Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd

Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth gyntaf erioed i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol – “Cymunedau Cysylltiedig”.  Mae’n debyg ein bod ni i gyd wedi profi’r teimladau hyn ar ryw adeg yn ein bywydau, ond pan fyddant yn dod yn hirdymor ac yn sefydledig, gallant gael effaith enfawr ar ein lles corfforol a meddyliol. Ac ‘er bod unigrwydd yn wahanol i ynysigrwydd cymdeithasol…mae ynysigrwydd cymdeithasol yn cynyddu’r risg o unigrwydd’.

Mae’r strategaeth yn cydnabod y gall unrhyw un brofi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ar unrhyw oedran. Fodd bynnag, mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai grwpiau mewn cymdeithas sy’n wynebu mwy o risg, a rhai adegau yn ein bywydau pan fyddwn yn fwy agored i niwed.

Roeddem ni yn Llywodraeth Cymru yn arbennig o bryderus am risgiau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith pobl hŷn oherwydd yn ystod y pandemig nhw oedd yr aelodau o’r gymdeithas oedd â’r mynediad lleiaf i’r dyfeisiau digidol a’r dechnoleg, a’r hyder i’w defnyddio, a ddaeth yn gyflym yn brif ffordd i bobl gadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfyngiadau symud. Er i ni weld llawer o enghreifftiau cadarnhaol o wirfoddolwyr yn cynnig cefnogi’r bobl hŷn yn eu cymunedau, diflannodd y ffyrdd arferol o gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.

Mae ein strategaeth hefyd yn cydnabod y rhan y gall technoleg ddigidol ei chwarae i’n helpu i deimlo’n gysylltiedig ag eraill ac â’n cymunedau.  Roeddem felly’n awyddus i archwilio a oedd cyflwyno a defnyddio technolegau digidol amrywiol wedi gwneud gwahaniaeth i bobl hŷn yn ystod y cyfyngiadau symud ac a oes enghreifftiau cadarnhaol y gallwn eu defnyddio wrth ddatblygu polisi yn y dyfodol.

Cymru Iachach yw ein strategaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal integredig yng Nghymru, ac roedd yn bwysig inni ymdrin â’r darn hwn o waith mewn ffordd integredig. Daethom felly â chydweithwyr o Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd i weithio gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a Phrifysgol Caerfaddon ar y prosiect hwn.

Mae allbynnau’r ymchwil wedi bod yn ddiddorol i’w darllen. Nid oedd yn syndod gweld bod yn well gan bobl hŷn ddefnyddio’r ffôn na dyfeisiau eraill, ond nid oeddem yn disgwyl y byddai cymaint o bryder gan aelodau’r teulu ynghylch diogelwch dyfeisiau a’r niwed posibl o sgamiau ar y rhyngrwyd. Roedd defnyddwyr gwasanaeth yn pryderu y byddai defnyddio technoleg yn golygu bod sgamwyr yn ‘gallu cael mynediad i’w cyfrifon banc a’r pensiynau roedden nhw wedi gweithio’n galed i’w hennill.’ Mae’n sicr yn rhywbeth y bydd angen inni feddwl yn ofalus amdano wrth ystyried prosiectau a gwasanaethau sy’n gwneud defnydd o dechnoleg ddigidol.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn bwydo allbynnau’r gwaith ymchwil hwn i’n Cymuned Ymarfer ar gyfer Gofal yn y Gymuned. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o Sefydliadau’r GIG, llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol felly mae’n gyfle gwych i rannu canfyddiadau adroddiad WCPP i gynulleidfa ehangach.

Byddwn hefyd yn rhannu’r adroddiad gyda’n grŵp cynghori ar strategaeth unigrwydd ac ynysigrwydd sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector statudol a’r trydydd sector a sefydliadau llawr gwlad. Mae’r grŵp yn chwarae rhan hanfodol yn ein helpu ni yn Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i fynd i’r afael ag unigrwydd gyda’n gilydd ac i ganolbwyntio ar sut y gallwn wneud gwahaniaeth. Bydd y gwaith ymchwil hwn felly yn bwydo i mewn i’r gwaith o lunio polisi yn y dyfodol ar faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.