Dylunio gwasanaethau sy’n defnyddio technoleg i fynd i’r afael ag unigrwydd

Roedd mynd i’r afael ag unigrwydd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru cyn pandemig y Coronafeirws ac mae wedi dod yn fwyfwy pwysig ers hynny.

Mae ymateb polisi llywodraethau ar draws y byd sy’n delio â phandemig y Coronafeirws wedi bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob un ohonom yn cadw pellter corfforol oddi wrth bobl eraill. Mae pryder cynyddol ynghylch effaith polisïau cadw pellter corfforol – y cyfeirir atynt yn aml fel cadw pellter cymdeithasol – ar unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Gall technoleg gynnig rhywfaint o ffyrdd posibl i unigolion, teuluoedd, ffrindiau a chymunedau liniaru’r effeithiau hyn.

Gall y profiad o unigrwydd fod yn drallodus iawn, ac mae’r effeithiau ar iechyd meddwl a chorfforol yn ddifrifol iawn. Mae ymchwil yn dangos bod unigrwydd yn cynyddu’r risg o iselder, dirywiad gwybyddol a dementia, yn ogystal â phwysedd gwaed uchel, clefyd coronaidd y galon, strôc ac mae’n cynyddu’r risg o farwolaeth 26%.

Mae’r adroddiad hwn yn cyfuno ymchwil sy’n ymwneud ag ymyriadau sy’n defnyddio technoleg i drechu unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. At ddibenion yr adroddiad hwn, rydym yn mabwysiadu diffiniad eang o dechnoleg, sy’n cynnwys technolegau syml a hygyrch iawn fel ffôn a radio, yn ogystal â thechnolegau digidol fel dyfeisiau a llwyfannau sydd angen cysylltiad â’r rhyngrwyd.