i wirfoddoli, o bosibl am y tro cyntaf, eraill eisiau gwneud rhywbeth defnyddiol neu wneud mwy o wirfoddoli neu wirfoddoli gwahanol a fyddai’n eu cysylltu’n agosach â’u cymuned leol.

I rai, roedd y cynnig cychwynnol o help yn rhwystredig, yn aros i gael tasgau wedi’u dyrannu iddyn nhw wrth i grwpiau a mudiadau wneud newidiadau i’w rhaglenni gwirfoddoli er mwyn diwallu’r anghenion byth newidiol a oedd yn dod i’r golwg.

Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n credu bod rheolwyr gwirfoddolwyr yn pwyso a mesur eu rolau a chyfleoedd o’r newydd nawr, ac yn canolbwyntio’n fawr ar addasu rolau i weddu’n well ag anghenion cymelliannol a ffordd o fyw’r rheini sy’n dymuno gwirfoddoli.

Rwy’n gobeithio bod y flwyddyn hon o addasu yn golygu bod y sector gwirfoddol a chymunedol bellach mewn sefyllfa i gadw’r gwirfoddolwyr a ddaeth ymlaen yn ystod y pandemig ac i droi gwirfoddoli’n ddewis gydol oes i’n gwirfoddolwyr newydd. Rwy’n gobeithio bod rhai o’r rhwystredigaethau a deimlwyd gan ddarpar wirfoddolwyr ac a nodwyd yn yr adolygiad o dystiolaeth wedi’u goresgyn.

Myfyrio ar yr argymhellion

Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion o ran dyfodol gwirfoddoli – adeiladu ar y dulliau gweithredu hyblyg a ddaeth i’r golwg ar anterth y pandemig, addasu i gynnwys gwirfoddolwyr ‘anffurfiol’ a chanolbwyntio ar gyfleoedd lleol iawn – mae’r rhain yn teimlo’n iawn ar sail ein profiadau yn Abertawe a’r adborth rydyn ni wedi’i dderbyn yn ystod sesiynau cyd-gynhyrchu rhanbarthol a oedd yn edrych ar sut gall gwirfoddoli gefnogi adferiad llesiant.

Mae wedi bod yn flwyddyn a hanner ac mae cymaint gennym ni i’w hystyried, gyda chymorth canfyddiadau’r gwaith ymchwil a thystiolaeth ac astudiaethau achos y rheini a gyfrannodd. Mae gan wirfoddoli gymaint i’w gynnig i lesiant cymunedau ac unigolion.

Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi’r cyfle i ni ystyried sut gallem ni gynnwys yr hyn a ddysgwyd yn ein rhaglenni gwirfoddoli yn y dyfodol a sut gall gwirfoddoli chwarae rhan yn y gwaith o gynorthwyo’r bobl hynny y cafodd eu llesiant ei amharu’n ddifrifol gan y pandemig.

Ynglŷn â gwirfoddoli a llesiant yn ystod y pandemig

Cafodd y gwaith ymchwil hwn ei wneud gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a CGGC, a chafodd ei gyllido gan Grant Adfer Gwirfoddoli Llywodraeth Cymru. Gallwch chi ddarllen yr adroddiad llawn yma.