Adeiladu ar sylfeini cryf: ymateb gwirfoddolwyr i’r pandemig yng Nghymru

Mae Emma Taylor-Collins a Hannah Durrant o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a Rheolwr Helplu Cymru CGGC, Fiona Liddell, wedi mynd ati i edrych am batrwm yn y straeon gwirfoddoli llwyddiannus diweddar ar hyd a lled Cymru.

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi clywed llawer am ymateb sylweddol gwirfoddolwyr i’r pandemig. Mae gwirfoddolwyr a’r trydydd sector yng Nghymru, a gweddill y DU, wedi ymateb yn gyflym ac yn arloesol. Ym mis Mai 2020, roedd mwy na thraean (35%) o bobl yng Nghymru yn gofalu am aelodau o’r teulu, ffrindiau, cymdogion neu bobl eraill, neu’n rhoi help neu gefnogaeth iddynt – 29% yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.

Ond nid yw’n debygol bod yr ymateb hwn wedi ymddangos yn ddisymwth. Yn awyddus i ddeall pa rag-amodau allai fod wedi gwneud yr ymateb hwn yn bosibl yng Nghymru, aethom ati i archwilio amrediad o astudiaethau achos ar wirfoddoli a Covid-19, a gasglwyd gan CGGC. Gwnaethom edrych am y ffactorau galluogi a oedd y tu ôl iddynt yn ein tyb ni.

 

Cymorth i ddarpariaeth statudol

Cafodd nifer o gynlluniau gwirfoddoli eu sefydlu er mwyn rhoi cymorth bwriadol i wasanaethau statudol. Mewn llawer o achosion, y Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) lleol oedd y cyswllt hanfodol rhwng yr awdurdod lleol, mudiadau cymunedol a gwirfoddolwyr yn ôl pob golwg.

Er enghraifft, sylweddolodd Cyngor Sir Ddinbych yn gynnar yn y pandemig eu bod angen mwy o gapasiti i ddiwallu anghenion pobl a warchodir a’r rheini sy’n agored i niwed. Aeth ati o’r cychwyn cyntaf i drafod sut gallai gwirfoddolwyr helpu gyda’i CVC lleol, gan sefydlu a rhedeg cynllun atgyfeirio ar gyfer cydlynu ymateb gwirfoddoli cymunedol.

Cafodd gwirfoddolwyr eu recriwtio drwy wefan Gwirfoddoli Cymru, a naill ai eu hatgyfeirio i fudiadau eraill neu eu paru â cheisiadau am gymorth, fel siopa, casglu presgripsiynau a cherdded cŵn.

Drwy wneud hyn, roedd yr ymateb cymunedol yn cael ei drefnu’n unol ag arferion diogel ar gyfer gwirfoddolwyr a’r rheini roedden nhw’n eu cynorthwyo, a’i gysylltu â darpariaeth wirfoddol a statudol leol, gyda’r nod o sicrhau bod adnoddau gwirfoddol yn cael eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol bosibl.

 

Dod â’r gymuned ynghyd

Yn Llansawel, daeth nifer o fudiadau cymunedol ynghyd i ffurfio rhwydwaith cydlynol mewn ymateb i’r pandemig, gan ddefnyddio’u gwasanaethau a’u gwybodaeth arbenigol penodol.

Yn union cyn y cyfyngiadau symud, trefnodd arweinydd côr lleol gyfarfod gyda chynrychiolwyr grwpiau cymunedol lleol, gan gynnwys aelodau etholedig, busnesau, y gwasanaethau cymdeithasol a’r CVC lleol. Gwnaethant roi systemau ar waith er mwyn ceisio helpu aelodau mwyaf agored i niwed eu cymdeithas drwy’r argyfwng a helpu i ‘ysgafnhau baich y GIG’ pe bai’r sefyllfa’n gwaethygu.

Gwnaeth mudiadau unigol gynnig eu hadnoddau a chael gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaethau. Er enghraifft, daeth y ganolfan gymunedol yn bwynt dosbarthu ar gyfer cyflenwadau hanfodol; ehangodd y banc bwyd ei wasanaethau i gynnwys gwasanaeth cludo bob wythnos; gwnaeth un arall drefnu gweithgareddau i gefnogi lles meddyliol ac emosiynol menywod; a gwnaeth y Clwb Bechgyn a Merched ddatblygu a dosbarthu gweithgareddau i blant.

 

Addasu i ddiwallu anghenion newydd

Mae Siop Gymunedol a chaffi Llandegla wedi cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr a dau aelod staff cyflogedig rhan-amser ers blynyddoedd. Bu’n rhaid i’r caffi gau yn ystod y pandemig, ac roedd y siop ar agor am lai o oriau ac mewn perygl o ddefnyddio’i holl arian wrth gefn er mwyn ceisio dal ei phen uwchlaw’r dŵr. Gan fod y dref siopa agosaf yn daith 18 milltir dwy ffordd, mae’r siop yn hanfodol i’r gymuned leol, ac roedd hyn yn arbennig o wir yn ystod y cyfyngiadau symud.

Gwnaeth grant argyfwng bychan gan fusnes lleol, a weinyddwyd gan y CVC, eu galluogi i barhau ac i ddatblygu eu gwasanaeth, gan gynnwys darparu gwasanaeth cludo i’r cartref ar gyfer unigolion wedi’u hynysu a gwasanaeth casglu presgripsiynau. Mae’r grŵp yn ceisio gweld sut gallant gynnal y gwasanaethau newydd hyn a ddatblygwyd yn y dyfodol.

 

Beth allai fod wedi gwneud yr ymateb hwn yn bosibl?

O’r astudiaethau achos hyn a rhai eraill a gasglwyd, darganfuom bedwar ffactor sydd, yn ôl pob golwg, wedi bod yn arbennig o bwysig o ran galluogi ymateb gwirfoddolwyr i’r pandemig yng Nghymru.

  • Gwybodaeth leol

Roedd trefnu ar sail lle, gyda gwybodaeth am yr ardal leol, yn bwysig o ran nodi anghenion lleol a deall sut newidiodd yr anghenion hynny yn sgil y pandemig. Awgryma llenyddiaeth ddiweddar (Saesneg yn unig) ar drefniadau cymunedol yn y pandemig fod gwybodaeth leol wedi galluogi ymateb cymunedol cyflym mewn rhannau eraill o’r DU.

  • Dyfeisgarwch a hyblygrwydd

Gwnaeth cael sylfaen wirfoddoli gref eisoes ar waith – gyda’r capasiti i fod yn hyblyg o ran y gwasanaethau roedden nhw’n eu darparu – alluogi symudiad cyflym o weithgarwch cyfredol i weithgarwch newydd mewn ymateb i’r pandemig. Mae Angus McCabe ac eraill (Saesneg yn unig) yn cyfeirio at hyn fel ‘dyfeisgarwch’ yn hytrach na gwydnwch. Mae’n ymbellhau o’r syniad bod cymunedau’n gyfrifol am ‘ymdopi’ ag argyfwng, ac yn defnyddio’r syniad y gall cymunedau, gydag adnoddau cyfyngedig ond hanfodol, ymateb yn effeithiol.

  • Cydberthnasau

Dangosodd y mwyafrif o’n hastudiaethau achos fod cydberthnasau gweithio effeithiol rhwng cyrff yn tueddu i arwain at ymateb cydlynol a chyflym. Gwelsom y cydberthnasau hyn yn datblygu drwy, er enghraifft, galwadau ar y cyd gan gynghorau a CVCs i recriwtio gwirfoddolwyr a gwasanaethau’n cael eu darparu ar y cyd neu’n gydlynol. Dangosodd hyn allu i gyfuno adnoddau a chyfeirio neu ailgyfeirio’r cymorth i ble oedd ei angen a ble allai gael ei ddefnyddio.

  • Seilwaith a chymorth yn eu lle

Roedd seilwaith digidol eisoes yn ei le i gefnogi gweithgarwch gwirfoddol drwy wefan Cymru gyfan www.volunteering-Wales.net. Roedd seilwaith cyfredol ar ffurf awdurdodau lleol, byrddau iechyd, CVCs a chynghorau tref a chymuned hefyd yn bwysig o ran cydlynu a hwyluso’r ymateb.

 

Beth mae hyn yn dweud wrthym?

Awgryma ein hadolygiad o’r astudiaethau achos yng Nghymru fod rhai pethau tebyg yn y rhwydweithiau ac arferion cyfredol ar draws gwahanol ddaearyddiaeth, mathau o weithgarwch a rhanddeiliaid a allai fod wedi helpu i alluogi ymateb gwirfoddolwyr i’r pandemig. Gwnaethom hefyd weld ychydig o hyn yn gynharach yn y flwyddyn, cyn y pandemig.

Gwnaeth yr ymateb cymunedol i’r llifogydd yng Nghymru ar ddechrau 2020 hefyd fanteisio ar wybodaeth leol, cydberthnasau a seilwaith sefydliedig, er ei fod yn ymateb i wahanol fath o argyfwng, gan ddangos hyblygrwydd o ran ymateb i’r angen lleol (gweler straeon (Saesneg yn unig) enghreifftiol ar Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf).

Awgryma hyn y bydd cynnal y sefyllfaoedd hyn nid yn unig yn bwysig ar gyfer ymateb i gyfyngiadau symud neu glefydau pandemig yn y dyfodol, ond hefyd o ran ymateb i’r argyfyngau amgylcheddol fwyfwy gyffredin rydyn ni’n debygol o’u hwynebu yn y dyfodol.

Yr hyn nad ydym yn ei wybod eto yw pa ffactorau eraill allai fod wedi hwyluso neu lesteirio ymateb gwirfoddolwyr i’r pandemig neu argyfyngau fel y llifogydd. Nid ydym chwaith yn gwybod digon am ba mor effeithiol oedd yr ymateb, a pha anghenion allai fod wedi syrthio drwy’r rhwyd yn ystod y saith mis diwethaf. Gallai mwy o ddealltwriaeth o hyn ein helpu i wybod beth allai gael ei roi ar waith nawr er mwyn rhoi sylw i’r angen a ragwelir yn y dyfodol.